Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Cloddio

Gallai cloddio gynnwys ymchwilio’n helaeth i ardal fach neu archwilio sawl hectar o dirwedd. Fel arfer, mewn cyd-destun masnachol, dyma gam olaf rhaglen o waith archaeolegol a fyddai wedi dechrau gydag asesiad pen bwrdd a gwerthusiad maes dros dro wedyn.

Mae gan dîm archaeolegwyr proffesiynol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad sylweddol ac amrywiol o gloddio, gan gynnwys amrywiaeth o brosiectau bach a mawr, ac mae ein staff yn arbennig o gyfarwydd â gweithio mewn amgylcheddau gwledig, trefol a rhynglanwol. Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gefndir rhagorol mewn cynhyrchu adroddiadau prydlon a thrylwyr, ar amser ac o fewn cyllideb, gan weithio gydag ac ar ran amrywiaeth o gleientiaid gwahanol.

Gallwn eich cynorthwyo chi o gyfnodau cynllunio cynharaf eich prosiect ac rydym yn ymroddedig i weld pob menter unigol yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys dadansoddiad wedi’r cloddio a chyhoeddi canlyniadau mewn cyfnodolion rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae holl staff yr Ymddiriedolaeth wedi eu cofrestru gyda CSCS i weithio ar safleoedd adeiladu ac wedi eu hyfforddi i ddeall materion iechyd a diogelwch.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ymroddedig i weithio gyda chi er mwyn i chi gyflawni eich nodau. O dorri ffosydd bach i waith cloddio ymchwil mawr a hyfforddiant cloddio, cynigiwn wasanaeth cyflawn o’r dechrau i’r diwedd.


Gwler ein dyddiadur o'r cloddiad yn Ffynnonwen.

Gweler ein dyddiadur o'r cloddiad yn Brownslade.

 

I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

Nigel Page AIFA, Uwch Reolwr Prosiect n.page@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825986

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]