Cyn safle Golchi Glo Maesteg, Maesteg 2003
Mae Cyngor Bwrdeistref Penybont ar hyn o bryd yn ymgymryd â chynllun mawr i adennill tir ar hen safle Golchi Glo Maesteg, er mwyn cael tir ar gyfer ysgol a thai newydd. Mae gan y safle hanes hir o ddatblygiad diwydiannol, gyda’r safle yn cyrraedd ei uchafbwynt o ran gweithgarwch economaidd ar ddiwedd y 19eg ganrif, pan oedd nifer o weithfeydd glo bychain a ffowndri haearn mawr yma (Gwaith Haearn Maesteg). Oherwydd yr olion diwydiannol yn yr ardal, comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gan Edmund Nuttall Cyf (prif gontractiwr y safle) i gyflawni rhaglen o archwiliadau archaeolegol. Cychwynnodd hyn trwy gynhyrchu map digidol o’r safle, a oedd yn cynnwys mapiau hanesyddol a hen gynlluniau’r safle, er mwyn gweld ble oedd y gwahanol adeiladau diwydiannol wedi’u lleoli ar y safle. Yna defnyddiwyd y map i dargedu rhannau o’r safle ar gyfer cynnal brîff gwylio. O ganlyniad i hyn canfuwyd olion helaeth llawer o adeiladau diwydiannol o dan y wyneb, gan gynnwys rhannau o Weithfeydd Haearn Maesteg a nifer fawr o ffwrnesi golosg o ganol y 19eg ganrif. Yn aml iawn mae’r adeiladau hyn wedi’u claddu o dan sawl metr o wastraff golosg ar y safle sy’n ei gwneud yn anodd i wneud gwaith cofnodi archaeolegol. Yn y llun hwn dangosir rhan o’r gwastraff glo sydd wedi casglu
yno yn cael ei symud o hen safle golchi Glo Maesteg, gan ddatgelu ceuffos
fowlt o gerrig (i’r chwith o’r lori) a’r fynedfa i’r
siafft ar y dde sydd wedi’i lanw’n rhannol. Mae’r darlun
hwn yn rhoi rhyw syniad o gymaint o ddeunydd gwastraff gafodd ei gynhyrchu
a’i adael ar y safle, gan greu tirwedd artiffisial uwchben tref
Maesteg (yn y pellter). Cyswllt prosiect: Nigel
Page
|