MAENCLOCHOGYn ystod ail hanner mis Medi, bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn cloddio am bythefnos gan weithio gyda chymuned Maenclochog gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth well o hanes y pentref, ac yn benodol, ymchwilio i safle’r castell y credir ei fod yn gorwedd o dan faes parcio’r pentref. Gwnaed y gwaith cloddio gyda chymorth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a chyda chyllid o briosect Traws-wladol Ewropeaidd a gafwyd gan PLANED, (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu). Agorwyd dwy ffos. Cafwyd hyd i fur Pwll Maenordy, gweddillion mur y castell, a chlawdd a ffos amddiffynnol. Rhoddodd sampl radiocarbon islaw’r clawdd amddiffynnol ddyddiad rhwng 880 OC a 1020 OC, gan nodi o bosibl bod anheddiad gydag amddiffynfeydd ym Maenclochog cyn codi’r castell cerrig yn dilyn concro Sir Benfro gan yr Eingl-Normaniaid yn 1093 OC. Oddi mewn i ardal y castell, cafodd rhan o dy crwn ei
ddatguddio. Y syndod oedd bod crochenwaith o’r 12fed a’r 13eg
ganrif, gyda dyddiad radiocarbon rhwng 980 OC a 1160 OC, a gweddillion
planhigion o aelwyd ganolog yn awgrymu bod pobl mwy na thebyg yn byw yn
y ty crwn nes i Sir Benfro gael ei choncro gan yr Eingl-Normaniaid.
Adroddiad Maenclochog mewn ffurf PDF. (Yn agored mewn ffenestr newydd. 0.58 Mb o faint.) Atodiadau Adroddiad Maenclochog mewn ffurf PDF. (Yn agored mewn ffenestr newydd. Gellir gymeryd tipyn o amser i is-lwytho gan fod y ffeil yn 3.9MB o faint.) |