DYDDIADUR CLODDIO CAER
RHUFEINIG LLANDEILO 2005
CAER RHUFEINIG LLANDEILO , PARC DINEFWR
Cyflwyniad
Cafwyd darganfyddiad eithriadol yn ystod arolwg
archeolegol yn 2003 ,sef y Gaer Rufeinig yn y rhan ddwyreiniol o
Barc Dinefwr. Yn hwyr ym mis Mehefin ac yn gynnar ym mis Gorffennaf
fe fydd Archeoleg Dyfed yn olrhain y gwaith yma gyda chloddiad i
ddarganfod mwy ynglyn â dyddiad , cymeriad a lefel cadwraeth
y gaer.
Yn wir, drwy’r gwaith ,a’r defnydd
o offer arbenigol geoffisegol, fe welwyd fod presenoldeb nid yn
unig un , ond dwy Gaer Rhufeinig yno, yn orgyffwrdd ,ac o wahanol
dyddiadau . Roedd y gaer gyntaf llawer yn fwy na’r gaer ddiweddarach
ac o bosib roedd yn gartref i uned fawr filwrol , efallai yn atodiad
llengol .Os felly, mae presenoldeb uned mor fawr mor bell i’r
gorllewin yn awgrymu gwrthwynebiad ffyrnig iawn i’r feddiannaeth
Rufeinig. Roedd y gaer ddiweddaraf yn un llawer yn llai ac o bosib
yn gartref i uned gynorthwyol neu fintai yn cynnwys tua 500 o filwyr
traed .
Yn ôl pob tebyg mae’r caerau yn perthyn i ran olaf y
ganrif gyntaf AD yn fuan ar ôl concwest filwrol Cymru. O bosib
ymadawyd â hwy yn gynnar yn yr ail ganrif AD.
Mae’r gwaith archeolegol yn ffurfio rhan
o brosiect llawer ehangach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’r
bwriad o adfer y tirlun a ddyluniwyd ym Mharc Dinefwr. Bydd hwn
yn adnewyddu y tirlun naturiol a hwyluso mynediad i bawb . Ariannwyd
y gwaith gan Gronfa Treftadaeth y Loteri , Swyddfa Cronfa Cymru
yn Ewrop a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol . Bydd y cloddiad
yn cychwyn ar Ddydd Llun Mehefin 27ain. Bydd Time Team , Sianel
4 yn darlledu yn fyw o’r cloddiad ar nosweithiau 2ail a’r
3ydd o Orffennaf fel rhan o’i hwythnos cloddio Rhufeinig ‘Big
Roman Dig’. Bydd y cloddio yn agored i’r cyhoedd am
ddau ddiwrnod, ar y 9fed a’r 16eg o Orffennaf.

Map yn dangos lleoliad y ffosydd
Cynllun y Caerau yn Llandeilo
Drwy’ r arolwg geoffisegol rydym wedi derbyn
llawer o wybodaeth am gynllun y gaer ddiweddaraf yn Llandeilo .Amgylchynwyd
y gaer gan drefniant o amddiffynfeydd trawiadol yn cynnwys o leiaf
tri threfniant sylweddol o ffosydd mewn ffurf V a rhagfuriau. Ar
hyd y top byddai palisâd o bren o fewn y rhagfur mewnol ac
ynddo cyfres o dyrrau sgwâr wedi’u gosod, a’r
pellter yn gyfartal rhyngddynt. Ar bob ochr i’r pedwar mynediad
i’r gaer byddai porthdai anferth pren . Roedd yr amddiffynfeydd
yn cwmpasu ardal o gwmpas 150 m o hyd a 100m o led ; sef yn gyfystyr
â dau gae rygbi ochr wrth ochr. Ar y tu mewn byddai patrwm
grid o heolydd, yn rhannu mewn i flociau o adeiladau, yn cynnwys
gwersylltai , ysguboriau, a storfeydd eraill. Yng nghanol y gaer,
yn wynebu y prif borth, roedd adeilad y pencadlys neu Principia
ac ochr yn ochr â hwn fyddai ty y Pennaeth milwrol.
Awgrymir gan yr astudiaeth geoffisegol taw ar bob
ochr i’r heol ,yn agosáu at y prif fynedfa ,roedd cyfres
o adeiladau pren eraill. Efallai taw annedd fach sifil oedd yma
– vicus. Byddai caerau garsiwn yn aml yn denu aneddiadau anffurfiol
,gan i aelodau o’r boblogaeth frodorol fanteisio ar bresenoldeb
grwp o filwyr Rhufeinig a oedd yn derbyn cyflog da ac yn bell o’u
cartrefi . Mae’r aneddiadau yma yn cynnig cyfle arbennig i
astudio natur y cyfathrebu cyntaf, heb wrthdaro a brwydro, rhwng
y boblogaeth gynhenid a’r meddianwyr Rhufeinig.
Tua 200m i’r gogledd gorllewin o’r
Gaer darganfyddir gan yr arolwg geoffisegol yr hyn a ystyrir fel
adeilad mawr petryal. Ai baddondy oedd hwn yn gysylltiedig â’r
garsiwn milwrol? Mae yn gorwedd ger afon a fyddai wedi darparu cyflenwad
o ddwr angenrheidiol i’r perwyl yma. Ond drwy gloddio fedrwn
dderbyn yr ateb .
Er ein bod yn gallu darganfod llawer o’r
cloddiadau geoffisegol yma ni ellir profi llawer o’r awgrymiadau
yma ond drwy gloddio. Bydd cloddio hefyd yn dangos tystiolaeth dyddio
hanfodol, darnau o arian, a chrochenwaith a fydd yn gallu cadarnhau
pryd yr adeiladwyd a phryd y gadawyd y caerau hyn .
Cysylltiad
i Dudalen Prosiect Caer Llandeilo
Newyddlythr Caer
Llandeilo Gorffennaf 2006 mewn ffurf Adobe Acrobat (yn agored mewn
ffenest newydd)



Diwrnod
1 (Mehefin 27ain) – Diwrnod cyntaf hir
a phoeth. Dechreuodd y diwrnod trwy symud yr uwchbridd
o dair ardal y gaer gyda chloddiwr, a yrrwyd yn fedrus
iawn gan Eynon Price. Daethpwyd o hyd i leoliad Ffos
1 ar draws amddiffynfeydd y gaer fwyaf a daethpwyd o
hyd i Ffos 2 yng nghanol y gaer leiaf lle mae’n
croestorri gydag amddiffynfeydd y gaer leiaf. Y drydedd
ardal a ddechreuwyd gwaith arni oedd Ffos 7 a leolir
o amgylch ardal y ficws (anheddiad o ddinasyddion) i’r
gogledd ddwyrain o’r caerau.
Cyrhaeddodd y grwp cyntaf o wirfoddolwyr
yn y prynhawn a buan iawn wnaethant ddechrau gwaith
ar Ffosydd 2 a 7. Rhyfeddod cyntaf y cloddiad oedd dod
o hyd i bot cyfan ym mhen gogledd ddwyreiniol y ffos.
Mae’r darganfyddiad o ddarnau o asgwrn yn yr un
ardal yn awgrymu efallai ei fod wedi bod yn rhan o gorfflosgiad.
A ydy hyn yn golygu bod y safle wedi’i ddefnyddio
fel mynwent ym mhell wedi i’r caerau gael eu gadael
yn wag? Yn y cyfamser yn Ffos 1 roedd yna dystiolaeth
o dyllau pyst a ffosydd anferth sy’n gysylltiedig
ag amddiffynfeydd. Yn amlwg, mae’r archaeoleg
yn mynd i fod yn gyffrous iawn.
|

Y llestr o grochenwaith a ddarganfuwyd mewn pydew
bach ychydig islaw cyrraedd aradr yn Ffos 2
|
| |

Gwilym Hughes cyfarwyddwr y safle yn rhoi cyfarwyddiadau
i rai o’r gwirfoddolwyr yn Ffos 1
|
|
Diwrnod
2 (Mehefin 28ain) – Treuliwyd y rhan
fwyaf o’r diwrnod yn glanhau wyneb yr archaeoleg
yn Ffosydd 1 a 2. Mae’r tyllau pyst mawr yn Ffos
1 yn awgrymu efallai ein bod wedi dod o hyd i ran o’r
sylfeini ar gyfer un o’r pyrth i mewn i’r
gaer fwyaf. Mae’r gwaith glanhau yn Ffos 2 yn
awgrymu fod yna ddilyniant cymhleth iawn i’r archaeoleg
yn yr ardal hon. Serch hynny, nid yw’n glir eto
os yw ffosydd y gaer fwyaf yn dyddio o gyfnod hwyrach
neu gynharach na’r gaer leiaf.
Daeth nifer o ymwelwyr nodedig i’n
gweld heddiw gan gynnwys Dr Barry Burnham a Dr Paul
Rainbird (y ddau o Brifysgol Llanbed) a Dr Jeffrey Davies
(o Brifysgol Aberystwyth) gan gynnig cyngor defnyddiol
iawn yngly^n ag adnabod rhywfaint o’r crochenwaith.
Mae’n ymddangos fod y rhan fwyaf o’r deunydd
sydd wedi ei ddarganfod hyd yn hyn yn dyddio o ddiwedd
y ganrif gyntaf AD a dechrau’r ail ganrif AD.
|

Mae ffos 2 bellach wedi ei glanhau yn llwyr
|

Y gwirfoddolwyr a’r staff yn cael y pleser
o wrando ar ddarlith wrth iddynt gael egwyl!
|

Dr Jeff Davies (Prifysgol Aberystwyth) yn trafod
rhai o’r darnau o grochenwaith a ddarganfuwyd
gyda Dr Emma Plunkett-Dillon (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
a Dr Paul Rainbird (Prifysgol Llanbed)
|
|
Diwrnod
3 (Mehefin 29ain) – Rydym wedi bod yn
cloddio nodweddion yn Ffosydd 1, 2 a 7. Mae’r
storom o fellt a tharanau dros nos wedi bod o gymorth
i feddalu’r tir gan ei gwneud yn llawer iawn haws
cloddio’r nodweddion.
Yn Ffos 1 rydym wedi dechrau cloddio
rhan ar draws ffos amddiffynnol fewnol y gaer fwyaf
ac un o’r tyllau pyst mawr yr ydym yn credu efallai
ei fod yn ymwneud â’r porth.
Rydym wedi dechrau archwilio dau nodwedd
llinellol yn Ffos 2 sydd efallai’n dangos fod
yna lithro wedi digwydd i mewn i ffosydd amddiffynnol
y gaer gynharach. Roedd yna grw^p o wirfoddolwyr lleol
hefyd ar y safle yn y prynhawn yn cynorthwyo i ddiffinio
nodweddion a haenau ym mhen gogleddorllewinol y ffos.
Yn Ffos 7, a leolir tua 100m i’r
gogledd ddwyrain o’r caerau, yr ydym wedi dechrau
cloddio yr hyn sy’n ymddangos i fod yn ffosydd
naill ochr i’r ffordd sy’n dynesu at fynedfa’r
gaer leiaf.
|

O bosib ffos wrth ymyl ffordd yn Ffos 7
|

Gwirfoddolwyr lleol yn diffinio nodweddion yn
Ffos 2
|

Gwaith yn ardal amddiffynfeydd y gaer yn Ffos
1
|
|
Diwrnod
4 (Mehefin 30ain) – Ein diwrnod gwlyb
go iawn cyntaf gyda glaw diddiwedd. Mae hyn wedi arafu’n
gwaith yn sylweddol. Mae’n ymddangos fod y tyllau
pyst yn Ffos 1 wedi’u torri i mewn i’r clai
a’r creigwely naturiol. Mae’n ymddangos
nad oes unrhyw olion o’r rhagfur sy’n awgrymu
fod yr ardal gyfan wedi lleihau yn fawr. Mae ein dehongliad
o’r ddau nodwedd llinellol yn Ffos 2 bellach yn
newid. Rydym yn dechrau meddwl efallai mai ffosydd draenio
ydynt naill ochr i’r ffordd tu fewn i’r
gaer leiaf. Er nad oes yna unrhyw arwyddion o wyneb
ffordd rhwng y ddwy ffos hon, rydym yn amau bod y ffordd
wedi’u thorri o ganlyniad i waith aredig a wnaed
yn ddiweddarach. Efallai mai olion o wyneb y ffordd
yw’r cerrig sy’n llanw’r ffosydd.
|

Cloddio un o’r pyllau pyst
sgwâr yn ffos 1 |
| 
Y rhigolau llawn a thywyll yn ffos
2. Ai ffosydd wrth ymyl ffyrdd ydyn nhw? |

Wedi dechrau bwrw glaw yn ffos 2
|
|
Diwrnod
5 (Gorffennaf 1af) – Treuliwyd y rhan
fwyaf o’r diwrnod yn cofnodi’r nodweddion
yn Ffos 2 gan gynnwys y ffosydd ymyl ffordd posib a
chwblhau’r gwaith cloddio ar ran sy’n mynd
ar draws y ffos amddiffynnol yn Ffos 1. Bellach rydym
o’r farn bod y tyllau pyst yn Ffos 1 yn ffurfio
rhan o un ochr o un o dyrrau’r porth.
Yn y prynhawn cawsom ymweliad gan aelod
o Lywodraeth y Cynulliad – Rhodri Glyn Thomas.
Yn y cyfamser cyrhaeddodd criw cynhyrchu’r Time
Team i baratoi ar gyfer y gwaith ffilmio dros y penwythnos.
|

Cynllunio’r ffosydd ymyl ffordd
yn Ffos 2
|
| |

Gwilym Hughes cyfarwyddwr y safle
gyda Rhodri Glyn ThomasAC
|
|
| Diwrnod
6 (Gorffennaf 2il) – Roedd heddiw yn
eithriadol o brysur gyda’r gwaith cloddio yn cael
ei ffilmio ar gyfer “Time Team’s Big Roman
Dig”. Cafodd y rhan fwyaf o’r ffilmio ei
ddarlledu’n fyw tua 8.30 y nos a oedd yn golygu
diwrnod hir iawn i bawb oedd yno. Hefyd agorwyd tair
ffos newydd – Ffos 3 yn ardal y barics y gaer
fwyaf a’r un gynharaf, Ffos 4 yn ardal y ficws
neu anheddiad o ddinasyddion yng ngogledd ddwyrain y
gaer llai o faint a’r un hwyrach a Ffos 6 yn y
cae i’r gogledd er mwyn archwilio lleoliad posib
y baddondy.
Yn anffodus, siomedig iawn oedd Ffos
6 gyda’r holl dystiolaeth yn awgrymu ein bod wedi
dod o hyd i odyn o friciau ôl-ganoloesol ac nid
baddondy! Serch hynny, roedd Ffos 4 (y ficws) yn llawn
o archaeoleg gan gynnwys pyllau, tyllau pyst a ffosydd.
Roedd un twll postyn yn llawn o grochenwaith Rhufeinig.
|

Cloddio twll postyn sy’n llawn
crochenwaith yn y Ficws (Ffos4)
|
| |

Carenza Lewis o’r Time Team
a’r pot corfflosgi posib
|
|
Diwrnod
7 (Gorffennaf 3ydd) – Ail ddiwrnod o
ffilmio i’r Time Team. Glanhawyd Ffos 3 yn llwyr
gan ddatgelu tystiolaeth o sylfeini pren mewn o leiaf
dau o’r camau gwahanol . Mae’n ymddangos
ei bod yn bosib fod y cam cynharach yn perthyn i farics
y gaer gynharaf a’r cam diweddarach i anecs sy’n
gysylltiedig â’r gaer hwyrach. Dechreuwyd
ar y gwaith o gloddio’r tyllau corfflosgi posib
yn Ffos 2. Credir bod y rhain yn ôl-ddyddio’r
cyfnod pan y cafodd y gaer hwyrach ei gadael yn segur
ar ddechrau’r ail ganrif. Mae’n ymddangos
fod yna gysylltiad rhwng twll y postyn lle mae yna ‘glain
melon’ mawr unigol.
|

Ffos 3 - y manylion torredig o ardal
y barics
|
| |

Y criw ffilmio o’r Time Team
yn Ffos 2
|
|
Diwrnod
8 (Gorffennaf 4ydd) – Dechreuwyd ar y
gwaith o gloddio sawl nodwedd yn Ffos 4 (ardal y Ficws)
gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos i fod yn naill
ai ffwrn fara neu odyn sychu llafur. Wrth ymyl porth
y gaer gynharaf yn Ffos 1 wnaethom gloddio pwll bychan
oedd ag olion amffora, er nad oedd unrhyw olion o’r
dolenni na’r gwddf. Efallai ei bod wedi’i
ail-ddefnyddio fel cynhwysydd ar gyfer casglu wrin ar
gyfer pannu. |

Cloddio’r odyn neu ffwrn yn
Ffos 4
|
| |

Yr amffora sydd wedi’i thorri
yn Ffos 1
|
|
Diwrnod
9 (Gorffennaf 5ed) – Wnaeth hi fwrw glaw
trwy’r dydd! Doedd hi ddim yn bosib gwneud unrhyw
waith ar y safle felly treuliwyd y rhan fwyaf o’r
bore yn golchi’r hyn a ddarganfuwyd yn un o’r
pebyll. Mae’r ymwelwyr yn parhau i ddod er gwaetha’r
glaw trwm. Ymweliad derbyniol iawn gan Peter a Janet
Webster (Prifysgol Caerdydd) i drafod dyddio rhai o’r
pethau a ddarganfuwyd. Hyd yn hyn does yna ddim yn gynharach
na diwedd y ganrif gyntaf AD a dim sy’n hwyrach
na dechrau’r ail ganrif AD. Yr eitem diweddaraf
i’w ddyddio yw talch unigol o Lestri Samiaidd
sydd efallai’n dyddio o gyfnod Hadrian (AD 117-138).
|

Dangos y safle i ymwelwyr yn y glaw,
gan gynnwys yr arbenigwyr Peter a Jane Webster o Brifysgol
Caerdydd
|
| |

Golchi’r crochenwaith yn y
babell lle mae’r hyn sy’n cael ei ddarganfod
yn cael ei brosesu
|
|
Diwrnod
10 (Gorffennaf 6ed) – Roedd yn wyntog
iawn heddiw ond o leiaf yr oedd yn sych. Darganfuwyd
ceiniog gyntaf y cloddiad yn Ffos 4 – ceiniog
efydd yr Ymerawdwr Trajan (AD 97 – 117). Yn y
cyfamser, daethpwyd o hyd i waddod o golosg gyda chryn
dipyn o rawn wedi’i losgi ynddo o waelod y ffos
amddiffynnol yn Ffos 1. Daeth y parti ysgol cyntaf,
y cyntaf o lawer rwy’n siwr i ymweld â’r
safle heddiw (Ysgol Gynradd Sirol Llandeilo) a chawsant
eu tywys o amgylch y safle gan swyddog addysg y safle,
Richard Jones. Wnaethom hefyd groesawu grwp arall o
wirfoddolwyr wnaeth gynorthwyo i ddiffinio muriau ffos
y barics yn Ffos 3.
|

Golosg o waelodion y ffos amddiffynnol
yn Ffos 1 lle darganfuwyd y grawn wedi’i losgi
|
| 
Yr ymweliad ysgol cyntaf gan Ysgol
Gynradd Llandeilo
|

Gwirfoddolwyr yn gweithio yn Ffos
3
|
|
Diwrnod
11 (Gorffennaf 7fed) – Daeth nifer o
ymwelwyr pwysig yn ystod y dydd gan gynnwys arolygwyr
Cofadeiliau Cadw - Sian Rees, Kate Roberts a Jonathon
Berry. Hefyd cawsom rhagor o ymweliadau gan ysgolion
– y tro hwn Ysgol Teilo Sant ac Ysgol Llangynnwr.
Rydym wedi cwblhau’r gwaith o gloddio’r
ddau bwll corfflosgi posib yn Ffos 2, ac mae’n
ymddangos fod yna bostyn sylweddol yn un ohonynt.
|

Cloddio’r pwll lle mae’r
esgyrn sydd wedi’u llosgi yn Ffos 2
|
| 
Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn disgrifio’r nodweddion yn ardal y ficws i aelodau
o staff Cadw
|

Grwpiau ysgol o Ysgol Gymraeg Teilo
Sant ac Ysgol Llangynnwr yn Ffos 2
|
|
Diwrnod
12 (Gorffennaf 8fed) – Parhau wnaeth
y gwaith o gloddio nodweddion sy’n gysylltiedig
â’r ficws yn Ffos 4. Mae un o’r ffosydd
yn yr ardal hon yn un sylweddol iawn (mwy na 1m o ddyfnder
a mwy na 2m o led). Mae hyn yn awgrym efallai mai dyma
un ochr ‘gwersyll ymarfer’ y tu allan i’r
gaer warchodlu. |

Tywys myfyrwyr o Brifysgol Morgannwg
o amgylch
|
| |

Lefelu nodweddion yn Ffos 2
|
|
Diwrnod
13 (Gorffennaf 9fed) – Diwrnod agored
llwyddiannus iawn. Mae’r amcangyfrif o nifer yr
ymwelwyr yn amrywio o rhwng 750 a 1000. Mae’n
amlwg bod y tywydd poeth iawn wedi denu’r tyrfaoedd.
Wnaeth yr ymwelwyr fwynhau arddangosfeydd o’r
hyn a ddarganfuwyd o ganlyniad i’r gwaith cloddio
a hefyd ffilmio’r Time Team y penwythnos blaenorol.
Hefyd roedd yna arddangosfa o waith gan Ysgol Gynradd
Ffairfach yn defnyddio’r pecyn adnodd dysgu a
gynhyrchwyd i gynorthwyo gyda’r ymweliadau ysgol
â’r cloddio. |

Hannah Bowden yn dangos rhai o'r
darganfyddiadau i ymwelwyr
|
| |

Tu fewn y babell ar y Dydd Agored
|
|
Diwrnod
14 (Gorffennaf 10fed) – Diwrnod heb waith! |
|
| |
|
|
Diwrnod
15 (Gorffennaf 11eg) – Y diwrnod poethaf
hyd yn hyn. Mae’r tir wedi mynd yn sych iawn erbyn
hyn sy’n ei gwneud yn anodd iawn cloddio. Serch
hynny, wnaethom ddechrau cloddio’r rhigolau llinellol
yn Ffos 3. Rydym o’r farn mai dyma slotiau sylfaen
y coed sy’n gysylltiedig â bloc y barics.
Serch hynny, mae sawl cam mae’n amlwg yn bresennol
gyda rhai o’r sylfeini ar wahanol orweddiadau.
Hefyd wnaethom barhau i brosesu’r hyn oedd yn
cael ei ddarganfod o ganlyniad i’r gwaith cloddio.
Daeth grwp o tua 20 o bobl ifanc i
dreulio’r dydd ar y safle fel rhan o brofiad gwaith
gyda Gyrfa Cymru. Wnaethant gynorthwyo i ddechrau gwaith
ar dri pwll arbrawf 2m x 2m yn ardal y ficws er mwyn
profi dyfnder stratigraffig archaeolegol yn ardal pwll
bychan. Daethpwyd o hyd i glain melon mawr yn uwchbridd
un o’r pyllau arbrawf hyn.
|

Prosesu’r hyn a ddarganfuwyd
o ganlyniad i’r gwaith cloddio
|
| |

Cysgodu o'r haul yn Ffos 3
|
|
Diwrnod
16 (Gorffennaf 12fed) – Mae’r haul
yn parhau i dywynnu. Wnaethom barhau gyda’r gwaith
o gloddio’r ffos amddiffynnol allanol sydd wrth
ymyl porth y gaer cynharaf yn Ffos 1. Roedd yn syndod
o gul a bas ac yn anffodus ni ddaethpwyd o hyd i ddim
yno.
Yn Ffos 2, wnaethom gloddio dau bostyn
pwll mawr sgwâr. Efallai fod yna gysylltiad rhwng
y nodweddion strwythurol hyn â Phencadlys y gaer.
Yn y gyfamser cawsom y fraint o weld
Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn gyrru heibio er nad
oedd ganddynt yr amser i sefyll ac ymweld â’r
cloddiad!
|

Cloddio twll post yn Ffos 2 - mae'n
bosib ei fod yn rhan o golonade y principia
|
| 
Cloddio'r ffos allanol ger y porth
yn Ffos 1
|

Cerbydau'r Tywysog Cymru a Duges
Cernyw yn gyrru heibio'r gloddfa wedi eu cinio yn Nhy
Trenewydd
|
|
Diwrnod
17 (Gorffennaf 13eg) – Mae’r nodweddion
toredig yn Ffos 3 yn profi i fod yn gymhleth iawn. Rydym
bellach yn credu y gallwn adnabod rhan o gynllun adeilad
hirsgwar mawr – bloc y barics yn fwy na thebyg.
Serch hynny, cymhlethir y darlun gan nifer o nodweddion
rhyngdorri eraill sy’n cynrychioli camau hwyrach
o ran adeiladu. |

Y gwliau cymhleth yn Ffos 3
|
| |

Gweithio yn Ffos 2
|
|
Diwrnod
18 (Gorffennaf 14eg) – Mae’n ymddangos
fod yr holl nodweddion sy’n gysylltiedig â’r
gaer hwyrach yn Ffos 2 wedi’u torri trwy haenen
drwchus o silt clai sydd efallai’n haenen lefelu
dros weddillion caer gynharach. Trwy gloddio trwy ran
o’r haenen hon yr oeddem yn gobeithio adnabod
amddiffynfeydd caer gynharach. Erbyn diwedd y dydd yn
wir mae’n ymddangos ein bod wedi dynodi nodwedd
doredig fawr sydd efallai yn un o’r ffosydd amddiffynnol.
Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu egluro hyn yn llawn
yfory. Yn y cyfamser yr ydym wedi bod yn cloddio pwll
mawr sydd hefyd yn Ffos 2 lle yr ydym wedi dod o hyd
i gasgliad mawr o grochenwaith a gwydr Rhufeinig.
|

Y llanw tywyll o'r nodwedd torredig
yn ffos 2. Efallai mae llanw o ffos amddifynnol y gaer
gynharaf yw hwn.
|
| 
Cloddio twll mawr mewn gwli yn Ffos
2
|

Myfyrwyr o Ysgol Tregib yn gwrando
ar ddarlith am y crochenwaith o'r cloddiad
|
|
Diwrnod
19 (Gorffennaf 15fed) – Diwrnod eithriadol
o brysur wrth i ni geisio gau pen y mwdwl ar nifer o
bethau cyn i’r cloddiad ddod i ben. Wnaethom groesawu
ail grwp o Gyrfa Cymru gyda 20 arall o bobl ifanc yn
dod i dreulio’r diwrnod yn y cloddiad fel rhan
o’u profiad gwaith. Hefyd wnaethom groesawu criw
ffilmio BBC Cymru yn ôl ynghyd â’i
cyflwynydd Jamie Owen. Roeddynt yn dangos y cloddiad
fel rhan o gyfres BBC2 yn y dyfodol ar dirweddau Cymru.
Cymerwyd set terfynol o ffotograffau
o bob un o’r ffosydd gan ddefnyddio’r twr
ffotograffig. Er ein bod wedi cyflawni pob un o’n
hamcanion nid yw’r cloddiad wedi dod i ben o bell
ffordd. Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwn yn
gallu dychwelyd i barhau â chloddio Ffosydd 2
a 4 yn arbennig. Yn Ffos 2 rydym wedi cael cipolwg cyffrous
o’r prif adeilad – y Pencadlys ac o’r
diwedd yr ydym wedi dynodi rhan o amddiffynfeydd y gaer
gynharaf o dan haenen lefelu ar gyfer yr ail gaer sy’n
llai o faint. Serch hynny, dim ond wedi crafu’r
wyneb yr ydym wedi ei wneud i’r hyn sydd mae’n
amlwg yn stratigraffig cymhleth. Mae Ffos 4 wedi dangos
i ni’r potensial sydd gan y safle i fynd i’r
afael â chwestiynau allweddol ynglyn â’r
broses o Rufeineiddio de orllewin Cymru.
|

Ffotograff terfynol o Ffos 2
|
| 
Ffotograff terfynol o Ffos 4
|

Ffotograff terfynol o Ffos 3
|
|
Diwrnod
20 (Gorffennaf 16eg) – Yr Ail Ddiwrnod
Agored Cyhoeddus a diwrnod olaf y cloddiad – bydd
y safle yn cael ei lanw’n ôl ddydd Llun.
Daeth hyd yn oed mwy o bobl i’r Diwrnod Agored
hwn na’r Sadwrn blaenorol gyda’r amcangyfrifon
yn awgrymu bod mwy na 1000 o ymwelwyr. Roedd yn waith
blinedig i’r rheini oedd yn cynnal y sgyrsiau
wrth yr amrywiol ffosydd ond hefyd roedd yn hyfryd cael
ymateb mor ffafriol gan y cyhoedd.
Mae hwn wedi bod yn gloddiad llwyddiannus
tu hwnt a diolch yn fawr iawn i staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i’r
holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed yn ystod
y tair wythnos. Rydym yn mawr obeithio y byddwn yn gallu
sicrhau nawdd a chynhaliaeth ar gyfer rhaglenni gwaith
y dyfodol i safle sydd mae’n amlwg yn un cyffrous
iawn.
|

Dydd Agored
|
| |

Ffos amddifynnol y gaer gynharaf
yn gorwedd is y gaer hwyrach yn Ffos 2
|
|
|