Cartref > Gwasanaethau Treftadaeth >

Ynglyn â’r Gwasanaethau Cynllunio       

Un o swyddogaethau pwysig Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yw darparu gwasanaeth rheoli datblygu unffurf i’r awdurdodau cynllunio lleol ac eraill sy’n ymwneud â datblygu a newid defnydd tir, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ar draws Cymru gyfan. Defnyddia Gwasanaeth Cynllunio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed y wybodaeth sydd yn y Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd Rhanbarthol, y wybodaeth a’r medrusrwydd arbenigol sydd ar gael o fewn yr Ymddiriedolaeth i archwilio a rhoi barn ar bob cais cynllunio a allai gael effaith ddrwg ar yr amgylchedd hanesyddol. Defnyddia awdurdodau cynllunio lleol gyngor Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i asesu effaith bosibl datblygu ar y dreftadaeth, gan felly sicrhau y difrod lleiaf posibl.

 

Ni chaiff y rhan fwyaf o ddatblygiadau effaith arwyddocaol ar y dreftadaeth, ond pan gânt gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ymateb i ymgynghoriad gan awdurdodau lleol mewn nifer o ffyrdd. Mewn nifer bychan o achosion gall yr ymateb hwn gynghorir y dylid gwrthod rhoi caniatâd cynllunio er mwyn diogelu archaeoleg neu adeiladau hanesyddol, ond yn fwy cyffredin, bydd yn gofyn i’r awdurdod cynllunio osod amodau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Gall yr amodau hyn ddweud na ellir adeiladu ar rannau o’r safle, neu fod cloddio archaeolegol yn cael ei gyflawni ar rannu ohono cyn dechrau ei ddatblygu, neu fod archaeolegydd yn bresennol ar orchwyl gwylio (i gofnodi unrhyw beth a ddatgelir) tra bo’r gwaith adeiladu’n mynd rhagddo.

Mewn rhai achosion mae’n bosibl y byddai’r awdurdod lleol yn ystyried bod datblygiad yn effeithio ar ardal â chryn botensial archaeolegol ond nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i benderfynu sut i ymdrin â’r cais cynllunio. Mewn achos o’r fath mae’n bosibl y byddant yn gofyn i’r ymgeisydd gynnal mantoliad archaeolegol cyn iddynt benderfynu ar y cais, er mwyn casglu mwy o dystiolaeth am effeithiau tebygol ei ddatblygiad. Gallai’r mantoliad hwn gynnwys ymchwilio dogfennau, arolwg, a/neu gloddiad prawf cyfyngedig , a bydd ei ganlyniadau yn galluogi’r cynllunwyr i wneud penderfyniad cytbwys yngl~n â dyfodol y safle. Fel rheol, Cytundebwyr Archaeolegol sy’n cyflawni gwaith fel mantoli, neu gloddio sy’n ofynnol gan amodau cynllunio, ac er gwybodaeth, ceir isod Restr o Gytundebwyr Archaeolegol yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig sy’n dymuno ceisio am waith yng Nghymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am archaeoleg yn y broses gynllunio yn nogfen bolisi y Swyddfa Gymreig – Canllawiau Cynllunio (Cymru) a Chylchlythyrau 60/96 a 61/96 y Swyddfa Gymreig. Cyfeirir at y dogfennau hyn a gellir gweld trafodaeth gyfyngedig am eu cynnwys isod o dan Cod Ymarfer Curaduron yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig.

I ganfod mwy am archaeoleg a chynllunio, neu er mwyn edrych ar yr effeithiau allai eich datblygiad gael ar yr amgylchedd hanesyddol, cysylltwch â Gwasanaeth Cynllunio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i drafod y materion hyn cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio. Yn amlach na pheidio trafodaethau cynnar yw’r ffordd orau o osgoi gwrthdaro rhwng datblygiadau ac anghenion cadwraeth.

Cod Ymarfer y Curaduron - Cod Ymarfer Curaduron yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig.

Rhestr o Gytundebwyr Archaeolegol - Rhestr o Gytundebwyr Archaeolegol yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig sy’n dymuno ceisio am waith yng Nghymru.

Canllaw Arfer Da (Ffeil Adobe Acrobat 1.1Mb) - Canllaw arfer da ar ddefnyddio Cofrestr Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru yng ngweithrediadau cynllunio a datblygu.

Ffurflennu Asesu Arfer Da (Ffeil Adobe Acrobat 57Kb)

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor cysylltwch â Swyddog Rheoli Datblygu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed os gwelwch yn dda

 

1999 - 2000

Yn ystod y flwyddyn Ebrill 1999 hyd Mawrth 2000 mae'r Adran Rheoli Treftadaeth wedi bod yn darparu gwybodaeth a ddaeth o'r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd Rhanbarthol i nifer cynyddol o amrywiol ymholiadau - ymchwilwyr, cyrff archaeolegol proffesiynol a grwpiau o'r gymuned leol. Darparwyd gwybodaeth i Cadw ar gyfer amrywiol ddibenion gan gynnwys rhoi cymorth gydag argymhellion i restru ac ar gyfer ceisiadau Atodlen Caniatâd Henebion. Bu hefyd ymgynghori ynglþn â'r Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru sydd yn dal i roi arweiniad i holl broses Reoli Treftadaeth.

Paratowyd papur manwl i gefnogi polisïau archaeoleg yng Nghynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar y cyd, a chafodd ei dderbyn â breichiau agored. Cyflwynwyd sylwadau manwl ar nifer o bapurau strategol cenedlaethol, lleol a rhanbarthol megis papurau polisi drafft y DETR ar 'borthladdoedd' a 'hawliau mynediad' a phapur ymgynghorol drafft y Strategaeth Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion.

Darperir gwybodaeth a chyngor i awdurdodau cynllunio lleol, sefydliadau ac unigolion eraill hefyd ynghylch cynllunio a cheisiadau adeiladau rhestredig ac unrhyw ddatblygu sy'n dilyn yn eu sgïl. Roedd y gofyn am waith yn parhau mewn perthynas â'r tri chynllun mawr dan nawdd CDL yn sir Gaerfyrddin; Aberglasney, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Plas Middleton) a Pharc Arfordir y Mileniwm, Llanelli. Yn Aberglasney, Llangathen, gosodwyd amodau archaeolegol ar ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig mewn perthynas â datblygu'r tþ a'r ardd ac o ganlyniad cynhaliwyd ymchwiliad archaeolegol a fu'n help i ddadansoddi hanes yr adeiladu a'r defnydd a wnaethpwyd o'r ardd gloestr a'r tþ. Bu'r ddealltwriaeth ddyfnach a ddaeth yn sgîl hyn yn gymorth gyda'r cynlluniau ar gyfer adfer yr ardd ac y mae wedi ysgogi trafodaeth academaidd fywiog.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae llawer o wybodaeth a chyngor ar reoli treftadaeth o fewn Ceredigion yn cael ei ddarparu y tu allan i'r fframwaith cynllunio lleol mewn perthynas â choedwigaeth, trin safleoedd mwyngloddio metel, materion arfordirol a gweithrediadau amaethyddol. Mae nifer o geisiadau cynllunio wedi cynnwys gwaith ar adeiladau ôl-oesoedd canol megis Plas Trawscoed a Phlas Nanteos yn ogystal ag adeiladau llai mawreddog yng Ngelli Gron, Y Sgwâr, Tregaron a Llwyndafydd, Llandysul. Yr oedd ailddatblygu arfaethedig ar safle'r swyddfa post/siop yn Llwyndafydd yn cynnwys dymchwel bwthyn wedi'i adeiladu â chlom. Cytunwyd i osod amod ynglwm wrth y caniatâd cynllunio yn gofyn am gadw cofnod o'r adeilad cyn ac yn ystod y dymchweliad.

Adlewyrchir pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i sir Benfro, yn enwedig pan fo sectorau eraill yr economi rhanbarthol mewn dirwasgiad, yn y nifer mawr o geisiadau cynllunio a dderbynnir ar gyfer addasu ac ymestyn adeiladau. Golyga hyn fod angen cymryd i ystyriaeth yr archeoleg sydd ar yr wyneb yn ogystal â'r dyddodion dan y ddaear ar safleoedd fferm y credir eu bod wedi datblygu o bentrefan ganoloesol. Mae gwybodaeth ar gael fod dyddodion archeolegol mewn rhai safleodd, megis Priory Farm, Monkton. Ariannodd Adran Priffyrdd y sir brîff gwylio a chofnodi mewn perthynas â gwaith atgyweirio ffordd yn Eglwyswrw a daethpwyd o hyn i gistfaen gladdedigaethau ganoloesol gynnar. Cynhaliwyd cyfarfodydd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i drafod y gwaith ar lwybrau yr arfordir, yn enwedig y modd y dylid trin gweddillion diwydiannol gan gynnwys hen weithfeydd mwyn yn ardal Saundersfoot a Glofa Trefrane Cliff.

 

Gwasanaethau Cynllunio 2000 - 2001

Cynhaliwyd cyfarfodydd yn ddiweddar â'r holl Awdurdodau Cynllunio Lleol a chafwyd trafodaethau buddiol gyda'r prif swyddogion cynllunio. Prif bwnc y trafod oedd yr angen i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i ariannu'r broses o gynnig cyngor. O ganlyniad, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cytuno i wneud cyfraniadau o bwys drwy gyfrwng Cytundebau Lefel Gwasanaeth.

Yn ystod 2000 - 2001 yr oedd gwaith achosion cynllunio archaeolegol yn cynnwys fferm wynt arfaethedig yng Nghefn Croes, Ceredigion, sef y datblygiad arfaethedig mawr cyntaf yn 'Uwchdir Ceredigion' sydd wedi'i gofrestru yn Nhirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Yn Sir Gaerfyrddin, canlyniad yr ymwneud â'r broses gynllunio ar gyfer datblygu Pwll Glo a Gwaith Briciau'r Emlyn ym Mhen-y-groes oedd i Cadw adnabod odyn 'Hoffman'. Cadarnheir bellach fod hyn o bwys cenedlaethol. Er hynny, bydd angen cryn reoli ar yr adeiladwaith i sicrhau y bydd yn goroesi yn y tymor hir. Wrth gloddio yn Nhy'r Eirin Gwlanog yn yr ardd furiog ym Mhlas Middleton yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, cafwyd hyd i sawl cyfnod o adeiladu ac ailfodelu ar yr adeiladwaith yn ogystal â defnyddio gwresogi ag awyr poeth - proses y daliwyd i'w defnyddio yn ystod yr 20fed ganrif. Fe ymchwiliwyd hefyd i safleoedd yn Hwlffordd, gan gynnwys datblygiad yn Perrots Road, lle disgwylid cael tystiolaeth o bydewau haint.

 

 

 

[click for navigation menu if not present]