Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Canllawiau ar gyfer Hawl i Weld a Chodi TâlMae cofrestri'r safleoedd a'r henebion sy'n cael eu cynnull a'u cynnal gan y pedwar Ymddiriedolaeth Archaeolegol yn ceisio darparu catalog llawn o safleoedd a darganfyddiadau archaeolegol a hanesyddol o bob cyfnod drwy Gymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae tua 60,000 cofnod unigol yn y pedair cofrestr rhanbarthol, ac ychwanegir atynt ac ehangir hwynt yn gyson wrth i wybodaeth newydd ddod i law. Mae'r Cofrestri yn ateb nifer o ddibenion gan gynnwys cynorthwyo i reoli'r tirwedd hanesyddol a'i gyflwyno'n gadarnhaol, rheoli cynllunio, a bod yn adnawdd i roi mewnbwn i hanes lleol, cadwraeth a phrosiectau twristaidd. Mae'r nodiadau hyn yn rhoi canllawiau ar gyfer gweld y wybodaeth sydd ar gael yn y cofrestri. Cedwir y Cofrestri ar fasau data cyfrifiadurol sy'n rhoi lefel gyson o wybodaeth am bob safle, gan gynnwys cyferiad grid, cymuned, statws dynodedig, math o safle, cyfnod, a ffynonellau llyfryddiaeth. Mae'r Cofrestri hefyd yn cynnwys cofnodion cartograffig, dogfennol a ffotograffig ychwanegol. Mewn sawl enghraifft mae'r cofnodion yn grynodeb neu yn fynegiant o wybodaeth a gofnodir yn rhywle arall. Felly bydd angen yn aml i alw ar wasanaeth archaeolegwr profiadol i fesur arwyddocad llawn safleoedd arbennig a restrir yn y cofrestri. Cofrestrwyd pob un o'r Cofrestri rhanbarthol dan Data Protection Act 1984. Yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol unigol sydd a'r hawlfraint am strwyddur data a chynnwys y Cofrestri. Mae Cadw/Welsh Historic Monuments a Chomisiwn Brenhinol Henebion (CBH) yn talu cyfran o gostau cynnal a datblygu'r Cofrestri rhanbarthol ond mae angen incwm ychwanegol i dalu am gostau ymholiadau allanol. Mae'r cofrestri rhanbarthol yn ffurfio rhan o gofrestr genedlaethol sydd ar hyn o bryd yn cael ei datblygu gan CHB. CANLLAWIAU AR GYFER HAWL I WELD A CHODI TÂLAmodau mynediad at y Cofnod - fersiwn byr yw hwn. Am y fersiwn llawn mewn ffurf PDF, cliciwch yma (yn agored mew ffenestr newydd).
· Ni chaiff gwybodaeth a gafwyd gan HER ei throsglwyddo i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig oddi wrth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed* · Bydd defnyddwyr yn sicrhau y ceisir cyngor archaeolegol arbenigol ar effeithiau posibl ar adnodd archaeolegol unrhyw ddatblygiad argymhelledig y maen nhw’n gysylltiedig ag ef. · Bydd defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth a gafwyd gan HER yn gywir. · Perchir yr hawlfraint ar wybodaeth sydd gan HER. · Caiff gwybodaeth a gafwyd gan HER ei chydnabod yn unrhyw ddogfen ac adroddiad a gyhoeddir. · Mae’n ofynnol i ddefnyddwyr drefnu bod unrhyw wybodaeth amgylcheddol newydd neu a newidiwyd ar gael i’w hymgorffori yn HER, o fewn graddfa amser resymol. Dylai defnyddwyr drafod y fformat ofynnol ar gyfer y wybodaeth hon gyda rheolwr HER. · Gwrthodir mynediad at wybodaeth os ystyrir y gallai ei rhyddhau beryglu’r adnodd archaeolegol** · Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau am lawer o wybodaeth***.
*Nid yw cyfyngiadau trydydd parti’n berthnasol i greu adroddiadau cleientiaid na chyhoeddiadau gan ymholwyr. ** Byddwn yn gwrthod ceisiadau gan y rheiny rydym yn barnu eu bod yn anweddus neu’n debyg o gamddefnyddio gwybodaeth. Mae’r polisi hwn yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ac â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 1998 sy’n cymeradwyo amddiffyn gwybodaeth amgylcheddol sensitif. Bydd y rheiny sydd am herio ein penderfyniad yn gallu gwneud hynny trwy apeliad at Y Cadeirydd, Pwyllgor Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, dan ofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Y Trallwng, Powys, SY21 7DL. *** Gellir rhoi cyfyngiadau ar waith os ystyrir y gallai rhyddhau llawer o wybodaeth arwain at ddefnyddio cyfrannau sylweddol o’r cofnod heb reolaeth neu sefydlu cronfa ddata gystadleuol sydd heb ei rheoli.
Os hoffech ymholi'r Cofnodion Safleoedd a Henebion, galwch wneud hynny ar-lein. Wrth mynd ymlaen i'r Ffurflen ar-lein yr ydych yn cytuno eich bod wedi darllen y Canllawiau ar Gyfer Hawl i Weld a Chodi Tâl uchod.
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]