Deddf Drysor a Hynafiaethau CludadwyCynlluniau Cofnodi Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru
Amcanion y cynllun yw:
Er mwyn cyflawni hyn, bwriedir bod y cynllun yn cofnodi’r holl wrthrychau, ta waeth o ba ddeunydd y gwnaed hwy, a ganfyddir rywle yng Nghymru gan unrhyw aelod o’r cyhoedd – nid gwrthrychau metel a ddarganfyddir gan ddefnyddwyr datgelyddion metel yn unig.
Pwy sy’n gysylltiedig â’r cynllun? Cyngor Amgueddfeydd Cymru sy’n rheoli’r cynllun peilot Cymreig ac mae’n cael ei redeg yn genedlaethol gan Gydlynydd Darganfyddiadau a leolir yn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru â chefnogaeth ranbarthol y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gymreig, gyda rhwydwaith o amgueddfeydd a swyddfeydd cofnodi sy’n gweithredu fel canolfannau adrodd lleol. Rhyngddynt, bydd y cyrff hyn yn casglu, dadansoddi a dosbarthu gwybodaeth am yr holl ddarganfyddiadau y cânt wybod amdanynt am gyfnod o ddeunaw mis. Beth ddylwn ei wneud petawn yn darganfod rhywbeth?
Cydlynydd cenedlaethol: Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau, Adran Archaeoleg a Niwmismateg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP, Ffôn 01222/02920 573226 I ddechrau, byddem yn hoffi gwybod am bob peth rydych wedi ei ddarganfod – nid gwrthrychau metel na phethau ‘sy’n edrych fel petaent yn ddiddorol’ yn unig. Mae’n debygol y byddwn, maes o law, yn stopio cofnodi gwrthrychau modern; ond i ddechrau hoffem glywed am bob dim, er mwyn i ni fedru amcangyfrif cyfanswm yr holl wrthrychau a ddarganfyddir yng Nghymru. Byddem yn eich annog i adael i weithwyr y ganolfan adrodd benderfynu a yw gwrthrych yn bwysig, yn enwedig os nad ydych yn sicr beth ydyw. Er enghraifft, fe allai eich lwmp o fetel dinod fod yn ddarn o ingot Oes Efydd ac o gryn bwysigrwydd archaeolegol. Mae darganfyddiadau eraill fel fflintiau triniedig, crochenwaith a gwydr o bwysigrwydd archaeolegol hefyd ac felly dylid eu dangos i staff y ganolfan. Fe ddylech gofio hefyd, ers cyflwyno Deddf Drysor 1997 (gweler isod) eich bod yn torri’r gyfraith os nad ydych yn rhoi gwybod am y rhan fwyaf o wrthrychau o fetel gwerthfawr a ddarganfuoch (gan gynnwys nifer o fathau o ddarnau arian), felly os oes gennych unrhyw amheuaeth………… rhowch wybod amdano! Sut cofnodir fy narganfyddiad? Trosglwyddir yr holl wybodaeth a gesglir gan y ganolfan adrodd i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a fydd yn ei lwytho i gronfa ddata ganolog, a ddefnyddir gan gydlynwyr y cynllun. Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn copïo peth o’r wybodaeth hon i’r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd hefyd. Fel rheol, dim ond cydlynydd y cynllun (Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru), Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a chyrff statudol eraill fel Cadw: Welsh Historic Monuments a Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru fydd yn cael union fanylion lleoliad y darganfyddiad, a thra bydd pob un o’r rhain o bosibl yn dymuno defnyddio’r data o fewn eu sefydliad hwy eu hunain ni fyddant yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth amdanoch chi nac am eich darganfyddiad os nad ydych yn dymuno iddynt wneud hynny. Bwriedir rhyddhau gwybodaeth gryno am ddarganfyddiadau a mannau darganfod ar y Rhyngrwyd (gweler y ‘Cynllun Hynafiaethau Cludadwy’ ar ein tudalen Cysylltiadau), ond ar hyn o bryd, yr unig wybodaeth a roddir am y mannau darganfod fydd enw’r gymuned. Gellir rhoi cyfeiriadau grid pedwar ffigwr neu wybodaeth gyffredinol debyg i ymchwilwyr academaidd sy’n dymuno cael gwybodaeth fanylach. Maes o law mae’n bosibl y bydd gweithwyr amgueddfa neu’r Ymddiriedolaeth yn dymuno cyhoeddi gwybodaeth am y darganfyddiadau mwyaf pwysig a adroddwyd amdanynt o dan y cynllun, ond trafodir hyn yn llawn gyda’r darganfyddwyr/perchnogion yn gyntaf. Y nod yw sicrhau bod cymaint â phosibl o’r wybodaeth yn cael ei lledaenu mor eang â phosibl, tra’n diogelu safleoedd archaeolegol o niwed. Bydd eich gwybodaeth bersonol chi yn cael ei diogelu o dan Ddeddf Gwarchod Data (1984). Mae taflen wybodaeth ‘Cofnodi Ein Gorffennol’ (canllaw i flaengaredd y Llywodraeth i hyrwyddo cofnodi gwirfoddol o ddarganfyddiadau archaeolegol yn Lloegr a Chymru) a Hynafiaethau Cludadwy: Adroddiad Blynyddol 1997 –98 yn esbonio’r cynllun hwn yn fanylach. Gellir cael y ddau yma a gwybodaeth bellach am y cynllun oddi wrth Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau: Cymru, Adran Archaeoleg a Niwmismateg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP, Ffôn 01222/02920 573226 neu o Department for Culture, Media and Sports, 2-4 Cockspur Street, London, SW1 5DY. Y Ddeddf Drysor (1996) Mae’r canlynol yn grynodeb anniffiniol o’r Ddeddf Drysor ac nid oes iddo rym cyfreithiol – gellir cael gwybodaeth am Drysor a’r Ddeddf Drysor o Adran Archaeoleg a Niwmismateg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP neu o Department for Culture, Media and Sports, 2-4 Cockspur Street, London, SW1 5DY.
Diffinnir ‘Trysor’ o dan y Ddeddf fel:
Mae gwrthrych neu ddarn o arian yn rhan o’r un darganfyddiad â gwrthrych neu ddarn arian arall os caiff ei ganfod yn yr un lle, ei fod wedi ei adael gyda’r gwrthrych arall o’r blaen. Mae’n bosibl bod darganfyddiadau wedi eu gwasgaru ers iddynt gael eu claddu’n wreiddiol yn y ddaear. Fodd bynnag, nid yw darnau arian unigol a ganfyddir ar eu pennau eu hunain yn drysor. Fel rheol, dim ond y grwpiau canlynol o ddarnau arian caiff eu hystyried fel rhai o’r ‘un darganfyddiad’.
Nid yw’r canlynol yn Drysor:
Gwrthrychau o’r blaendraeth Os yw gwrthrych a ddarganfyddir ar y blaendraeth yn cael ei ddiffinio’n gyfreithiol yn ddiweddarach fel ‘drylliad’ yna nid yw’n cael ei gyfrif fel trysor. Serch hynny, gall gwrthrychau o’r blaendraeth gael eu diffinio fel trysor os nad ydynt yn cael eu diffinio fel ‘drylliad’ a’u bod yn gweddu i feini prawf y Ddeddf uchod. Sgôp y Ddeddf a’r Gorchymyn Mae’r Ddeddf a’r Gorchymyn yn gymwys i wrthrychau a ddarganfyddir unrhyw le yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys mewn neu ar dir, mewn adeiladau, mewn afonydd a llynnoedd ac ar y blaendraeth (hynny yw yr ardal rhwng penllanw cymedrig a threiol cymedrig ar draethau a glannau afonydd llanw), a bod y gwrthrych ddim yn dod o ddrylliad. Serch hynny, os gall y perchennog gwreiddiol neu ei etifeddion ddangos bod y gwrthrych yn eiddo iddynt, yna bydd eu hawliad hwy yn uwch na’r goron. Gwrthrychau cynhanesyddol Y Gorchymyn Trysor 2002 ynghyd â’r diffiniad o gydosodiadau metelau cyffredin cynhanesyddol. Grwpiau yw’r rhain (a ddiffinnir fel un o’r ddau olaf) o wrthrychau metel cyffredin, dim arian, o ddyddiad cynhanesyddol, h.y. hyd at, ac yn cynnwys, yr Oes Haearn, o’r un darganfyddiad. Y Gorchymyn Trysor 2002 hefyd ynghyd â’r diffiniad o wrthrychau trysor, dim arian, o ddyddiad cynhanesyddol, h.y. hyd at, ac yn cynnwys yr Oes Haearn, a bod unrhyw ddarn ohono yn fetel gwerthfawr, waeth beth yw’r ganran o fetel gwerthfawr yn ôl pwysau’r metel. Yn ymarferol ni ddisgwylir i wrthrych unigol cynhanesyddol o fetel cyffredin lle mae metel gwerthfawr yn elfen hybrin ynddo honni i fod yn drysor. Atgoffir darganfyddwyr eu bod o dan adran 8 o’r Ddeddf yn ofynnol i adrodd ar y gwrthrychau hynny y maent yn credu eu bod, neu â sail rhesymol dros gredu, eu bod yn drysor. Os nad ydych yn siwr, cynghorir darganfyddwyr i chwilio am gyngor arbenigol. Gwrthrychau a ddarganfyddir ar dir cysegredig Mae gwrthrychau a ddarganfyddir ar dir cysegredig (ar
wahân i drysor cuddiedig) yn dod o dan systemau rheoli cyfreithiol
Eglwys Lloegr. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, mwy na thebyg buasai’n ddiogelach i chi roi gwybod am eich darganfyddiad. Mae’n rhai i chi hysbysu crwner yr ardal am unrhyw Drysor a ddarganfuwyd yn ei ardal naill ai o fewn 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daethoch o hyd iddo neu o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod y gwnaethoch sylweddoli y gallai fod yn drysor (er enghraifft, o ganlyniad i’w ddynodi). Ni fyddwch yn torri’r gyfraith os na rowch wybod am ddarganfyddiad oherwydd nad oeddech yn sylweddoli i ddechrau ei fod yn drysor, ond mae’n bosibl eich bod yn torri’r gyfraith os na soniwch amdano wedi i chi sylweddoli. Mae’r goblygiadau i roi gwybod am ddarganfyddiadau yn berthnasol i bawb. Gall methu â rhoi gwybod am ddarganfyddiadau o’r fath, heb reswm digonol, olygu hyd at dri mis o garchar neu ddirwy (hyd at £5000 ar hyn o bryd), neu’r ddau. Medrwch hysbysu’r crwner am y darganfyddiad yn bersonol, trwy lythyr, ar y ffôn neu â ffacs. Bydd y crwner yn cydnabod ei fod wedi derbyn eich neges ac fel rheol bydd yn dweud wrthych am gymryd eich darganfyddiad i amgueddfa leol neu i sefydliad archaeolegol lleol (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed). Bydd y sefydliad sy’n ei dderbyn yn rhoi derbynneb i chi. Er y byddant angen gwybod ymhle y daethoch o hyd i’r gwrthrych a manylion eraill amdanoch chi, byddant yn cadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol os mai dyna yw eich dymuniad chi neu’r landlord. Hysbysir Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed cyn gynted â phosibl, er mwyn i archaeolegwyr archwilio safle’r darganfyddiad petai angen. Os penderfynir nad yw’r darganfyddiad yn Drysor, ac os nad oes unrhyw amgueddfa am ei gaffael, fe gaiff ei ddiarddel. Yna bydd y crwner yn hysbysu pawb a wnelo â’r mater, fel perchennog y tir lle canfuwyd y gwrthrych, o’i fwriad i ddychwelyd y gwrthrych i’r darganfyddwr. Os na fydd unrhyw wrthwynebiad i hyn bydd y darganfyddiad yn cael ei ddychwelyd. Mae’n bosibl y bydd amgueddfeydd am gaffael gwrthrychau a ddychwelwyd i’w darganfyddwyr, oherwydd gallant fod o ddiddordeb lleol neu genedlaethol, ac mae’n bosibl y byddant yn cysylltu â’r darganfyddwyr gyda’r bwriad hwn; mae hyn y tu allan i amodau’r Ddeddf. Am ragor o wybodaeth dylech gysylltu â: Gellir cael copïau Cymraeg a Saesneg o’r ddau am ddim o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP neu o Department for Culture, Media and Sports, 2-4 Cockspur Street, London, SW1 5DH.
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]