Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Côd Ymarfer Curaduron
Mae Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96 _ Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol
: Archaeoleg _ yn rhoi cyngor ar drin materion archaeolegol oddi mewn
i'r sustem gynllunio. Mae'n ychwanegol at y cyfarwyddyd ym mharagraffau
134-140 yn y Canllawiau Cynllunio (Cymru) : Polisi Cynllunio 1996. Mae'r
cylchlythyr yn cydnabod swyddogaeth bwysig Ymddiriedolaethau Archaeolegol
Cymru, fel darparwyr cyngor i awdurdodau cynllunio lleol.
Sefydlwyd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yng nghanol saithdegau'r
ganrif hon. Cwmnïau cyfyngedig annibynnol gyda statws elusennol ydynt,
sy'n cynnal gweithlu archaeolegol proffesiynol ac yn darparu gwasanaeth
archaeolegol ar sail eang yn eu hardaloedd. Mae eu gwaith yn cynnwys cynnal
Cofnodion rhanbarthol Safleoedd a Henebion, darparu cyngor archaeolegol
a gweithredu cynlluniau i leddfu effeithiau andwyol datblygu ar weddillion
archaeolegol.
Felly, gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol gynnig cyngor ar faterion archaeolegol
fel rhan o'r broses gynllunio (curadu) a hefyd gynnig yn gystadleuol am
gontractau sy'n deillio o'r cyngor (cytundebu). Mae'r côd ymarfer hwn,
a baratowyd ar gais Cadw : Welsh Historic Monuments, yn dynodi'r dulliau
gweithredu a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaethau i sicrhau fod yna wahaniad
clir rhwng eu swyddogaethau ymgynghorol (curadurol) a'u swyddogaethau
cytundebol. Mae'n cyflenwi yn hytrach na disodli codau ymarfer ac ymddygiad
a safonau proffesiynol eraill (gweler yr Atodiad).
Mae staff curadurol pob un o Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn
aelodau cydnabyddedig o'r Association of Local Government Archaeological
Officers. Darperir cyllid ar gyfer gwaith curadurol yr Ymddiriedolaethau
gan Cadw: Welsh Historic Monuments, Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru
a'r awdurdodau cynllunio lleol .
Côd Ymarfer
1. Gweithredir y swyddogaethau curadurol a chytundebol yn annibynnol
gan adrannau sydd wedi eu staffio ar wahân o fewn i bob un o'r sefydliadau.
2. Bydd staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn darparu cyngor proffesiynol
a diduedd ar oblygiadau archaeolegol y datblygiadau arfaethedig.
3. Fel arfer bydd staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn darparu cyfarwyddyd
ar gyfer asesiadau archaeolegol ac arfarniadau ac ymchwiliadau maes,
yn ôl y galw.
4. Bydd staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am gymeradwyo'r
gofynion manwl fydd wedi eu llunio i gwrdd â'r cyfarwyddiadau archaeolegol.
5. Bydd staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn cynghori'r rhai sy'n
gwahodd tendrau am waith archaeolegol sy'n deillio o brîff archaeolegol,
ar eu rhyddid wrth ddewis contractwr archaeolegol.
6. Mae staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn cydnabod y gall y rhai
sy'n bwriadu comisiynu'r fath waith, ddeisyfu cyflogi ymgynghorydd archaeolegol
annibynnol i asesu'r disgrifiad o'r gwaith a baratowyd yn unol â brîff
archaeolegol, i arolygu datblygiad y gwaith, neu i gynghori ar yr argymhellion
am weithredu pellach.
7. Mae gan staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yr awdurdod i sicrhau
fod brîff archaeolegol yn cael ei chyflawni bob cam o'r ffordd, beth
bynnag fo'r trefniadau cytundebol.
8. Os yw'n angenrheidiol, bydd staff curadurol pob Ymddiriedolaeth
yn gwrthod, neu'n sicrhau newidiadau i unrhyw ddarn o'r gwaith cytundebol,
nad yw yn eu tyb hwy yn cwrdd â gofynion y brîff archaeolegol.
9. Staff curadurol pob Ymddiriedolaeth yn unig fydd yn gyfrifol am
benderfynu ar argymhellion am weithredu pellach fydd yn codi o asesiad
archaeolegol neu arfarniad maes a wnaed gan gontractwr archaeolegol.
Atodiad
Archaeological Investigations Code of Practice for Mineral Operators
(Confederation of British Industry).
Archaeologists and Developers Code of Practice (Confederation of British
Industry).
Association of Local Government Archaeological Officers : Constitution
(ALGAO, Medi 1995).
Canllawiau Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio (Y Swyddfa Gymreig, Mai
1996).
Code of Conduct : The Institute of Field Archaeologists (IFA, 1986).
Code of Approved Practice for the Regulation of Contractual Arrangements
in Field Archaeology (IFA, 1990).
Cofrestri Safleoedd a Henebion Rhanbarthol : Canllawiau ar gyfer Hawl
i Weld a Chodi Tâl (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, 26/5/93).
Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol : Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd
Cadwraeth (Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96).
Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol : Archaeoleg (Cylchlythyr y Swyddfa
Gymreig 60/96).
Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol (1979).
Drafft Historic Buildings and Conservation (ALGAO).
Fframwaith Strategol ar gyfer Ariannu Gwaith Archaeolegol yng Nghymru
(Cadw, 1994).
Rhestr o Gontractwyr sy'n dymuno tendro am waith
yng Nghymru (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, yn cael ei ddiwygio
yn flynyddol).
Standard and Guidance for Archaeological Desk-Based Assessments (IFA,
Awst 1994).
Standard and Guidance for the Archaeological Investigation and Recording
of Standing Buildings or Structures (IFA, 1996).
Standard and Guidance for Archaeological Watching Briefs (IFA, Awst 1994).
Y Ddeddf Trysor 1996: Côd Ymarfer (Cymru a Lloegr), (Yr Adran Diwylliant,
Cyfryngau a Chwaraeon, 1997).
|