Seminar Archwilio Adnoddau ac Asesu Ymchwil Rhanbarthol
2002 
Mae’r prosiect hwn yn dilyn ymlaen o gynhadledd a gynhaliwyd yn
Aberystwyth ym mis Awst 2001 a wnaeth ddynodi’r angen am baratoi
Fframwaith Ymchwil ar gyfer Archaeoleg yng Nghymru. Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth
sawl gwaith i’r gynhadledd hon ac i’r digwyddiadau dilynol
a gyhoeddwyd (gweler Adran D). Sefydlwyd Grwp Llywio yn dilyn y gynhadledd
er mwyn symud y syniad yn ei flaen. Dynodwyd llunio Archwiliad o Adnoddau
fel cam cyntaf y Fframwaith Ymchwil a chytunwyd y dylai’r pedwar
Ymddiriedolaeth Archaeoleg yng Nghymru ymgymryd â’r gwaith
hwn.
Cynhyrchwyd yr archwiliad ar gyfer de-orllewin Cymru yn ystod chwarter
cyntaf 2002-2003 gan gynnwys nifer o gydrannau:
1 – Archwilio cofnodion – gyda thablau yn mesur nifer y cofnodion
a gedwir gan y Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd Rhanbarthol a’u rhestru
yn ôl y math o safle a syniad o ddosbarthiad. Roedd yna fapiau dosbarthiad
gyda’r tablau hyn.
2 - Rhestr o safleoedd allweddol sydd wedi’u cloddio, yn ôl
cyfnod.
3 - Tabl o’r holl ddyddiadau radio-carbon ar gyfer y rhanbarth.
4 - Rhestr o’r prosiectau ymchwil cyfredol sydd ar waith.
5 - Llyfryddiaeth lawn.
Bwriad yr archwiliad yn rhannol oedd i hysbysu Asesiad Ymchwil Rhanbarthol
sy’n ffurfio’r ail gam ym mhroses y Fframwaith Ymchwil. Sefydlwyd
gweithgorau ar gyfer paratoi asesiadau sy’n seiliedig ar gronoleg
ar gyfer y rhanbarth a chyflwynwyd y canlyniadau mewn seminar a gynhaliwyd
yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ym mis Hydref 2002. Cadeiriwyd dau
o’r gweithgorau gan aelodau o staff yr Ymddiriedolaeth (Oes Neolithig/Efydd
Cynnar ac Oes Efydd Hwyr/Haearn) a chynhaliwyd cyfarfodydd llwyddiannus
gyda phresenoldeb da gan y gweithgorau cyn seminar Caerfyrddin. Mynychodd
mwy na 50 o bobl y seminar gan arwain at drafodaeth ddiddorol a bywiog.
Hefyd, roedd gan yr Ymddiriedolaeth gynrychiolaeth ar weithgorau cyfnod
a thematig eraill ac ar y Grwp Llywio ar gyfer yr ymarfer Fframwaith Ymchwil.
Murphy K and Hall J 2002 Archaeological Resource Audit Draft, Adroddiad
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2002/51
Cyswllt i’r prosiect: Ken Murphy
|