Cartref > Gwasanaethau Treftadaeth >

Beth yw’r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd?

SMR/DC officer at work

 


Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yw’r adnodd mwyaf cynhwysfawr o wybodaeth am safleoedd a gwrthrychau archaeolegol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n cwmpasu pob cyfnod o ddatblygiad dynol o olion o’r gweithgarwch cynhanesyddol cynharaf i strwythurau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd ac yn cynnwys gwybodaeth gan Cadw ar Henebion wedi’u Cynllunio ac Adeiladau Rhestredig.

Yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd unigol, mae HER yn cynnwys gwybodaeth ar dirweddau’r gorffennol a gwybodaeth am waith archaeolegol blaenorol a wnaethpwyd. Rydym yn bartneriaid â thair Ymddiriedolaeth Archaeolegol arall yng Nghymru, Cadw, CBHC ac Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Cofnod yn system gymhleth o wybodaeth ar sail cronfa ddata gyfrifiadurol a mapio digidol. Ar gyfer pob cofnodiad ar y cofnod mae gennym wybodaeth allweddol megis math y safle, ei enw, ei leoliad a’r cyfnod y mae’n dyddio ohono. Mae cyfeiriadau llyfryddiaethol a disgrifiad gan y rhan fwyaf o gofnodion. Ar hyn o bryd mae dros 39,000 o gofnodion gan y gronfa ddata, rhif sy’n cynyddu bob dydd.

Yn cefnogi’r wybodaeth ddigidol hon mae casgliad cyfeirio papur mawr. (Cysylltiad yw hon i ddogfen mew ffurf PDF. Mae'r cyflwyniad yn Gymraeg a'r adrannau technegol yn Saesneg - yr agored mewn ffenestr newydd).

Ymweliad i'r CHA gan aelodau o gymunedau Sir Benfro wedi ei drefnu gan PLANED
Ymweliad i'r CHA gan aelodau o gymunedau Sir Benfro wedi ei drefnu gan PLANED

 


Darganfyddwr Metel lleol (ar y dde) gyda erthyglau mae wedi eu ffeindio yn cael eu cofrestri dan y Deddf Drysor a Hynafiaethau Cludadwy

Sut gallwn eich helpu?

Cofnod cyhoeddus yw HER. Mae croeso i ymholiadau gan unrhyw un sydd am wybod mwy am archaeoleg yr ardal. Cysylltwch â HER dros y ffôn, trwy lythyr neu e-bost ac esboniwch am beth yr hoffech wybodaeth. Gallwch ymholi hefyd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Os ydych am ymholi am safle neu ardal benodol, mae’n ddefnyddiol os ydych yn gallu rhoi cyfeiriad Grid Cenedlaethol. Ar ôl i ni gael gwybod am eich diddordeb, gallwn roi gwybod i chi a fyddai ymweliad yn werthfawr ai peidio neu a oes modd rhoi gwybodaeth trwy ddull arall. Fel arfer rhoddir gwybodaeth gan Gofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn rhad ac am ddim (yn unol â pholisi Mynediad a Chodi Tâl Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru).

 

Sut gallwch ein helpu?

Mae ceisio cadw HER yn ddiweddar mewn ardal mor helaeth â de-orllewin Cymru’n dasg heriol. Rhowch wybod i ni os cewch fod gwybodaeth a roddwn i chi yn anghywir. Hefyd rydym yn frwdfrydig o ran cael gwybod am ddarganfyddiadau newydd yn yr ardal. Hoffem glywed gennych os dewch ar draws gwrthrych, safle newydd, neu hyd yn oed darn o waith maes rydych yn meddwl efallai na fyddem yn gwybod amdano.

 

Ymholiad ar-lein Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]