Cartref > Gwasanaeth Treftadaeth > Tir Gofal >

Tir Gofal
Ebrill 2002 – Mawrth 2003

Ymholiadau cyn gwneud cais – Roedd newidiadau a wnaed i’r ffurflen gais a anfonwyd allan ar gyfer Blwyddyn 4 o’r cynllun yn golygu nad oedd ffermwyr bellach yn gorfod nodi o flaen llaw faint o safleoedd archaeolegol neu adeiladau hanesyddol yr oeddynt yn gwybod amdanynt ar eu ffermydd. O ganlyniad i hyn, derbyniwyd nifer sylweddol yn llai o ymholiadau cyn gwneud cais, yn y cyfnod yn arwain at gais ar gyfer 2003. Dim ond 11 ymholiad cyn gwneud cais a dderbyniwyd o gymharu â 108 yn ystod 2001/2002.

Adroddiadau Amgylchedd Hanesyddol 1 (AH1) – Cwblhawyd y gwaith ymgynghori ar Flwyddyn 3 o’r cynllun yn ystod y flwyddyn, ac o ganlyniad derbyniwyd 467 o adroddiadau AH1 Blwyddyn 3. Yn dilyn cais gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru datblygwyd cynnwys yr AH1 i fynd i’r afael â thirwedd hanesyddol cyffredinol pob fferm yn unigol. Bellach mae’r adroddiadau yn cynnwys asesiad pellach o’r dirwedd hanesyddol a hefyd crynodeb o’r amcanion rheoli allweddol a ddylid eu hystyried wrth fynd ati i reoli’r fferm.

Adroddiadau Amgylchedd Hanesyddol 2 (AH2) – Cafwyd cyfanswm o 67 ymweliad y llynedd. ‘Galwadau allan’ oedd 11 o’r rhain, lle roedd Swyddog Prosiect Tir Gofal wedi gofyn am ymweliad i’r fferm er mwyn ymdrin â mater oedd yn ymwneud yn benodol â rheoli. Yn anffodus, bu’n rhaid mynd ar ymweliad arall er mwyn asesu’r difrod i safle archaeolegol oherwydd bod gwaith a oedd heb ei awdurdodi wedi cael ei wneud yno. Cafodd y cynnydd mewn ffermydd yn ymuno â’r cynllun effaith ar gynhyrchu AH2 gyda dau aelod o staff dros dro yn cael eu recriwtio i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynhyrchu adroddiadau AH2.

Hyfforddiant – Trwy gydol y flwyddyn mae’r Ymddiriedolaeth wedi cymryd rhan mewn nifer o fentrau hyfforddi. Cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant i Swyddogion Prosiect Tir Gofal CCGC gan edrych yn benodol ar adfer adeiladau fferm yn ystod mis Gorffennaf gyda chyngor arbenigol gan Cadw. Parc Dinefwr oedd y lleoliad ar gyfer diwrnod hyfforddiant i Swyddogion Prosiect Tir Gofal CCGC oedd newydd eu penodi ym mis Gorffennaf. Cynhaliwyd cyfres o ddiwrnodau agored gan CCGC yn y gwanwyn i ffermwyr a oedd newydd gofrestru ar y cynllun. Er mwyn codi ymwybyddiaeth am amgylcheddau hanesyddol ac i ateb cwestiynau wnaeth yr Ymddiriedolaeth fynychu pob un o’r diwrnodau hyn.


Trwy Tir Gofal, a thrwy ymgynghori gyda Cadw, bydd y parc yn Nanteos yn cael ei adfer trwy blannu coed.

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]