Twmpath Llosg Pwllauduon 2004 
Ymgymerwyd â gwaith cofnodi archaeolegol o safle twmpath llosg
ar Fferm Pwllauduon yng Ngheredigion, (SN 65556295) ym mis Chwefror 2004
â chymorth cronfa wrth gefn Cadw. Datgelwyd y twmpath llosg wrth
lanhau ffosydd amaethyddol, a sylwyd arno yn ystod ymweliad gan yr Ymddiriedolaeth
â fferm Tir Gofal ym mis Hydref 2003. Cynigiwyd y dylid ymgymryd
â gwaith cofnodi archaeolegol er mwyn sicrhau bod cofnod priodol
yn cael ei greu o’r twmpath llosg.
Cafodd y rhan a wynebai’r gogledd ei lanhau a chafodd trychlun
ei gynhyrchu ar raddfa o 1:20. Cafodd samplau monolithig eu casglu at
ddibenion gwaith dadansoddi amgylcheddol (a wnaed gan Astrid Caseldine,
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan). Cafodd dyddiadau radiocarbon
eu pennu ar gyfer dau sampl o siarcol o’r trawslun a ddatgelwyd
sef Cal CC 1380-830 a Cal CC 1490-1310. Cynhaliwyd arolwg cyflym o’r
twmpath llosg a thwmpath llosg tybiedig arall gerllaw yn ogystal.

Y ffos draenio amaethyddol yn torri drwy’r twmpath llosg ym
Mhwllauduon
Cyswllt y Prosiect : Polly Groom
|