Gwasanaethau a gynigir gan HER
Mae Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn cynnig gwasanaethau
i fodloni anghenion ystod eang o ddefnyddwyr.
Ymchwilwyr academaidd
Gellir chwilio ein cronfeydd data mewn amrywiaeth o ffyrdd fel y gallwn
gynnal chwiliadau cronolegol a thematig. Mae ein cofnodion yn fynegai
i ffynonellau gwybodaeth pellach, yr ydym yn cadw llawer ohonynt fel copïau
yn ein casgliadau cefnogol o fapiau, lluniau, erthyglau cyfnodolion ayyb.
Archaeolegwyr amatur
Rydym yn gallu rhoi gwybodaeth ar gyfer ymchwil leol. Mae’r adran
Rheoli Treftadaeth hefyd yn gweithio i roi cyngor a chymorth i grwpiau
lleol sydd am wneud gwaith maes archaeolegol.
Contractwyr Archaeolegol#
Mae dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol lleol yn hanfodol ar
gyfer unrhyw ddarn o waith archaeolegol ac mae’r wybodaeth a gedwir
yn HER yn declyn chwilio hanfodol. Rydym yn rhoi gwybodaeth i gontractwyr
at amrywiaeth o ddibenion o asesiadau desg i ymchwil cyn prosiectau gwaith
maes. Cyflwynir pob adroddiad canlyniadol i HER ac rydym yn sicrhau y
trefnir bod canlyniadau’r rhain ar gael.
Datblygwyr ac ymgynghorwyr masnachol#
Rydym yn rhoi gwybodaeth ar amrywiaeth o lefelau i’w defnyddio mewn
asesiadau archaeolegol. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ymholiadau ar
gyfer meysydd datblygu arfaethedig. Cysylltwch â ni i drafod eich
gofynion.
Grwpiau astudio lleol
Mae modd chwilio’r cofnodion yn ôl lleoliad fel y gallwn roi
gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol eich ardal leol. Mae gennym ystod
o wybodaeth gefnogol, megis mapiau hanesyddol o’r rhanbarth. Hefyd
rydym yn gallu cynnig anerchiadau a chyflwyniadau ar agweddau o’r
amgylchedd hanesyddol lleol.
Defnyddwyr synwyryddion metal/Rhestru darganfyddiadau
Rydym yn sefydliad cofnodi ar gyfer y Cynllun Cofnodi Hynafiaethau Cludadwy
ac rydym yn cysylltu â defnyddwyr datgelyddion metel unigol yn ogystal
â chlybiau datgelu metel lleol. Rydym hefyd yn rhestru darganfyddiadau
y mae’r cyhoedd yn dod â nhw i mewn. Mae gwrthrychau bob amser
yn cael eu dychwelyd i’r perchennog*, ond gwneir cofnod er mwyn
rhoi gwybod i ymchwilwyr y dyfodol.
Ysgolion a phrifysgolion
Rydym yn cynnig gosodiadau gwaith i ddisgyblion ysgol lleol ac i fyfyrwyr
prifysgol.
# Codir taliadau am ymholiadau masnachol – gweler
‘Canllawiau Mynediad a Chodi Tâl’
* Amodol ar amodau’r Ddeddf Drysor – gweler adran Cynllun
Cofnodi Hynafiaethau Cludadwy ein gwefan
|