Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Gwerthusiadau Archaeolegol yn y Maes

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed mewn sefyllfa dda i’ch cynghori o effaith archaeolegol bosibl eich cynnig a chynnig atebion lliniaru ymarferol os bydd gofyn.

Bydd gwerthusiad maes archaeolegol yn cynnwys cloddio nifer o ffosydd arbrofol fel arfer er mwyn gwerthuso presenoldeb, maint, cymeriad a phwysigrwydd unrhyw gronfeydd archaeolegol o fewn yr ardal ddatblygu arfaethedig. Gallai arolwg geoffisegol cyn palu ffos ffurfio rhan o’r ymarfer. Cyflwynir canlyniadau gwerthusiad mewn adroddiad cynhwysfawr sy’n gosod y canlyniadau hyn o fewn eu cyd-destun lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gellir eu defnyddio i arwain rhaglen liniaru, megis cloddio, os datgelir cronfeydd archaeolegol sylweddol.

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad helaeth o’r math hwn o brosiect a gall alw ar amrywiaeth o arbenigwyr, megis arolygwyr geoffisegol, ymchwilwyr arteffactau, paleo-amgylcheddwyr a labordai radio carbon er mwyn sicrhau gwasanaeth gwerthuso cyflawn a thrylwyr.

Mae ein cynlluniau ymchwilio ysgrifenedig yn cydymffurfio â’r safonau a’r cyfarwyddyd a osodir allan gan Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes ac maent yn cael eu cyflawni yn unol ag arfer archaeolegol gorau. Bydd ein manylebau’n bodloni gofynion awdurdodau lleol bob amser felly, gan sicrhau canlyniad esmwyth ac effeithiol i’ch cais cynllunio.


I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

Nigel Page AIFA, Uwch Reolwr Prosiect n.page@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825986

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]