Clostiroedd wedi'u hamddiffyn o'r Cyfnod Cynhanesyddol
Cyflwyniad
Nodweddion o'r Oes Haearn yn Ne Orllewin Cymru yw clostiroedd
wedi'u hamddiffyn. Amrywia'r aneddiadau hyn o gaerau mawr wedi'u hamgylchynu
gan argloddiau a ffosydd mawr i glostiroedd o lai na 0.3 hectar a amddiffynwyd
yn rhannol. Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd astudiaeth
o Gymru gyfan yn 2003-04 a gwelwyd bod 613 o enghreifftiau o glostiroedd
wedi'u hamddiffyn yn Ne Orllewin Cymru. Mae 235 o'r rhain yn Henebion
Cofrestredig. Mae pum cant a deuddeg ohonynt yn wrthgloddiau sy'n parhau
i sefyll, ceir olion cnydau ar gyfer 68 ohonynt ac mae 30 wedi'u cofnodi
drwy enwau llefydd neu ffynonellau dogfennol yn unig ac nid yw tri wedi'u
pennu. Ni wyddys beth yw cyflwr presennol llawer o'r safleoedd nad ydynt
yn rhai cofrestredig gan nad oes archaeolegydd wedi archwilio y rhan fwyaf
ohonynt ers dros 30 o flynyddoedd. Nid yw archaeolegwyr ond wedi ymweld
â nifer fach o'r safleoedd a ddarganfuwyd drwy luniau o'r awyr. O ganlyniad
mae'r prosiect hwn sy'n cynnwys Cymru gyfan yn gyfle i archwilio, nodweddu
ac asesu'r dosbarth pwysig hwn o henebion o'r cyfnod cynhanesyddol.
Ebrill 2004 - Mawrth 2005
Cyflawnwyd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2004-05
mewn swyddfa, gan gynnwys Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Dynodwyd
1079 o amgaeadau amddiffynnol cynhanesyddol pendant a phosib yn y tair
sir. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys 164 o safleoedd a adnabyddir
oherwydd enwau lleoedd ond does yna ddim presenoldeb ffisegol. Mae’r
915 o safleoedd sy’n weddill yn cynnwys bryngaerau o waith pridd
ac amgaeadau amddiffynnol, ac amgaeadau sydd â nodau cnydau, mae
215 o’r safleoedd hyn yn Gofebion Hynafol Rhestredig.
Crëwyd 201 o gofnodion o safleoedd newydd yn ystod
yr astudiaeth. Daeth y wybodaeth ar gyfer y cofnodion newydd hyn o ddwy
brif ffynhonnell: system GIS sydd bellach wedi dod i ben a luniwyd gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar ran RCAHMW yn 1996-97, a’r cofnodion a grëwyd
gan RCAHMW dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn bennaf o ganlyniad
i ffotograffiaeth o’r awyr gwaith a wnaed gan Toby Driver. Mae gwybodaeth
a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth wedi’i ychwanegu i’r Cofnod
o Safleoedd a Chofebion Rhanbarthol.
Yn y blynyddoedd sydd i ddod ymgymerir ag ymweliadau
safle. Y nodau cyffredinol yw: defnyddio diffiniadau, dosbarthu, mesur
a dosbarthiad amgaeadau amddiffynnol; asesu arwyddocâd archaeolegol
y safleoedd hyn; asesu pa mor fregus yw’r safleoedd hyn ac arolwg
o feini prawf rhestru/strategaethau rheoli; gwella HER/END.

Map yn dangos lleoliad yr amgaeadau amddiffynnol/bryngaerau
yn ne orllewin Cymru.
Adroddiad
Clostiroedd wedi'u hamddiffyn o'r Cyfnod Cynhanesyddol yn llawn mewn ffurf
PDF yn Saesneg - 1.6Mb (yn agored mewn ffenestr newydd)
2005-2006 - Arolwg o Glostiroedd wedi'u hamddiffyn yng Ngheredigion

Aelodau o’r gweithgor Prosiect Amgaeadau Amddiffynnol
ar ymweliad maes â bryngaer yng Nghwm Ystwyth, Ceredigion.
Mae yna 227 o gaeadleoedd amddiffynnol a safleoedd perthynol
yng Ngheredigion a gellir eu rhannu i mewn i’r mathau canlynol o
safleoedd: Bryngaer 35, Caer Bentir 30, Caer Bentir bosibl 1, Caead Amddiffynnol
137, Caead Amddiffynnol bosib 20, Caead 4. Mae 49 o’r rhain yn Gofebion
Hynafol Rhestredig. Pan oedd yr arolwg yn cael ei wneud gwelwyd bod y
rhan fwyaf o’r cofebau gwrthglawdd mawr, megis bryngaerau a chaerau
pentir mewn cyflwr da a sefydlog. Serch hynny, mae rhai o’r safleoedd
gwrthglawdd llai o faint wedi dirywio dros y 30 - 40 mlynedd diwethaf.
Safleoedd ag ôl cnydau yw’r rhan fwyaf o’r caeadau amddiffynnol
llai o faint – mae prosiect ar y gweill ar hyn o bryd i asesu’r
safleoedd hyn.
Er mwyn iddynt fod yn haws i’w defnyddio mae’r
rhestrau o safleoedd wedi’u trefnu yn ôl sgwariau grid 10cilomedr
yr Arolwg Ordnans. Mae pob rhestr yn cynnwys un neu fwy o fapiau 1:50,000
yn dangos lleoliad cyffredinol pob safle ac yn dilyn hynny cofnod unigol
ar gyfer pob safle. Mae pob cofnod yn cynnwys: allbrint o’r Cofnod
Amgylchedd Hanesyddol, gan gynnwys disgrifiad o’r safle; map 1:500;
a phan fydd ar gael ffotograff o’r ddaear ac o’r awyr.
Mae nifer o’r mapiau 1;500 yn dangos manylion o’r safle wedi’u
nodi gan yr ôl cnydau a welir ar y ffotograffau o’r awyr.
Cedwir y rhain gan RCAHMW Hawlfraint y Goron ©.
Cliciwch
yma i is-lwytho adroddiad yr arolwg mewn ffurf Adobe Acrobat (yn Saesneg).
Yn agored mewn ffenestr newydd - maint y ffeil 620kb.
Mae'r rhestrau o safleodd mewn ffurf Adobe Acrobat (PDF).
Gallwch is-lwytho rhestr drwy glicio yn y sgwar addas. Fe fydd yn agored
mewn ffenestr newydd. Mae'r adroddiadau yn enfawr - mae eu maint yn rhedeg
o 1.4Mb i 13Mb felly cymerir amser i'w is-lwytho. Gallwch weld maint bob
ffeil drwy adael eich pwyntydd dros y sgwar addas.
2006 - 2007– Arolwg o Amgaeadau Amddiffynedig
yn Sir Benfro
Yn 2006-07, aeth y prosiect yn ei flaen gydag ymweliadau
â phob safle heb raglen ac 1 o bob 10 safle â rhaglen yn Sir
Benfro. Mae 367 cae amddiffynnol a safleoedd cysylltiedig yn Sir Benfro,
ac fe’u dosrannir yn ôl y mathau canlynol o fathau o safle:
Bryngaer 9, Bryngaer posibl 6, Caer Benrhyn 96, Caer Benrhyn bosibl 5,
Cae Amddiffynnol 211, Cae Amddiffynnol posibl 40. O blith y rhain, mae
127 yn Henebion a Raglennwyd. Yn ystod yr arolwg, darganfuwyd bod yr henebion
pridd mwy, fel y bryngeyrydd a’r caerau penrhyn mewn cyflwr da a
sefydlog. Fodd bynnag, mae rhai o’r safleoedd pridd llai wedi dirywio
dros y 30 - 40 mlynedd diwethaf. Argymhellodd yr adroddiad y dylid rhaglenni
51 cae amddiffynnol ac y dylid adolygu tiriogaeth y tri safle a raglennwyd.
Gwnaed argymhelliad ar gyfer arolwg a gwaith cofnodi arall ar gyfer llawer
o safleoedd eraill.

Y gaer bentir fechan yn Ninas Fach, ger Niwgwl.
Er mwyn iddynt fod yn haws i’w defnyddio mae’r rhestrau o
safleoedd wedi’u trefnu yn ôl sgwariau grid 10cilomedr yr
Arolwg Ordnans. Mae pob rhestr yn cynnwys un neu fwy o fapiau 1:50,000
yn dangos lleoliad cyffredinol pob safle ac yn dilyn hynny cofnod unigol
ar gyfer pob safle. Mae pob cofnod yn cynnwys: allbrint o’r Cofnod
Amgylchedd Hanesyddol, gan gynnwys disgrifiad o’r safle; map 1:500;
a phan fydd ar gael ffotograff o’r ddaear ac o’r awyr.
Mae nifer o’r mapiau 1;500 yn dangos manylion o’r safle wedi’u
nodi gan yr ôl cnydau a welir ar y ffotograffau o’r awyr.
Cedwir y rhain gan RCAHMW Hawlfraint y Goron ©.
Cliciwch
yma i is-lwytho adroddiad yr arolwg mewn ffurf Adobe Acrobat (yn Saesneg).
Yn agored mewn ffenestr newydd - maint y ffeil 1.1Mb.
Mae'r rhestrau o safleodd mewn ffurf Adobe Acrobat (PDF).
Gallwch is-lwytho rhestr drwy glicio yn y sgwar addas. Fe fydd yn agored
mewn ffenestr newydd. Mae'r adroddiadau yn enfawr - mae eu maint yn rhedeg
o 2.3Mb i 23Mb felly cymerir amser i'w is-lwytho. Gallwch weld maint bob
ffeil drwy adael eich pwyntydd dros y sgwar addas.
2007 - 2008 Arolwg o Gaeau Amddiffynnol yn Sir
Gaerfyrddin
A hithau’n flwyddyn olaf yr arolwg eleni, caiff
caeau amddiffynnol eu harchwilio, gydag ymweliadau maes ar yr un sylfaen
â blynyddoedd blaenorol. Mae gwaith sydd wedi’i wneud ar ddesg
yn awgrymu bod 219 safle heb eu rhaglenni a 38 safle wedi’u rhaglenni
yn Sir Gaerfyrddin. Casglwyd ffeiliau ar gyfer pob safle. Yn eu plith
mae copïau o luniau awyr, lle bo rhai ar gael. Mae’r RCAHMW
wedi cytuno i roi rhai lluniau - mae rhai wedi’u hanfon a’u
cynnwys yn ffeiliau’r safleoedd. Dechreuodd gwaith maes ym mis Gorffennaf,
ond daeth i ben yn sydyn oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd ar ymweliadau
â ffermydd yn sgil haint y traed a’r genau yn Surrey. Ailgydiodd
y gwaith maes ar ddechrau mis Medi yn dilyn codi’r gwaharddiadau,
ond fe’i hataliwyd yn sydyn yn sgil achos arall o glefyd y traed
a’r genau. Hyd yn hyn rydym wedi ymweld ag oddeutu 90 safle.

Eglwys Llangan
Cyswllt y Prosiect: Ken
Murphy
|