Hyrwyddo a Dehongli Treftadaeth
Gweler engreifftiau o Fwrddiau Hyrwyddo Treftadaeth Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed enw da a phrofiad cydnabyddedig mewn amrediad o weithgareddau dehongli a hyrwyddo treftadaeth, gan gynnwys paneli dehongli ar safle, taflenni ac arweinlyfrau hanes lleol, cyhoeddiadau poblogaidd, arddangosfeydd, ac ymgorffori elfennau o dreftadaeth mewn datblygiadau modern. Mae gweithwyr ymchwil profiadol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn sicrhau cywirdeb a chyfanrwydd ar gyfer dehongli cyhoeddus. Defnyddia ei adran gynllunio y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn cynhyrchu cynlluniau, celfwaith, arlunio technegol ac adluniadau o safon uchel. Darperir gwasanaethau rheoli prosiect a chyngor ar gyfer datblygu safleoedd hanesyddol fel atyniadau twristaidd ac addysgol. Cynhelir ymgynghoriaethau er mwyn adnabod a nodi defnydd yr asedau archaeolegol a hanesyddol i ysgogi economïau rhanbarthol. Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad helaeth o weithio gydag awdurdodau lleol a mentrau yn y gymuned, gan helpu i adnabod ac ymchwilio i’r dreftadaeth hanesyddol a diwylliannol, sef dwy elfen allweddol wrth ddatblygu twristiaeth drefol a gwledig. Gwasanaethau
Phillip Wait, Dylunydd Graffeg p.wait@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]