Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Cadw Golwg


Cadw golwg yw lefel isaf yr ymyrraeth archaeolegol sy’n ofynnol fel amod gynllunio fel arfer. Mae awdurdodau lleol yn gofyn am hyn pan fydd ymchwiliadau blaenorol (megis asesiadau desg neu werthusiadau) wedi datgelu potensial am olion a allai fod o ddiddordeb archaeolegol. Yn yr achosion hyn, cadw golwg yw’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o leihau risg archaeolegol mewn prosiect datblygu, ac mae’n cyflawni eich rhwymedigaethau fel datblygwr.


Mae cadw golwg yn cynnwys presenoldeb un neu fwy o archaeolegwyr ar y safle, yn cofnodi, arlunio a thynnu llun o olion archaeolegol wrth i waith adeiladu eu datgelu.

Pa un a ydych yn adeiladu estyniad i’ch cartref neu’n ymgymryd â chynllun ffordd mawr, gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed eich helpu i gyflawni unrhyw amod gynllunio archaeolegol a osodir ar eich datblygiad, yn yr amser lleiaf ac â chyn lleied o ffys â phosibl. Mae ein pecyn hollgynhwysol yn cynnwys cynllun ymchwilio ysgrifenedig fel sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac adroddiad cynhwysfawr sy’n dderbyniol i gynghorydd archaeolegol rhanbarthol yr Awdurdod: gofyn hanfodol er mwyn cyflawni eich amod gynllunio.

 

I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

Nigel Page AIFA, Uwch Reolwr Prosiect n.page@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825986

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]