Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar yn Sir Benfro 2005-2006Daeth y prosiect hwn i’r amlwg o ganlyniad i’r asesiad o Safleoedd Eglwysig o’r Oesoedd Canol Cynnar, lle dynodwyd nifer o safleoedd o fynwentydd arfordirol oedd ‘mewn perygl’. Wnaethant gynnwys mynwentydd cist oedd yn gysylltiedig â Chapel ‘St Anthony’, Bae Gorllewin Eingl (PRN 35095), a Sain Ffred (PRN 7606; SM80211094) y ddau ohonynt yn safleoedd sy’n sefyll ar ben clogwyni ar yn dioddef oherwydd erydiad y môr. Mae’r ddau safle yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP) ac mae’r bygythiad i’r safleoedd hyn wedi’i gydnabod gan Awdurdod y Parc. Prif amcan y prosiect oedd i gynorthwyo Parc Arfordir Penfro i lunio strategaethau rheoli ar gyfer cadw’r safleoedd hyn i’r dyfodol ac i godi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd a hefyd pa mor fregus ydynt. Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Cadw, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phrifysgol Caerdydd. Ymgymerwyd â gwaith gwerthuso ffosydd yn Mae Gorllewin Eingl ym mis Gorffennaf 2005 gan staff yr Ymddiriedolaeth a Staff (PCAP), gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Roedd o leiaf tri grw^p o gladdedigaethau cist yno. Mae’r grw^p cyntaf wedi bod yn cael ei erydu oddi ar wyneb y glogwyn (yn SM85140308) er 1997 o leiaf. Dynodwyd ail grw^p (yn SM85020311) yn ystod yr asesiad, ac roeddynt hwythau hefyd yn cael eu herydu oddi ar y glogwyn. Roedd y trydydd, a ddatgelwyd yn ystod y gwerthuso, ymhellach i mewn i’r tir o’r grwpiau hyn (yn SM85150305) lle ceir amgaead siâp hirgrwn sy’n cynrychioli’r fynwent o amgylch o amgylch cyn Gapel ‘St Anthony’. Roedd y capel hwn mewn bodolaeth tua diwedd yr oesoedd canol ac mae’r safle wedi’i nodi fel ‘Old Church’ ar fap y degwm yn 1844. Mae adeilad y capel wedi mynd ond mae’r amgaead – sydd wedi’i nodi â llinell doredig a’i labeli ‘Burial Ground (Site of)’ ar fapiau AO (OS) Argraffiadau 1af ac 2il – a gellir ei weld o hyd fel gwrthglawdd hirgrwn, isel, sy’n mesur tua 20m mewn diamedr. Cloddiwyd ffos oedd yn mesur 8m x 5m yn y lleoliad hwn. Datgelwyd chwe o gladdedigaeth cist pendant, a thri o rai posib, sydd o fewn man wedi’i amgylchynu â chlawdd caregog sylweddol, a gynrychiolir gan wrthglawdd hirgrwn. Mae’n ymddangos eu bod yn perthyn i gam hwyrach yn safle’r fynwent. Mae’r clawdd yn gynharach na’r claddedigaethau agored ond yn fwy na thebyg fe’i adeiladwyd dros fynwent gynharach, awgrymir hyn oherwydd yr esgyrn dynol o fewn y clawdd. Wnaeth cloddiad dyfnach trwy’r clawdd hefyd ddatgelu nodwedd gynharach, ffos ffiniol o bosib, sy’n dilyn llinell debyg. Cloddiwyd nifer o ffosydd rhwng amgaead y fynwent a wyneb y glogwyn, ond ni ddaethpwyd ar draws rhagor o gladdedigaethau, gan awgrymu mai nifer gyfyngedig o’r claddedigaethau agored sydd ar ôl. Cymerwyd nifer o samplau ar gyfer dyddio C14, dadansoddiad ffosffad, ac o bosib dadansoddiad palaeoamgylcheddol.
Cloddio bedd gist o fewn amgaead mynwent ym Mae Gorllewin Eingl Sut yn union y mae’r claddedigaethau o fewn yr
amgaead yn perthyn, o ran dyddiad, i’r claddedigaethau yn wyneb
y glogwyn, hyd hes y cawn y dystiolaeth o ran dyddio, efallai’r
dilyniant yw – O bosib mae yna bedwaredd cam a gynrychiolir gan Gapel ‘St Anthony’. Serch hynny, o bosib fod hwn yn gorwedd o fewn i’r amgaead sydd i’r gogledd o’r ffos sy’n cael ei gwerthuso. Yn ychwanegol i’r gwaith yng Ngorllewin Eingl,
cofnodwyd y claddedigaethau agored yn Sain Ffred, a gwnaed arolwg o wyneb
y glogwyn bresennol. Mae o leiaf pump o gladdedigaethau eraill wedi’u
datgelu ers ymweld â’r safle yn 2002. Dyddiadur Cloddio Gorllewin Eingl 2005
Cloddio Bae Gorllewin Eingl – Gorffennaf 2006 Am bythefnos ym mis Gorffennaf dechreuwyd ar ail dymor o gloddio Bae Gorllewin Eingl, Sir Benfro, gan staff yr Ymddiriedolaeth, PCAP, gyda myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a gwirfoddolwyr lleol. Yn ogystal â chymorth grant gan Cadw, cefnogwyd y prosiect gan PCAP (a dalodd am gost yr arolwg geoffisegol) a PLANED (a dalodd am swydd allanol).
Cloddiwyd chwe ffos er mwyn mynd i’r afael â chwestiynau penodol a godwyd gan yr arolwg geoffisegol (ymgymerwyd hyn gan Stratascan) a chloddiad y flwyddyn flaenorol. Cloddiwyd ffos drawiadol (nid oes dyddiad wedi’i roi iddi eto, ond mae’n bosib ei bod yn cynhanesyddol) ac o bosib llwybr â ffos. Ailagorwyd ffos o’r tymor cynt er mwyn egluro cymeriad a dyddodiad dilynol mur is-gylchog amgaead y fynwent ganoloesol gynnar, clawdd a ffos gynharach sydd o ddyddiad cynhanesyddol posib sydd mae’n ymddangos ar yr un amlinelliad. Cloddiwyd sawl bedd, yn cynnwys bedd gist a sawl baban a gladdwyd. Mae’r safle wedi’i leoli wrth ymyl traeth sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Oherwydd hynny, mae nifer fawr o ymwelwyr wedi bod yma. Oherwydd y prosiect mae llawer o wirfoddolwyr a myfyrwyr wedi cael profiad o gloddio.
Dyddiadur Cloddio Gorllewin Eingl 2006 Cyswllt y prosiect: Duncan Schlee |