ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2007Dyma adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2007 GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL Prif Weithgarwch Prif weithgareddau’r cwmni yn ystod y flwyddyn oedd addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg drwy ddarparu gwasanaethau archaeolegol. Cyfansoddiad Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn gwmni cyfyngedig drwy warant a heb gyfalaf cyfrannau (rhif 1198990) ac yn elusen gofrestredig (rhif 504616). Y ddogfen lywodraethol yw’r Memorandwm a’r Erthyglau Sefydlu dyddiedig 4ydd Gorffennaf 1975. Mae’r Ymddiriedolaeth yn un o’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol a sefydlwyd yn ystod y 1970au yn wreiddiol i gwmpasu Cymru gyfan. Yr Ymddiriedolwyr Gan mai’r Ymddiriedolwyr yw Cyfarwyddwyr y cwmni, eu hadroddiad yw Adroddiad statudol y Cyfarwyddwyr. Gan nad oes unrhyw gyfalaf cyfrannau, nid oes gan y Cyfarwyddwyr unrhyw fuddiant manteisiol yn y cwmni. Er bod traean o’r Ymddiriedolwyr yn ymddeol bob blwyddyn, maent yn gymwys i’w hail-ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Dyma’r rhai a wasanaethodd fel Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn: Dr J L Davies Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref 2005 fe gymerwyd, o dan Erthygl 41 Erthyglau’r Ymddiriedolaeth, fod yr Ymddiriedolwr a oedd yn ymddeol, sef Mr Delaney, wedi’i ailethol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Bwyllgor Rheoli sy’n bwyllgor dirprwyedig o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Yn ystod y flwyddyn, yr oedd y Pwyllgor Rheoli yn cynnwys yr aelodau uchod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ynghyd â Mr R A Kennedy. Ymddiswyddodd Mr Kennedy, un o’r aelodau a oedd wedi gwasanaethu’r Ymddiriedolaeth am y cyfnod hwyaf o’r Pwyllgor Rheoli ar ddiwedd y flwyddyn. Y Swyddogion a’r Swyddfa Gofrestredig Yn ystod y flwyddyn, Mr E G Hughes oedd Ysgrifennydd y Cwmni a Phrif Swyddog (Prif Weithredwr) yr Ymddiriedolaeth. Swyddfa Gofrestredig yr Ymddiriedolaeth yw Neuadd y Sir, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AF. Banc y National Westminster ccc, 59 Heol-y-Brenin, Caerfyrddin, yw bancwyr yr Ymddiriedolaeth. Morris Roberts, 14-15 Heol Spilman, Caerfyrddin, yw ymgynghorwyr cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth. Charles a’r Cwmni, 14 Heol y Sgubor, Caerfyrddin, yw archwilwyr yr Ymddiriedolaeth. Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr Mae’r Gyfraith Cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ymddiriedolwyr lunio datganiadau ariannol sy’n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr materion yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac o’i gwarged neu ei diffyg am y flwyddyn ariannol. Wrth wneud hynny, mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolwyr: · dewis polisïau cyfrifyddu addas a’u
cymhwyso’n gyson; Yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddol priodol sy’n datgelu sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol o gywir ar unrhyw adeg ac yn fodd iddynt sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 1985 ac yn unol â Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2005. Yr Ymddiriedolwyr hefyd sy’n gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen ac, felly, am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall. Aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Mae holl aelodau’r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys yr Ymddiriedolwyr, yn rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn wirfoddol ac yn ddi-dâl er hyrwyddo amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Er nad adlewyrchir hyd a lled y cyfraniad hwnnw yn natganiadau ariannol yr Ymddiriedolaeth, mae hi’n dibynnu’n drwm ar y gwasanaethau a’r arbenigedd a ddarperir gan ei haelodau wrth iddynt wasanaethu fel Ymddiriedolwyr neu fel aelodau o’r Pwyllgor Rheoli, ac ar y cyngor gwerthfawr a’r cyfraniad arbenigol i brosiectau unigol a wneir gan aelodau unigol eraill. Ymaelodir â’r Ymddiriedolaeth drwy wahoddiad yr Ymddiriedolwyr; aelodaeth bersonol ydyw ac nid oes modd ei throsglwyddo. Ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm yr aelodau oedd 44. Ceir rhestr lawn o’r aelodau ar 31ain Mawrth 2007 yn Atodiad A. Adeiladau’r Ymddiriedolaeth Yn ogystal â Neuadd y Sir yn Stryd Caerfyrddin
mae’r Ymddiriedolaeth yn prydlesu oddi wrth Cyngor Tref Llandeilo
Fawr, mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn berchen ar Ty Leicester sydd
hefyd wedi’i leoli yn Stryd Caerfyrddin. Gwnaeth Cyngor Tref Llandeilo
Fawr gais llwyddiannus i ‘Un Gronfa’ Cyngor Sir Caerfyrddin
ar gyfer ailwampio Neuadd y Dref. Gwerth y grant oedd £63,528 a
chafwyd £30,000 ychwanegol gan Gyngor Tref Llandeilo Fawr. O ganlyniad
sefydlwyd ystafell gyfarfod newydd, ystafell chwilio Cofnod Amgylchedd
Hanesyddol, (CAH), cegin/ystafell staff newydd, ystafell newydd i storio
archifau a mynediad i’r llawr gwaelod ar gyfer pobl anabl a thoiledau
hefyd ar eu cyfer. Defnyddir ystafell gyfarfod/chwilio gan Gyngor y Dref
ddwy noswaith y mis ac ar nosweithiau eraill mae ar gael ar gyfer grwpiau
cymunedol. Yn 2007-08 gosodir silffoedd dur yn yr ystafell archifo a symudir
y CAH yno.
Staff Ar gyfartaledd, 22 oedd nifer y cyflogeion yn ystod y flwyddyn. Gweler rhestr gyflawn o aelodau’r staff fel yr oedd ar 31 Mawrth 2007 yn Atodiad B. Dymuna’r Ymddiriedolwyr ddatgan eu diolchgarwch i holl aelodau staff yr Ymddiriedolaeth am eu hymroddiad a’u hymdrechion yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn cwblhawyd ail ran rhaglen arfarnu
aelodau staff. Bu hyn yn gymorth i roi gwybodaeth ar gyfer Cynllun Datblygu
Hyfforddiant Staff manwl. ADOLYGIAD O WEITHGAREDDAU’R YMDDIRIEDOLAETH
YN YSTOD Y FLWYDDYN Fel yn y blynyddoedd blaenorol, ymgymerwyd ag ystod eang o waith gan gynnwys asesiadau a gwaith cloddio o dan fygythiad trwy gymorth grant Cadw, a nifer o arolygon a ariennir trwy amryw ddulliau, cadw golwg ar bethau, gwerthuso a chofnodi prosiectau. Gorffennwyd ail flwyddyn Prosiect Clostiroedd Amddiffynnol Cynhanesyddol sy’n derbyn cymorth grant Cadw gydag ymweliadau â thros 260 o safleoedd yn Sir Benfro a diweddarwyd mwy na 380 o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Gwnaethpwyd argymhellion cofnodi ac argymhellion eraill i Cadw. Yn ystod prosiect cysylltiedig a ariennir gan Cadw Sir Benfro sy’n parhau – Clostiroedd ag iddynt Olion Cnydau yn ne Ceredigion a gogledd – cloddiwyd rhan o glostir crwn yn Ffynnonwen a gwnaed arolwg geoffisegol o chwe safle. Ymgymerwyd â’r prosiect hwn â chefnogaeth Prifysgol Caerefrog. Dangosodd y cloddio olion ty crwn cyflawn a rhannau o ddau arall. Dangosodd rhannau o’r ffos amddiffynnol ei fod wedi’i dorri o’r graig a’i fod bron 3 metr o ddyfnder ar ochr ddwyreiniol y clostir ond ei fod heb ei orffen ar yr ochr ogleddol. Ni ddaethpwyd o hyd i lawer o arteffactau ond mae’r olion o’r adeilad yn awgrymu anheddiad y trigwyd ynddo am gyfnod maith. Bydd dadansoddi ôlgloddio yn y dyfodol yn cynnwys rhaglen radio-dyddio carbon.
Cefnogodd y rhaglen sy’n derbyn cymorth grant Cadw ail dymor o gloddio yn West Angle, rhan o’r Prosiect Asesu Mynwentydd Canoloesol Cynnar. Bu myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn cynorthwyo aelodau staff yr ymddiriedolaeth a bu grant gan PLANED yn fodd i gefnogi rhaglen o weithgareddau allymestynnol. Archwiliwyd rhan o glostir sylweddol a chloddiwyd claddedigaethau oedolyn ac amryw o blant. Parhaodd gwaith arolwg ar brosiectau Caerau, Vici a Ffyrdd Rhufeinig sy’n derbyn cymorth grant Cadw gan gynnwys arolwg geoffisegol ar yr ardal vicus y tu allan i Gaer Trawscoed ac arolwg o’r gaer fechan yn Erglodd, y ddau ohonynt yng Ngheredigion. Mae prosiectau eraill sy’n derbyn cymorth grant Cadw yn cynnwys: dadansoddiad ôlgloddio o’r dracffordd bren yn Llangynfelyn, ger Talybont, Ceredigion; y flwyddyn gyntaf o Brosiect dwy-flynedd, wrth Ddesg Porthladdoedd a Harbwrs gan archwilio dyfrffordd Aberdaugleddau, arolwg o drefi hanesyddol Aberteifi a Thregaron (a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion); arfarniad o’r data a gynhyrchwyd gan y pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru o’r asesiadau o fygythiadau sef Arfarniad o Ddata Cychwynnol i Fonitro Canlyniadau. Yn olaf cafwyd cymorth grant ar gyfer radio -dyddio carbon ar gyfer odynau sychu canoloesol cynnar yn Nhy Isaf, ger Abergwaun. Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth â phrosiectau ar ran amrywiaeth o gleientiaid eraill – datblygwyr cyhoeddus a phreifat, awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff gwirfoddol ac ymgynghorwyr. Gwnaed y mwyafrif o’r rhain o fewn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Roedd y prosiectau’n cynnwys cloddio, gwaith cofnodi adeiladau, arolwg tirwedd a gorchwylion gwylio a oedd yn aml yn un o amodau caniatâd cynllunio. Mae’r crynodeb sy’n dilyn yn rhoi detholiad yn unig o’r prosiectau arwyddocaol gan roi awgrym o ystod y gwaith a wnaed. Mae rhestr lawn o’r holl brosiectau o’r fath, gan gynnwys y cleientiaid, i’w gweld yn Atodiad C.
Ymgymerwyd â phrosiectau cofnodi adeiladau ar amryw safle gan gynnwys cwblhau’r arolwg yn safle diwydiannol Porthgain cyn ei gydategu; asgell ddwyreiniol cwrt mewnol yn Nhy Newton, Parc Dinefwr; yn eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn, yn ystod rhaglen o adfer helaeth. Ymgymerwyd ag amryw asesiadau archeolegol wrth ddesg cyn gwneud penderfyniadau cynllunio, gan gynnwys gwaith ar ddwy fferm wynt arfaethedig ym Mhowys. Cynhaliwyd asesiadau wrth ddesg ym Machynys, Llanelli; yng Ngwesty’r Gatehouse, Dinbych-y-pysgod; ar Ystad Southwood, Sir Benfro, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym Morfa Berwick ar gyfer Grwp Gweithredu Llygod y Dwr Llanelli. Yn ystod y flwyddyn ymgymerwyd â nifer o orchwylion gwylio archeolegol, yn bennaf o ganlyniad i amod ar ganiatâd cynllunio. Roedd prosiectau eraill yn cynnwys arolwg topograffig, dadansoddiad o’r dirwedd ac ymchwil dogfennol ar ddau barc hanesyddol sef Penllergaer ar gyrion Abertawe a’r 365 Gris a Nyth yr Eryr yn Piercefield, Sir Fynwy.
Mae holl ymchwil ac ymchwiliadau archeolegol yr Ymddiriedolaeth
yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at feithrin
yr ymwybyddiaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru. Er hynny, mae amryw o
brosiectau a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth wedi’u hanelu’n
benodol at hybu’r ymwybyddiaeth hon. Mae Strategaeth Allgymorth
yr Ymddiriedolaeth yn dal i gyfrannu at gyflawni amcan elusennol sylfaenol
yr Ymddiriedolaeth, sef addysgu’r cyhoedd mewn archaeoleg, a’i
rôl wrth hybu’r amgylchedd hanesyddol fel un o’n hasedau
pennaf. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i gydnabod bod angen hybu a dehongli’r amgylchedd hanesyddol ar lefel y gymuned leol. Mae ‘Archaeoleg Gymunedol’ neu ‘Archaeoleg i Bawb’ yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws Prydain, gan gydnabod y gall y proffesiwn wneud cyfraniad mawr at nifer o agendâu economaidd a chymdeithasol cyfredol gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, iechyd ac addysg y cyhoedd, twristiaeth ac adfywio economaidd. Mae gan y sector gyfle hefyd i fanteisio ar y proffil uchel yn y cyfryngau mae archaeoleg yn ei fwynhau ar hyn o bryd. Paneli Dehongli a Thaflenni Treftadaeth Fel yn y blynyddoedd blaenorol, daliodd staff yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno darlithiau a sgyrsiau i amrywiaeth mawr o gyrff, a chyflwynwyd papurau mewn amryw o weithdai a seminarau. Rhoddodd staff yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o 48 o sgyrsiau a theithiau cerdded yn ystod y flwyddyn. Ym mis Tachwedd, gyda Chymorth oddi wrth yr Ymddiriedolaeth, trefnodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro y trydedd Ysgol Ddydd Archaeoleg Sir Benfro flynyddol gan gynnwys anerchiadau gan aelodau o staff yr Ymddireiedolaeth a siaradwyr eraill. Ym mis Mawrth gwrandawodd mwy na 100 o bobl ar anerchiadau gan aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth a phobl eraill yn Ysgol Ddydd Sir Gaerfyrddin a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaeth. Yn ogystal, bu aelodau unigol o staff yn cymryd rhan yn uniongyrchol mewn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth ac mewn cyfrannu at weithgareddau nifer fawr o sefydliadau a grwpiau allanol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, er enghraifft: Cymdeithas Archeolegol Cambria; Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru; Cymdeithas Swyddogion Archeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO), ar lefel y DU ac ar lefel cymdeithas genedlaethol; Sefydliad Archeolegwyr Maes Pwyllgor y Sefydliadau Archeolegol Cofrestredig; Panel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru; Grwp Cynghori ‘What’s in Store’; Grwp Amgylchedd Hanesyddol Cymru; Cymdeithas Archaeoleg Eglwysi; Grwp Ymchwil a Chynghori Mynyddoedd De Sir Benfro; Grwp Peirianneg Arfordirol Bae Caerfyrddin ac Abertawe; Fforwm Arfordirol Sir Benfro; Partneriaeth Arfordirol a Morwrol Cymru; Grwp Cynghori Castell Aberteifi; Grwp Llywio Ymlaen Dyffryn Tywi; Pwyllgor Cynghori Esgobaethol Tyddewi; Grwp Astudio Bryngaerau; Prosiect Trawsgenedlaethol PLANED; Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Hynafiaethol Sir Gaerfyrddin a chymdeithasau a grwpiau hanes ac archeolegol lleol amrywiol. Yn ystod y flwyddyn, mynychodd aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o fwy na 250 o gyfarfodydd â sefydliadau neu unigolion eraill.
Arddangosfeydd, arddangosiadau a diwrnodau agored Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ar ddydd Sadwrn cyntaf Wythnos Archaeoleg Genedlaethol. Cynhaliwyd un yn Amgueddfa Aberystwyth ar y cyd â Chlwb Archeolegwyr Ifanc a Gwasanaeth Amgueddfa Sir Ceredigion gan ganolbwyntio ar waith diweddar ar glostiroedd cynhansesyddol de Ceredigion. Canolbwyntiodd yr ail ddigwyddiad a gynhaliwyd ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, ar y gwaith diweddar a wnaed ar y caerau Rhufeinig gan gynnwys teithiau tywys i’r gloddfa fach y tu allan i’r caerau. Cynhaliwyd digwyddiad hefyd ar ail ddydd Sadwrn Wythnos Archaeoleg Genedlaethol yn Amgueddfa Abergwili ar y cyd â Gwasanaeth Amgueddfa Sir Caerfyrddin. Darparwyd gweithgareddau i blant a chynigiwyd cyfleoedd i bawb gael gwybodaeth am “Archaeoleg yn eich ardal” o’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol cyfrifiadurol. Am yr ail flwyddyn fe’n gwahoddwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru i ymuno â hwy yn eu pabell ar faes Sioe’r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin. Profodd cronfa ddata CAH i fod yn atyniad poblogaidd iawn gyda chiwiau o ffermwyr yn aros eu tro i weld beth oedd ar eu tir. Darparwyd arddangosfeydd a stondin yn yr Eistedd Genedlaethol yn Felindre, Abertawe ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent. Roedd arddangosfeydd hefyd yng Ngwyl Gardd Cymru, Parc Dinefwr, Llandeilo, a phan lansiwyd Parc-geo Bannau Brycheiniog yn Libanus, Powys. Oherwydd cyllid ychwanegol ar gyfer cloddfa West Angle a gafwyd gan PLANED trwy Prosiect Trawsgenedlaethol Leader+ llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i gefnogi aelod staff â’r un-pwrpas o annog ac ymgysylltu ag ymwelwyr, darparu teithiau i dros fwy na 400o bobl a darparu dau ‘sesiwn blasu’ ar gyfer pobl leol a sesiynau ymarferol i ymwelwyr. Denodd diwrnod agored yng Nghloddfa Ffynnonwen mwy na 200 o bobl leol. Cefnogwyd y diwrnod gan arddangosfa. Roedd yr arddangosfa hon hefyd i’w gweld drwy gydol yr haf yng nghanolfan addysg Castell Henllys. Cynhaliwyd ‘Diwrnod Canfyddiadau’ yn Aberystwyth
mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sir Ceredigion, er mwyn tynnu sylw at y
Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, a daeth tyrfa dda yno a chofnodwyd amryw
arteffact pwysig. Yn ystod y flwyddyn cyhoeddwyd llyfryn yn dathlu treftadaeth Caerfyrddin sef Carmarthen: the Oldest Town in Wales. Bwriad y llyfryn oedd codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth fregus dan-ddaear ac uwch-ddaear y dref.
Ymhlith papurau academaidd a gyhoeddwyd gan aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth oedd Prehistoric Funerary and Ritual Sites in Pembrokeshire yn y Journal of the Pembrokeshire Historical Society, ac An archaeological excavation and survey at the Shell House, Cilwendig, Pembrokeshire yn Gerddi: Journal of the Welsh Historic Gardens Trust. Ymddangosodd cyfraniadau byr yn Archaeology in Wales - Excavation at Troedyrhiw Defended Enclosure, Industrial Complex and Timber Trackway at Llangynfelin, Ceredigion, yn ogystal â nodiadau ar brosiectau a darganfyddiadau archeolegol eraill yn yr ardal. Yn ogystal, cynhyrchodd aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth 81 o adroddiadau mewnol yn amrywio o A Survey of Defended Enclosures of Pembrokeshire 2007 sef 12 cyfrol i adroddiadau mwy byr o ychydig dudalennau ar orchwylion gwylio archaeolegol. Yn ystod y flwyddyn, bu cynnydd ar baratoi llyfryn a
thaflen ar Gastell Caerfyrddin ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin. Bu cynnydd
hefyd o ran y testun a darluniau eglurhaol ar gyfer monograff academaidd
ar y castell. Cytunwyd ar destun a dyluniad llyfryn ar Dreftadaeth Mwyngloddio
Ceredigion, a bu cynnydd yn y gwaith ar adroddiad academaidd ar Safleoedd
Angladdol a Defodol Cynhanesyddol yng Ngheredigion. Disgwylir y cyhoeddir
y rhain i gyd yn ystod 2007-08. Addysg a Chymorth Hyfforddi i Brifysgolion Yn ystod y flwyddyn rhoddodd dau brosiect yr Ymddiriedolaeth gyfleoedd hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn astudio archaeoleg; West Angle (Prifysgol Caerdydd) a Ffynnonwen (Prifysgol Caerefrog). Roedd cloddfa Ffynnonwen hefyd yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol wedi’u lleoli yng nghloddfa hyfforddiant blynyddol Prifysgol Efrog yng Nghastell Henllys. Cynhigiwyd lleoedd hyfforddeion i fyfyrwyr prifysgol ar gloddfa Crug Brownslade. Parhawyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr yn swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod y flwyddyn, roedd y lleoliadau hyn yn cynnwys myfyrwyr o nifer o ysgolion a cholegau lleol.
Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ddatblygu gan
wneud ychwanegiadau rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn llwyddiant
‘dyddiaduron cloddio’ y llynedd, darparwyd diweddariadau gwefan
dyddiol tebyg, gyda ffotograffau, ar gyfer cloddfeydd yr Ymddiriedolaeth
yng nghlostir amddiffynnol Ffynnonwen, mynwent ganoloesol gynnar West
Angle a mynwent ganoloesol gynnar Crug Brownslade. Roedd y rhain yn boblogaidd
iawn gan ddenu nifer mawr o bobl at wefan yr Ymddiriedolaeth. yn darparu adnodd addysgol ac ymchwil gwerthfawr iawn a dull effeithiol o ledaenu holl agweddau ar waith yr Ymddiriedolaeth. Gellir mesur ei werth yn ôl y nifer mawr o ymwelwyr sy’n defnyddio’r cyfleuster yn rheolaidd.
Ymddangosodd nifer o brosiectau’r Ymddiriedolaeth yn y cyfryngau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys teledu, radio a phapurau a chylchgronau lleol a chenedlaethol. Cloddfeydd Ffynnonwen, West Angle a Chrug Brownslade a ddenodd sylw mwyaf y cyfryngau gydag erthyglau yn ymddangos mewn papurau lleol ac eitemau ar orsafoedd radio lleol. Cyfrannodd aelodau staff hefyd i raglenni teledu cenedlaethol gan gynnwys eitem am archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, eitem ar ‘Island Britain’ ar gyfer Time Team a chyfweliad ar Draeth Marchros ar gyfer Great Journeys. Bu aelodau staff yn cymryd rhan hefyd mewn amryw o gyfweliadau
ar y radio i hysbysebu digwyddiadau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer y
dyfodol neu’n disgrifio darganfyddiadau archaeolegol diweddar. Mae Gwasanaethau Archaeolegol yn cynnwys dwy elfen. Yn
gyntaf, cynnal a datblygu Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol yr
Ymddiriedolaeth neu CAH a ariennir yn rhannol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion
Cymru (RCAHMW). Yn ail, y Gwasanaethau Curadurol, rhoi cyngor i gyrff
unedol a chyrff eraill statudol ac anstatudol ar amddiffyn a gwarchod
yr amgylchedd hanesyddol. Mae’r ddau wasanaeth hyn yn cynnwys ardaloedd
awdurdod unedol Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â
Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yn cynnwys lwfansau gorbenion, cyfanswm grant Cadw ar gyfer Gwasanaethau
Curadurol oedd £140,628 (2004/2005: £134,858). Arhosodd y
grant sylfaenol a ddarparwyd gan RCAHMW ar gyfer y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol
rhanbarthol yn £27,500. Rhoddwyd cymorth ariannol parhaus ar gyfer darparu Cyngor Cynllunio Archaeolegol (dros ac uwchlaw’r cymorth grant gan Cadw) gan bedwar o’r Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) yn y rhanbarth, sef Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion. Cyfanswm eu cymorth oedd £12,515. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i’r ACLlau am y cymorth hwn, a fydd yn helpu i sicrhau y gellir cynnal lefel uchel y gwasanaeth a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth. Darparodd Cadw hefyd grant o £15,319 (gostyngiad
o £33,221 ar gyfer 2005-06) sef cyfraniad yr Ymddiriedolaeth tuag
at ddarpariaethau amgylchedd hanesyddol Cynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir
Gofal Cymru gyfan. Cafwyd ariannu pellach gwerth £20,860 oddi wrth
Cyngor Cefn Gwlad Cymru i dalu cost cynnal ymweliadau â ffermydd
ar gyfer nifer ddethol o ffermydd o fewn y cynllun. Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol Mae’r cofnod yn cynnwys cofnod papur a chronfa ddata ddigidol. Parhaodd y staff cofnod i gofnodi data newydd, cynnal gwaith cynnal a chadw arferol, ymgymryd â gwaith datblygu ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol. Parhaodd y broses o ychwanegu ‘digwyddiadau’ (cloddfeydd, arolygon, ac asesiadau wrth ddesg) at y Cofnod trwy gydol y flwyddyn. Parhaodd y gwaith ar ddatblygu llwyfan meddalwedd newydd
gan Oxford ArchDigital ar gyfer y CAH ledled Cymru. Bydd y system newydd
hon, a adnabyddir fel TOAD HMS (The Oxford ArchDigital Heritage Management
System), yn trawsnewid y broses o reoli’r cofnod a bydd yn gwella
mynediad y cyhoedd at y data craidd yn fawr trwy wefan yr Ymddiriedolaeth.
Ymfudwyd sampl o ddata’r Ymddiriedolaeth i TOAD ac er gwaethaf oedi
na ellid ei osgoi, disgwylir y bydd y system newydd ar waith yn y dyfodol
agos. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i gymryd rhan yn y broses o gyfnewid data craidd â phartneriaid eraill END (Cronfa Ddata Genedlaethol Estynedig Cymru). Cwblhawyd y gwaith ar gynllun tair-blynedd ar gyfer CAH. Mae hyn yn golygu bod y Cofnod yn bodloni un arall o’r meincnodau a nodwyd yn “Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol: Meincnodau ar gyfer Arfer Da” gan Gymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol (ALGAO) ac English Heritage ar gyfer Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a gytunwyd ar y cyd i’w defnyddio yng Nghymru. Parhawyd i roi cymorth trwy grant curadurol Cadw ar
gyfer darparu gwybodaeth yn ehangach gan CAH a datblygu gweithgareddau
allymestyn. Ymdriniwyd â chyfanswm o 261 o ymholiadau allanol yn
ystod y flwyddyn. Darparwyd cymorth ariannol ychwanegol i CAH gan Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd gwaith a wnaed fel rhan o’r
trefniant hwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarpariaeth data CAH a chofnodwyd
y broses o ysgrifennu disgrifiadau o fewn y Parc.
Gwasanaethau Curadurol: Cynllunio Mae’r maes hwn o waith yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud yn bennaf â datblygu tasgau rheoli-datblygu, er bod rhai ymgynghoriadau sy’n effeithio ar safleoedd archaeolegol yn codi y tu allan i’r system gynllunio. Yn ystod y flwyddyn, hysbyswyd yr Ymddiriedolaeth ynghylch 6,773 o geisiadau cynllunio. O’r rhain, roedd angen gwerthusiad manwl ar 2,868 ohonynt, gan arwain at weithredu ymhellach mewn 298 o achosion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer asesiadau, gwerthusiadau, cloddfeydd neu gofnodi gwaith cyn datblygu, neu ar gyfer gwylio briffiau yn ystod datblygu. Argymhellwyd y dylid gwrthod ar sail archaeolegol 11 gwaith. Yn ystod y flwyddyn parhaodd yr Ymddiriedolaeth i feithrin eu perthynas waith dda gyda’r awdurdodau cynllunio lleol. Yn benodol, cynhaliwyd gweithdy â Chyngor Sir Caerfyrddin i fynd i’r afael â materion yn gysylltiedig ag archaeoleg ac i helpu cefnogi gwneud penderfyniadau cyson ynglyn ag archaeoleg yn y broses gynllunio. Yn dilyn hyn, gofynnwyd i’r Ymddiriedolaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin am eu cymorth i gynhyrchu Arweiniad Cynllunio Atodol ar gyfer archaeoleg. Wrth ymateb i geisiadau, parhaodd Archeolegydd Cynllunio’r Ymddiriedolaeth i baratoi briffiau, cytuno ar fanylebau a chynnal ymweliadau monitro ar amrywiaeth o ddatblygiadau. Mae datblygu ffermydd gwynt yn ein rhanbarthol yn parhau i gyfrannu’n sylweddol at y baich gwaith. Yn ogystal â datblygiadau mawr, mae nifer y ceisiadau am un twrbin wedi cynyddu. Er nad oes llawer o effaith ffisegol yn perthyn iddynt, gall yr effaith weladwy ar yr amgylchedd fod yn sylweddol. Cyflwynwyd argymhellion i wrthod caniatâd am fferm wynt fawr ar Fynydd-y-Betws ar sail y byddai’n cael effaith annerbyniol ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae achosion sylweddol parhaus yn cynnwys darparu cyngor manwl ar geisiadau ynglyn â threfi hanesyddol yr ardal, gan gynnwys datblygiad mawr yn Hen Farchnad Anifeiliaid Caerfyrddin, chwalu adeilad rhestredig Commerce House yn Hwlffordd ac ailddatblygu o amgylch Foley House, Hwlffordd. Yn Y Mot, bwrdeistref bwysig yn y canoloesoedd, cynhaliwyd trafodaethau rhwng yr ymgeisydd, Cyngor Sir Penfro a’r Ymddiriedolaeth ynglyn â’r ffordd orau i ddiogelu olion sylweddol a ddarganfuwyd yn ystod gwerthusiad. Parhawyd i roi gwybodaeth a chyngor am faterion rheoli treftadaeth y tu allan i’r fframwaith cynllunio lleol o ran coedwigaeth, trin safleoedd chwareli metel, safleoedd arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Cafwyd 96 o ymgynghoriadau oddi wrth Y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer Cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru. Paratowyd 56 adroddiad wrth ddesg ac ymwelwyd â 3 thri safle ar gyfer yr ymgynghoriadau. Ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i ymgynghoriadau gan ddiwydiannau gwasanaeth, gan gynnwys 53 cynllun gan Ddwr Cymru yn ogystal ag ymgynghoriadau gan Western Power ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol gyda darparu cyngor yn ymwneud ag adeiladu prif biben nwy y Grid Cenedlaethol o Aberdaugleddau i Aberdulais. Gorffennwyd y gwaith archaeolegol ar y llwybr 120 cilomedr yn ystod y flwyddyn ond dechreuwyd ar ail ran y brif biben, sef 115 cilomedr o Felindre i Tirley. Roedd hyn yn cynnwys gwerthuso llwybr lle mae’n croesi. Bydd gwaith yn parhau ar y llwybr hwn yn ystod 2007-8. Darparwyd gwybodaeth am 13 Hysbysiad ynghylch Cael Gwared ar Gloddiau ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, ar gais Cadw, parhaodd yr Ymddiriedolaeth i roi sylwadau ar Geisiadau Caniatâd Henebion Cofrestredig.
Gwasanaethau Curadurol: Rheoli Treftadaeth Mae Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol yn y Grwp Amgylchedd Hanesyddol, grwp cynghori a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch gweithredu a fydd o fantais i, ac yn hyrwyddo, amgylchedd hanesyddol Cymru. Yn ystod y flwyddyn ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i ymgynghoriadau ar amrywiaeth o faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys rhoi sylwadau ar adroddiad ‘What’s in Store’, sy’n ystyried strategaeth at gyfer archifau archaeolegol yng Nghymru. Comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin yr Ymddiriedolaeth i gynhyrchu Arweiniad Cynllunio Atodol i’r Amgylchedd Hanesyddol, y ddogfen gyntaf o’i fath yng Nghymru, a chynhaliwyd trafodaethau â’r awdurdod am y ffordd orau i’w hymgorffori yn y broses gynllunio. Ar lefel mwy lleol, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i gymryd rhan yn weithredol ym Mhartneriaeth Tirwedd Ymlaen Dyffryn Tywi sy’n ceisio datblygu prosiect cadwraeth tirwedd mawr: Tywi Afon yr Oesoedd. Penodwyd yr Ymddiriedolaeth i fod y contractwr arweiniol yn elfen Ymchwilio’r Tirwedd y prosiect a dechreuodd waith cychwynnol ar baratoi cynnig mawr i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Roedd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn weithgar yn cynghori Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan ar ddyfodol Castell Aberteifi. Neilltuwyd rhywfaint o amser Archeolegydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r cloddfeydd yng Nghrug Brownslade a West Angle. Roedd y gwaith achos yn cynnwys llunio cynlluniau rheoli ar gyfer Crugiau Cemaes, llwybr troed a gwelliannau eraill i Gastell Nanhyfer, a gwelliannau i lwybr troed Caer Porth y Rhaw, Solfach a gwelliannau i’r llwybr troed yn Watery Bay ger Marloes lle darparwyd mynediad i gadeiriau olwyn ar hyd llwybr y glannau i’r heneb. Daeth Archeolegydd y Parc yn gyswllt lleol ar gyfer y Prosiect Cerrig Canoloesol Cynnar a chynorthwyodd i lunio cais ar gyfer cerrig Llanismel. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i roi cyngor i Bwyllgor Cynghori Esgobaethol Tyddewi (DAC) ar gyfadrannau a’r Pwyllgor Cynghori Ffabrig (FAC) ar gyfer Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i gymryd rhan yn y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, cynllun gwirfoddol ar gyfer adrodd a chofnodi canfyddiadau archaeolegol. Ymhlith yr arteffactau a nodwyd yn ystod y flwyddyn oedd tua 2300 o ddarnau arian Rhufeinig o ddiwedd y drydedd ganrif yn Nhalacharn, canfyddiadau Rhufeinig ger Aberteifi, a chanfyddiadau niferus yn ardal Llanelli. Ym mis Tachwedd cynhaliwyd ‘Diwrnod Canfyddiadau’ er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun yn Amgueddfa Sir Ceredigion. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn gyfrifol
am ddarpariaethau amgylchedd hanesyddol Cynllun Amaeth-Amgylcheddol Tir
Gofal yn y rhanbarth. Roedd gostyngiad sylweddol o ran gweithgarwch o’i
gymharu â’r blynyddoedd blaenorol oherwydd bwlch yn y cynllun.
Disgwylir y bydd y cynllun yn dod yn fwy gweithgar yn 2007-08. Yn ystod
y flwyddyn, a chyda chymorth grant Cadw, rhoddodd yr Ymddiriedolaeth wybodaeth
am 59 o ymgynghoriadau fel rhan o broses yr adroddiad amgylchedd hanesyddol
(HE1), gan gynnwys 21 HE1 wedi’u ddiweddaru, a ddarparwyd i Gyngor
Cefn Gwlad Cymru yn rhan adolygiad canol-tymor (5 mlynedd) o 114 o ffermydd.
Mae rhai o’r rhain yn cynnwys tir ychwanegol a gynhwysid yn y ffermydd
erbyn cynnal yr adolygiad. Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd
28 o ymweliadau wedi’u hariannu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Paratowyd
adroddiadau ymweliad fferm llawn (HE2) ar gyfer 23 o’r rhain. Gwnaed
y 5 ymweliad arall wrth ymateb i geisiadau am argymhellion rheoli amgylchedd
hanesyddol ar faterion penodol. Darparwyd testun, a dylunio hefyd ar gyfer
2 banel dehongli.
Fel sefydliad sector gwirfoddol, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar gymorth grant oddi wrth Cadw a’r Comisiwn Brenhinol. Mae’r cymorth grant hwn yn ychydig dros 43% o gyfanswm adnoddau’r Ymddiriedolaeth sy’n dyfod i mewn (y ffigur cyfatebol ar gyfer 2005-06 oedd 43%). Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth barhaus hon. Ar gyfer y flwyddyn a orffennodd 31 Mawrth 2007, gwariwyd 6.5% o gyfanswm yr adnoddau ar reoli a gweinyddu’r elusen (2005-06: 6%), swm bychan ar gyhoeddusrwydd a hysbysebu a’r gweddill ar wariant elusennol uniongyrchol ar y gweithgareddau a ddisgrifiwyd uchod. Mae’r cyfrifon am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2007 yn dangos diffyg ariannol o incwm o’i gymharu â gwariant o £5496 (2005-06: elw o £9,432). Polisi arian wrth gefn Mae gan yr Ymddiriedolaeth bolisi arian wrth gefn pe bai ei angen i gynnal gwasanaethau os ceir problemau ariannol dros dro yn unrhyw faes incwm neu wariant, neu pe bai’r Ymddiriedolaeth yn dod yn agored i gyfyngder ariannol annisgwyl. Y disgwyl yw y byddai’r arian wrth gefn yn ddigon ar gyfer unrhyw ddiffyg ariannol yn y tymor byr hyd y gellir cymryd camau i unioni’r sefyllfa. Defnyddir yr arian wrth gefn yn yr amgylchiadau canlynol yn unig: costau ymddiswyddo pan fyddai pob ffynhonnell arall wedi methu; costau gweithredu hanfodol pan fyddai pob ffynhonnell arall wedi methu; pan fyddai’n rhaid defnyddio gorddrafft orfodol. Cyfrifwyd y lleiafswm yr arian wrth gefn ar sail costau ymddiswyddo chwe aelod staff ar raddfeydd gwahanol. Sefydlwyd y gronfa arian wrth gefn yn 2000/2001 â swm cychwynnol o £15,000. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu trosglwyddo 10% o unrhyw warged gweithredol, neu £5,000, p’un bynnag oedd yn llai, i’r gronfa arian wrth gefn yn flynyddol. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa ariannol gyfredol anffafriol, ni throsglwyddwyd unrhyw arian i’r gronfa. Felly mae cyfanswm y gronfa arian wrth gefn yn aros yn £35,340. Arian wedi’i ddynodi Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo swm gwerth £8538 i ddatblygu llwyfan digidol newydd ar gyfer y Cofnod Amgylchedd hanesyddol rhanbarthol. Yn ystod y flwyddyn, gwariwyd £929 o’r arian yng nghronfa Ddynodedig CAH (sydd bellach yn werth £7609). Adolygu risgiau Mae’r Pwyllgor Rheoli yn parhau i adolygu’r prif risgiau y mae’r elusen yn agored iddynt. Mae hyn yn cynnwys adolygu systemau a sefydlwyd i leihau’r risgiau hynny. Mae’r risgiau mewnol wedi’u lleihau trwy roi gweithdrefnau ar waith ar gyfer awdurdodi pob trafodyn, datblygu system i fonitro cynnydd prosiectau unigol yn rheolaidd ac i sicrhau y darperir adnoddau digonol wrth gefn o ran sgiliau hanfodol staff. Parheir i adolygu’r gweithdrefnau hyn o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni anghenion yr elusen. Y rhagolygon ar gyfer 2007-08 Mae’r Ymddiriedolaeth wedi trafod cael grant a gymeradwywyd oddi wrth Cadw ar gyfer 2007-08 sy’n werth £291,579 o’i gymharu â grant cychwynnol gwerth £283,456 yn 2006-07. Yn ogystal mae £28,875 o’r cyllid ar gyfer CAH wedi’i gytuno â RCAHMW (£27,500 yn 2006-07). Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2006-07 roedd rhyw £191,132 wedi’i sicrhau o ffynonellau eraill ar gyfer 2007-08. Ym mis Ionawr 2007 penodwyd Mr E G Hughes, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth yn brif Arolygydd Henebion a Hen Adeiladau Cadw. Penodwyd Mr K Murphy yn Prif Weithredwr newydd yr Ymddiriedolaeth. Bydd y ddau yn dechrau eu swyddi newydd ar 1 Mai 2007. Datganiad Dadlennu Cyn belled ag y bo’r ymddiriedolwyr yn gwybod, nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol (fel y diffiniwyd yn Adran 234ZA Deddf y Cwmnïau 1985) nid yw archwilwyr y cwmni yn ymwybodol ohoni, ac mae pob ymddiriedolwr wedi cymryd yr holl gamau y dylent fod wedi’u cymryd er mwyn gwneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod archwilwyr y cwmni yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. ARCHWILWYR Mae Charles and Co wedi datgan eu parodrwydd i’w ailbenodi yn archwilwyr yr Ymddiriedolaeth yn unol ag Adran 385 Deddf Cwmnïau 1985. SAIL PARATOI Mae Adroddiad yr Ymddiriedolwyr wedi’i baratoi yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII Deddf Cwmnïau 1985 sy’n berthnasol i gwmnïau bach. Trwy orchymyn Bwrdd yr Ymddiriedolwyr K Murphy
Gellir is-lwytho'r atodiadau dilynnol mewn ffurf Adobe
Acrobat Atodiad A - RHESTR O AELODAU’R YMDDIRIEDOLAETH Atodiad B - STAFF YR YMDDIRIEDOLAETH Atodiad C - GWAITH YMCHWIL AC YMCHILIO Atodiad D - CYHOEDDIADAU AC ADRODDIADAU
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]