Dyddiadur Cloddio
2005
TYMHORAU YN YR HAUL 2005
Yn ystod Haf 2005 fe fydd gan yr Ymddireiedolaeth nifer o
gloddiadau pwysig mewn gwahanol rhannau o dde orllewin Cymru.
Ein bwriad yw darparu newyddion rheolaidd diweddaraf o’r
holl gloddiadau yma drwy dudalennau ein ‘Dyddiadur Cloddio’.
Adnewyddir y tudalennau perthnasol pob dydd Mawrth a Dydd
Gwener o ddechrau Mehefin i ganol Mis Awst .
Llangynfelyn,
Ceredigion (Mai 31ain – Mehefin 17eg) – lleolir
y cloddiad yma ar ymyl Cors Fochno (Borth Bog) i’r gogledd
o Aberystwyth. Ym mis Mehefin 2004 fe gloddiom ni rhan o’r
llwybr coed sy’n croesi’r gors o Erglodd ,ger
Talybont, i Llangynfelyn . Dengys y dyddiadau radio carbon
a chylchoedd y coed fod y llwybr yma yn dyddio rhwng y 10fed
a’r 12fed ganrif . Mae rhan ddeheuol y llwybr yn gorwedd
dros ardal weddol fawr o sbwriel diwydiannol sy’n awgrymu
mwyndoddi metel ( o bosib plwm) yn yr ardal. Mae dyddiadau
diweddar radio carbon yn awgrymu i hwn ddyddio yn ôl
,o bosib, i gyfnod y Rhufeiniaid neu hyd yn oed yn gynt na
hynny.
Caer Rhufeinig Llandeilo (Mehefin
27ain – Gorffennaf 18fed) – drwy arolwg geoffisegol
yn 2003 fe ddarganfuwyd lleoliad ,a oedd yn anhysbys gynt,
o Gaer Rhufeinig ym Mharc Dinefwr, Llandeilo. Bwriad y cloddio
yma yw asesu dyddiad a lefel cadwraeth yr olion archeolegol.
Mynwentydd cynnar y Canol Oesoedd
ar arfordiroedd Sir Benfro (Gorff 18fed – Awst 5ed)
– Bydd Archeoleg Dyfed yn ymwneud â dau gloddiad
arbrofol mewn dau safle mynwentydd canol oesol yn Ne Sir Benfro;Bae
West Angle a St. Bride’s/Llanffred . Mae’r ddau
safle yma o dan fygythiad oddi wrth erydu arfordirol.
Tiroedd amgaeëdig cyn
hanes yn Ne Ceredigion (Gorff 18fed – Awst 5ed)
– Bydd yr arolwg a’r cloddiad yma yn parhau archwiliad
o dwr o diroedd amgaeëdig cyn hanes ,a ddarganfuwyd yn
ddiweddar drwy ffotograffiaeth o’r awyr, yng Ngogledd
Sir Benfro a De Ceredigion
Cliciwch ar y dewisiadau ar y chwith, os gwelwch yn dda,
am fwy o wybodaeth a mynediad i bob un o’r cloddiadau
yn y ’Dyddiadur Cloddio’.
|