Arolygon Topograffaidd
Mae defnyddio theodolitau electronig ac offer arolygu eraill wedi trawsnewid arolygon topograffaidd archaeolegol, ac yn ein galluogi i arolygu darnau mawr o dir yn rhad ac yn gyflym. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod ar reng flaen datblygu technegau arolygu a chyflwyno’r canlyniadau mewn amrywiaeth o fformatiau dymunol a hawdd i’w deall ar gyfer ystod o gleientiaid gwahanol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a’r Fenter Coedwigoedd. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn arwain y farchnad o ran cynhyrchu arolygon parciau a gerddi topograffaidd manwl, megis y rhai yn Hafod, Piercefield a Phenllegare , a gall fodloni eich holl ofynion arolygu, boed yn fawr neu’n fach.
I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â: Nigel Page AIFA, Uwch Reolwr Prosiect n.page@dyfedarchaeology.org.uk Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]