Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Arolygu a Chofnodi Adeiladau

Mae’n bosibl y bydd angen arolwg adeilad fel amod gynllunio yn ystod gwaith trosi, adfer neu ddymchwel. Ar ei ffurf symlaf, bydd arolwg yn cynnwys cydosod cofnod ffotograffig ac, ar ei ffurf fwyaf cymhleth, gallai gynnwys llun manwl, ffotograffiaeth o ansawdd uchel, disgrifiadau ysgrifenedig, dadansoddiad o hanes yr adeilad ac ymchwil ddogfennol.

Mae gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad helaeth o’r math hwn o waith ac maent yn meddu ar y wybodaeth, y profiad a’r cyfarpar i gyflawni arolygon technegol iawn sy’n defnyddio theodolitau di-adlewyrchwyr a ffotograffiaeth a gywirir.

Mae’r holl gofnodion adeiladu a wneir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn dilyn y safonau a chyfarwyddyd ar gyfer ymchwiliadau archaeolegol a chofnodi adeiladau sefydlog neu strwythurol fel y’u gosodir nhw allan gan Sefydliad yr Archaeolegwyr Maes (IFA).

I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

Nigel Page AIFA, Senior Project Manager n.page@dyfedarchaeology.org.uk
Direct line 01558 825986

Pete Crane MIFA, Project Manager p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Direct line 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]