Cartref > Gwasanaethau Treftadaeth > Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd >

Swyddogaeth Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd

Mae’r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn nhirweddau de-orllewin Cymru a’u trigolion yn y gorffennol. Rydym yn delio â nifer o wahanol fathau o ymholiadau gan gynnwys rhai gan bobl sy'n byw'n lleol, ymwelwyr â'r ardal a grwpiau diddordeb lleol. Croesewir pob math o ymholiadau o rai'n ymwneud â safle arbennig, i'r rhai sy'n gysylltiedig ag ardal eang neu fath o safle. Mae’r CHA hefyd yn chware rôl bwysig iawn wrth gynorthwyo gyda rheolaeth a chyflwyniad y tirlun hanesyddol a defnyddir ef yn ddyddiol gan unigolion, sefydliadau ac awdurdodau lleol i asesu goblygiadau archaeolegol datblygiadau arfaethedig yn yr ardal.

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]