Cartref > Gwasanaeth Treftadaeth >

TIR GOFAL - cynllun amgylchedd-amaeth i Gymru

Beth yw Tir Gofal?

Cyflwynwyd cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal ym 1999 yn gynllun sy’n ceisio integreiddio’r rheoli amgylcheddol ac amaethyddol ar ffermydd cyfan o dan un cytundeb. Gweinyddir y cynllun gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ffurflenni cais ar gyfer Tir Gofal i’w cael o swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar hyd a lled y wlad.

 

Tir Gofal a’r Amgylchedd Hanesyddol

Agwedd bwysig ar Dir Gofal yw rheoli ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Mae’r rhan fwyaf o archaeoleg Cymru i’w chael ar dir ffermio. Ar hyd yr oesoedd, bu pobl Cymru’n byw ar y tir gan ei droi i’r hyn yw ef yn awr. Mae ffermwyr heddiw’n parhau â’r traddodiad hwnnw. Yn ogystal â siapio Cymru at y dyfodol, mae ffermwyr modern yn warcheidwaid y gorffennol. Fel rhan o’r cynllun Tir Gofal, gall ffermwyr gael taliadau am reoli’r nodweddion archaeolegol a hanesyddol ar eu tir.

 

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Thir Gofal

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed amryw o rolau o fewn y cynllun Tir Gofal. Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ymgynghori â ni ynghylch yr hyn sydd o ddiddordeb archaeolegol ar bob fferm yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro sy’n gwneud cais i ymuno â chynllun Tir Gofal. Fel rhan o’r broses ymgynghori honno, adroddiad Amgylchedd Hanesyddol 1 (HE1) sy’n rhoi manylion lleoliadau safleoedd, disgrifiadau o safle, a gwybodaeth a chyngor rheoli ynghylch y tirlun hanesyddol. Mae hyn yn fodd i’r ffermwyr reoli’r amgylchedd hanesyddol yn briodol. Caiff yr agwedd hon ar ein gwaith ei hariannu o fewn y cynllun Tir Gofal a weinyddir gan Cadw: Henebion Cymru. Os bydd pryderon rheoli penodol yn codi, caiff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ei gomisiynu gan y Cyngor Cefn Gwlad i wneud arolwg o’r fferm drwy gerdded ei thir. Mae hynny’n fodd i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ddarparu cyngor rheoli penodol iawn yng ngoleuni cyflwr yr archaeoleg ar hyn o bryd.

Mae olion bwthyn yn goroesi fel banciau o wrthgloddiau isel a phentyrrau o rwbel.

 

Ymholiadau ynghylch Tir Gofal. Cymorth a chyngor am ddim

Os ydych chi’n ffermio yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion neu Benfro, gallwch gysylltu â’r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn Llandeilo i gael gwybodaeth am yr archaeoleg sydd eisoes yn hysbys ar eich fferm chi, a gallwch ddweud wrthym yr hyn a wyddoch chi am nodweddion hanesyddol yr ydych wedi dod ar eu traws ar eich tir. Ar ôl i chi wneud cais i ymuno â Thir Gofal, caiff pob fferm Adroddiad ar ei Hamgylchedd Hanesyddol (HE1). Ar unrhyw adeg yn ystod y cynllun, cewch gysylltu ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch rheoli’r nodweddion hanesyddol ar eich fferm.

 

Asesiadau o’r Amgylchedd Hanesyddol ac Arolygon Fferm Tir Gofal

Adroddiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE1)

Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n ymgynghori ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ynghylch pob cais Tir Gofal. Cyflwynir y wybodaeth i’r Cyngor Cefn Gwlad ar ffurf adroddiad ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE1). Mae adroddiad HE1 yn nodi pob safle sydd wedi’i gofnodi yn y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion ac yn darparu cyngor rheoli yn ei gylch. Yn ogystal, mae HE1 hefyd yn darparu amcanion rheoli allweddol ar gyfer y dirwedd a amaethir. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd o botensial archaeolegol lle nad oes unrhyw waith archaeolegol blaenorol wedi’i wneud. Yr HE1, hefyd, yw’r mecanwaith sy’n fodd i’r Pennaeth Rheoli Treftadaeth argymell gwneud arolwg archaeolegol o’r fferm.

Ymweliadau â Ffermydd ac Adroddiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE2)

Mae Tir Gofal yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymweld ag 20% o’r holl ffermydd yn y cynllun i wneud arolwg archaeolegol ohonynt. Bydd hynny’n arwain at lunio ail adroddiad ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE2). Mae’r broses HE2 yn cynnwys ymchwilio mewn dogfennau yn yr CHA ac, os yw amser ac adnoddau’n caniatáu, ymweliadau ag archifdai a llyfrgelloedd. Ar ôl gwneud yr ymchwil, gwneir arolwg drwy gerdded tir y fferm a thargedu’r safleoedd a nodwyd ar sail yr ymchwil mewn dogfennau. Yn adroddiad HE2, ceir disgrifiadau a chyngor rheoli manwl ar sail y wybodaeth a gafwyd wrth ymweld â safleoedd a nodweddion archaeolegol penodol. Bydd yr ymweliadau â ffermydd hefyd yn arwain at nodi safleoedd na chofnodwyd mohonynt cynt.

 

Ymweliadau Galw-Allan

Gellir hefyd ymweld â fferm ar gais y Cyngor Cefn Gwlad i roi sylw i faterion rheoli penodol, megis creu pyllau dwr neu adfer adeiladau traddodiadol. O dan yr amgylchiadau hynny, fe lunnir Adroddiad Galw-Allan sy’n darparu cyngor rheoli targededig.

Mae’r ysgubor hon a’r stabl wrth ei hochr wedi’u hadfer gyda chyllid Tir Gofal.

 

Diwrnodau o Hyfforddiant Archaeolegol i Swyddogion Prosiect Tir Gofal

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed hefyd yn ymwneud, ynghyd â’r tair Ymddiriedolaeth Archaeolegol arall yng Nghymru, â hyfforddi Swyddogion Prosiect Tir Gofal Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Byddwn ni’n cyfrannu i’r ysgolion undydd sydd wedi’u cynllunio i alluogi Swyddogion Prosiect i ganfod meysydd sy’n peri pryder yn yr amgylchedd hanesyddol ac i ddeall argymhellion ynghylch rheolaeth archaeolegol. Mae’r broses hyfforddi hon yn fodd i dîm Tir Gofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed weithio’n agos gyda Swyddogion Prosiect Tir Gofal i gynnig y cyngor rheoli gorau posibl, hyd yn oed os nad oes cyfle i ymweld â’r safleoedd archaeolegol.

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]

 

 

Ymholiadau

Arolygon Ffermydd