Claddedigaeth
gyda blodau, 4000 o flynyddoedd oed ar y Mynydd Du (Mawrth 2006)

Golygfa Fan Foel o Landeusant
|

Y Cloddiad
|

Y Cwrbyn
|

Wrn Crochenwaith
|
Mae canlyniadau newydd o’r cloddiad o domen
gladdu o’r Oes Efydd ar y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin, yn
rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o seremoni gladdu iasol a hynny fwy
na 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sydd wedi’i leoli yn Llandeilo
sydd wedi gwneud y gwaith cloddio ar y Fan Foel, uwchben Llyn y
Fan Fach, sydd wrth gwrs yn lleoliad i chwedl ‘Morwyn y Llyn’.
Cyn i’r gwaith cloddio ddechrau, gwelwyd bod y gofeb yn araf
bach yn cael ei dinistrio trwy gyfuniad o’r tywydd a’r
cannoedd o gerddwyr sy’n dringo’r mynydd bob blwyddyn.
‘Roedd ymwelwyr yn casglu cerrig o’r
gofeb ac yn creu carnedd fechan eu hunain’, esboniodd Gwilym
Hughes, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. ‘Yr unig ateb oedd
i gloddio a chofnodi rhannau bregus y safle ac i ddiogelu’r
hyn sydd ar ôl rhag iddo gael rhagor o niwed’.
Ymgymerwyd â’r gwaith maes yn ystod
haf 2004 ac fe’i ariannwyd gan Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog. Yng nghanol y domen gladdu, wnaeth yr archaeolegwyr
archwilio cynnwys cist gladdu fawr hirsgwâr o garreg gyda
maen capan drosti. Yn y gist roedd yna asgwrn o gorfflosgiad, wrn
wedi’i wneud o lestr, pin asgwrn ac offer fflint. Mae’r
asgwrn yn perthyn i blentyn ifanc, o bosib plentyn nad yw’n
hyn na 12 mlwydd oed. Serch hynny, roedd yn dipyn o syndod fod y
dyddodiad hefyd yn cynnwys esgyrn sydd wedi’u llosgi o ddau
fochyn a chi o bosib. Mae’r asgwrn wedi cael dyddiad radiocarbon
o tua 2000CC gan Brifysgol Groningen yn yr Iseldiroedd, diolch i
grant oddi wrth Amgueddfa Cymru. Mae dyddio radiocarbon pellach
hefyd yn dweud wrthym fod yna ail gladdedigaeth hwyrach wedi’i
gosod i mewn i ymyl y domen gladdu.
Mae’r gwaith dadansoddi diweddaraf wedi’i
wneud gan Brifysgol Llambed gan edrych ar y pridd o amgylch y gladdedigaeth.
Mae’r gronynnau bach lleiaf o baill sydd wedi’u darganfod
yn y pridd yn dangos fod yna dusw o flodau erwain yn y gladdedigaeth,
sef clystyrau hardd o flodau hufen-gwyn. Yn ôl Adam Gwilt,
Curadur Casgliadau Oes Haearn Amgueddfa Cymru, mae’r darganfyddiad,
‘yn rhoi rhyw dynerwch i ddefodau sydd fel arfer yn ddefodau
claddu anghysbell ac amhersonol’. Mae’n rhyfeddol, bod
union yr un fath o ddefod gladdu, gydag esgyrn o gorfflosgiad, crochenwaith
a blodau erwain mewn cist o garreg, wedi’u darganfod mor bell
i ffwrdd ag Ynysoedd Erch (Orkneys) yn Perthshire yn Yr Alban. Mae’n
amlwg bod llawer o ucheldiroedd Prydain yn rhannu traddodiadau cyffredin
pan yn ymdrin â marwolaeth.
Mae’r dadansoddiad o’r paill yn Fan
Foel hefyd yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r llystyfiant oedd
ar y mynydd ar adeg y gladdedigaeth. ‘Rhostir a thir pori
agored oedd yna’n bennaf lle roedd y garnedd wedi’i
hadeiladu’, meddai Astrid Caseldine o Brifysgol Llambed. ‘Serch
hynny’, ychwanegodd, ‘roedd yna dystiolaeth yn ogystal
fod y rhostir wedi’i losgi’n fwriadol, sydd o bosib
yn cynrychioli gweithgarwch defodol sy’n gysylltiedig â’r
claddedigaethau’.
Yn Fan Foel fe fyddai’r domen gladdu yn weladwy
i gymunedau amaethyddol gwasgaredig a leolwyd yn yr ardal o amgylch
Myddfai a Llanddeusant 4000 o flynyddoedd yn ôl. Dim ond ceisio
dyfalu y gallwn ei wneud pwy oedd y plentyn ifanc a pham y bu farw.
O bosib roedd yn blentyn i bennaeth un o’r llwythi lleol;
yn bendant roedd yn rhywun o statws oedd angen defod gladdu gymhleth
a chofeb. Heb amheuaeth bydd copaon geirwon Bannau Sir Gâr
yn parhau i gelu llawer o gyfrinachau gan fod yn ysbrydoliaeth i
lawer o chwedlau gwych y dirwedd hynod hon.

Y gist yn Faen Foel yn ystod y gwaith cloddio
|