 |
CYFLEOEDD I WIRFODDOLI GYDAG YMDDIRIEDOLAETH ARCHEOLEGOL
DYFED
Mae cyfleoedd ar gael i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn cloddiadau ac arolygon
archeolegol yn ystod y flwyddyn sy’n dod. I’r rhai heb ddim
profiad o archeoleg, ond a hoffai roi cynnig arni, mae sesiynau ‘rhagflas’
byr ar gael, gyda chyfnodau hwy yn cael eu cynnig i’r rhai mwy ymroddedig.
Ar ben hyn, cynhelir diwrnodiau agored, ysgolion undydd ac arddangosfeydd
trwy gydol y flwyddyn. Mae union ddyddiadau rhai digwyddiadau eto i’w
pennu’n derfynol. Am wybodaeth fanylach cysylltwch â Richard
Jones ar 01558 825997 (r.jones@dyfedarchaeology.org.uk)
Cloddio ac arolwg geoffisegol
- 23 - 28 Mehefin 2008. Cloddio ac arolwg o dref amddifad Y Drenewydd,
Parc Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
- 28 Gorffennaf - 16 Awst 2008. Cloddio, arolygu a chofnodi adeiladau ar gapel
a mynwent o’r oesoedd canol ym Mhorth Clew ger Freshwater East, Sir Benfro.
- Gwanwyn a Hydref 2008. Arolwg geoffisegol o ddau safle claddu/defodol
cynhanesyddol. Un yng ngogledd Ceredigion a’r llall yn ne’r
sir yn ymyl Aberteifi.
- 30 Mehefin - 14 Gorffennaf 2008. Cloddio a chynnal arolwg o adeilad
Rhufeinig posibl ym mharc Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
- Gwanwyn-Haf-Hydref 2008. Arolwg, cloddio ac ymchwil yng Nghors Fochno,
gogledd Ceredigion.
Diwrnodiau Agored ac Ysgolion Undydd
- 15 Mehefin 2008. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn bresennol mewn achlysur
a drefnir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngardd Coedlan Colbi,
Sir Benfro.
- 28 Mehefin 2008. Dydd Agored yn y cloddiad ar y dref ddiffaithiadwy,
y Dref Newydd ym Mharc Dinefwr, Llandeilo yng nghysylltiad gyda yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol. Bydd y pris mynediad arferol i'r Parc i'w dalu.
- 30 Mehefin 2008. Cyfarfod Cynhoeddus ynglyn a Archaeoleg Cors Fochno
yn Neuadd Talybont am 7yh.
- 12 Gorffennaf 2008. Dydd Agored yn y cloddiad o adeilad bosibl Rhufeinig
ym Mharc Dinefwr, Llandeilo yng nghysylltiad gyda yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol. Bydd y pris mynediad arferol i'r Parc i'w dalu.
- 12 Gorffennaf 2008. Diwrnod agored ar thema’r Oesodd canol
yng Nghastell Rhydaman ar y cyd â Chymdeithas Archeoleg a Hanes
Sir Benfro fel rhan o’r Wythnos Archeoleg Genedlaethol.
- 19 Gorffennaf 2008. Diwrnod agored yn yr amgueddfa, Abergwili ar y
cyd ag Amguedda Caerfyrddin fel rhan o’r Wythnos Archeoleg Genedlaethol.
- 15 Tachwedd 2008. Ysgol Undydd Sir Benfro, Hwlffordd.
- Chwefror 2009. Ysgol Undydd Ceredigion, Aberystwyth.
|