Asesiad o gerrig o’r Oesoedd Canol Cynnar sydd wedi’u
cerflunio – Sir Benfro 
Prosiect peilot yw hwn i ddynodi cyflwr y cerrig sydd
ag arysgrifen arnynt o’r oesoedd canol cynnar a’r cerflun
o garreg yn Sir Benfro, eu lleoliad, perchnogaeth a dull o gadw a chyflwyno
ac i ddynodi unrhyw fygythiadau. Bydd yn hwyluso gwaith o baratoi argymhellion
rheoli costau yn y dyfodol ac yn dilyn hynny fe’i gyflwynir i’r
Pwyllgor Cenedlaethol ar gyfer Cofnodi a Diogelu Cerrig o’r Oesoedd
Canol Cynnar sydd ag Arysgrifen a Cherfluniau o Garreg. O ganlyniad i’r
asesiad cychwynnol o gerrig canoloesol cynnar cafwyd rhestr o 40 o gerrig
sydd ‘mewn perygl’. Dynodwyd y grwpiau o gerrig yn eglwys
y plwyf yn Penally ac eglwys y plwyf yn St Ishmael fel grwpiau targed.
Ebrill – Medi 2005
Mae’r cynigion o ran y prosiect ar gyfer y grwpiau o gerrig Canoloesol
cynnar yn eglwys y plwyf yn Penally ac eglwys y plwyf yn St Ishmael wedi
bod yn mynd yn eu blaenau yn ystod Gwanwyn a Haf 2005. Yn St Ishmaels,
efallai bydd yna gyfle i gynnwys y cynnig mewn cais mawr i wneud gwaith
atgyfnerthu yn yr eglwys, fydd yn mynd yn ei flaen unwaith fydd y periglor
wedi’i osod yn ei le ym mis Medi 2005. Ym Mhenally, mae’r
cynnig wedi’i drafod gyda’r ficer a wardeniaid yr eglwys fydd
yn ei gyflwyno i Gyngor Sir Penfro.

Y Cerrig Canoloesol Cynnar yn Eglwys Penally
Cyswllt y Prosiect : Ken Murphy
|