Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd
Yn yr oes hon, gwelir yr ucheldiroedd Cymreig fel diffeithwch anghysbell,
ond dangosodd gwaith diweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed nad felly
yr oedd hi hyd nes yn gymharol ddiweddar.
Mewn cyfres o brosiectau a gomisiynwyd gan Cadw er mwyn astudio Aneddiadau
Gwledig Anghyfannedd, ailystyriodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed’r dystiolaeth ar
gyfer aneddiadau yn ucheldiroedd de-orllewin Cymru, o Breseli i Bumlumon
ac ar draws i’r Mynydd Du.
Rhwng 1996 a 1999 ymwelwyd â thros 600 o safleoedd gan gyflawni ymchwil
hanesyddol fanwl er mwyn ceisio deall yr aneddiadau hyn yn well. Yn draddodiadol,
dehonglwyd aneddiadau adfeiliedig yr ucheldiroedd – a elwir yn ‘gytiau
hirion’ yn aml –fel ‘hafodydd’ canoloesol. Ond erbyn hyn, gwyddom fod
llawer ohonynt yn dyddio o gyfnod wedi’r Oesoedd Canol ac yn gartrefi
i fugeiliaid, mwynwyr metel a thorwyr mawn a’u teuluoedd. Trwy astudio
archaeoleg a hanes yr aneddiadau hyn mae pennod bwysig, ond na’i hysgrifennwyd,
yn cael ei llenwi yn hanes Cymru.
Ebrill 1999-Mawrth 2000
Canolbwyntiodd arolwg maes pedwaredd flwyddyn Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd
(1999-2000) yn bennaf ar dystiolaeth aneddiad anghyfannedd mewn ardaloedd
iseldir dethol ac y mae'n delio ag agweddau'n ymwneud â safleoedd sy'n
cynrychioli y math o gartrefi y byddai pobl ar rengoedd isaf cymdeithas
y cyfnod ôl-oesoedd canol yn byw ynddynt, bythynnod gweision amaethyddol
a oedd yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth wledig.
Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar blwyfi Llansadwrn yn sir Gaerfyrddin,
Troedyraur a Llangynllo yng Ngheredigion ac Eglwyswrw yn sir Benfro. Cynhaliwyd
hefyd arolwg cyflwr o safleoedd Aneddiad Gwledig Anghyfannedd cofnodedig
o fewn ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, gan ymweld â bron
150 o safleoedd Aneddiad Gwledig Anghyfannedd. Mae darganfyddiadau'r prosiect
yn awgrymu fod ymhlith cymunedau iseldir de-ddwyrain Cymru niferoedd sylweddol
o safleoedd Aneddiad Gwledig Anghyfannedd yn tarddu o ddechrau'r 19eg
ganrif neu cyn hynny. Yn y plwyfi a archwiliwyd yn ystod 1999-2000, cofnodwyd
nifer sylweddol o safleoedd aneddiad a oedd wedi'u gadael yn ystod y degawdau
rhwng 1800 a 2000.
Prosiect Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd - Lleoliad yr Ardaloedd
Astudiaeth
Seiliwyd y ffigyrau hyn ar archwiliad gweddol gyflym o ffynonellau cartograffig
a ffotograffau o'r awyr ac nid ydynt yn debygol o fod yn cynrychioli'r
cyfan sydd i'w gael o safbwynt adnodd archaeolegol Aneddiad Anghyfannedd
ar gyfer unrhyw un o'r plwyfi a enwyd. Fodd bynnag, maent yn dangos fod
swm sylweddol o adnodd archeolegol ôl-ganoloesol mewn cymunedau gwledig
sydd heb dderbyn rhyw lawer o sylw hyd yn hyn. Mae'n amlwg fod rhaid cydnabod
Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd fel math o gofadail archeolegol pwysig
sy'n nodweddiadol o dirwedd yr iseldir yn ogystal â'r ucheldir.
Dengys y prosiect hefyd fod Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd mewn ardaloedd
o iseldir yn fath o gofadail sydd dan fygythiad ac yn prinhau. Mae'n amlwg
nad oes bellach ddim gweddillion ar yr wyneb yn hanner y safleoedd aneddiad
yr oedd gwybodaeth amdanynt a gynhwyswyd yn arolwg 1999-2000. Tynnwyd
sylw gan y prosiect felly at yr angen i ddethol yr enghreifftiau gorau
sy'n bod o Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd er mwyn eu rhoi dan warchodaeth
statudol neu dan adain cynlluniau rheoli eraill addas.
Mae'r arolwg hefyd yn dangos fod parhau i astudio a gwerthuso Aneddiadau
Gwledig Anghyfannedd yn rhoi cyfle i gysylltu archaeoleg aneddiad gyda
hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y gymuned. Hyd yn oed mewn
tirwedd sy'n cael ei ffermio'n ddwys, mae Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd
yr Iseldir yn symbolau pwysig o gymunedau'r gorffennol, a chyda'r prinder
cynyddol yn eu nifer mae eu gwerth cyfunol ac unigol yn cynyddu.
Yn ddiamau mae angen astudio cartrefi'r werin bobl o berspectif archaeolegol
er mwyn datrys cymhlethdodau hanes aneddiad mewn cymunedau gwledig. Cymer
y prosiect gam positif yn y cyfeiriad hwnnw, mewn maes ymchwil sy'n ddeinamig
a ffrwythlon ac sydd â goblygiadau pwysig ar gyfer ein ffordd o feddwl
am dreftadaeth adeiladu ac archeolegol ein cenedl. Y mae canlyniadau'r
prosiect hwn yn cael eu hymgorffori mewn cyhoeddiad academaidd a phoblogaidd.
Ebrill 2000-Mawrth 2001
Prosiect pen desg, gan mwyaf, oedd pumed flwyddyn prosiect yr Aneddiadau
Gwledig Anghyfannedd ac fe ganolbwyntiodd ar synthesu canlyniadau'r pedair
blynedd blaenorol o waith maes ac ymchwil. Gwnaed hyn er mwyn paratoi
cyfraniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i fonograff arfaethedig ar Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd
yng Nghymru.
Yn ystod y flwyddyn, lluniwyd adroddiad 15,000-gair a dynnai ynghyd
wybodaeth ac esbonio methodoleg a chanlyniadau gwaith maes y prosiect.
Yn y papur hwnnw, cafwyd trafodaeth lawn ar y prif themâu sy'n berthnasol
i astudio aneddiadau anghyfannedd yn y de orllewin. Rhoddwyd sylw arbennig
i luestau Ceredigion sef math pwysig iawn o safle rhanbarthol y gellir
tynnu gwersi pwysig ohono yn y pen draw - a'r rheiny'n wersi a fydd yn
berthnasol i astudio aneddiadau anghyfannedd ledled Cymru. Yn aml, gellir
dod o hyd i'r mannau bugeilio ôl-ganoloesol hyn ar fapiau hanesyddol ac
fe sonnir yn fanwl amdanynt mewn rhai ffynonellau hanesyddol o Geredigion.
Dangosir bod hynny'n arbennig o wir am luestau ardal Pumlumon yng ngogledd
Ceredigion. Mae tystiolaeth maes yn yr ardal honno ynghyd â map a disgrifiad
manwl a luniwyd gan Lewis Morris ganol y 18fed ganrif yn cynnig cyfle
prin i roi sylw i faterion cronoleg a swyddogaeth drwy gymharu'r cofnod
dogfennol â'r safleoedd archaeolegol sydd wedi goroesi.
Neilltuwyd amser yn ystod y flwyddyn hefyd i wneud arolwg topograffig
o safleoedd tri anheddiad anghyfannedd yn y rhanbarth er mwyn darparu
cynlluniau a arolygwyd yn fanwl-gywir o'r safleoedd i gyd-fynd â'r testun.
Yr oedd y safleoedd a ddewiswyd ar gyfer yr arolwg yn cynnwys cymhlyg
o gwt hir a lloc mawr o feini sych ar Foel Eryr ar fryniau Preseli yn
Sir Benfro; safle lluest nodweddiadol yng Ngheredigion (man bugeilio ôl-ganolesol)
ger Pontarfynach, a safle llwyfan nodweddiadol ynghyd â chyfres o nodweddion
atodol diddorol a oedd yn cynnwys lloches storio danddaearol tebyg (neu
"loches suddedig") ger Cwmystwyth, yng Ngheredigion.
Ail elfen o'r prosiect ar Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd a wnaed gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2000-1 oedd paratoi'r testun a'r lluniau ar gyfer
y llyfryn diweddaraf yng nghyfres Cadw "Caring for…". O dan y teitl cychwynnol
"Caring for Deserted Rural Settlements", mae hwn yn orolwg â darluniau,
mewn arddull boblogaidd, sy'n trafod y prif themâu sy'n berthnasol i astudio
aneddiadau anghyfannedd yng Nghymru. Ynddo hefyd ceir atodiad manwl sy'n
cynnwys canllawiau i berchnogion a rheolwyr tir ynghylch y ffyrdd gorau
o ddiogelu safleoedd aneddiadau anghyfannedd yn y dirwedd. Yn y llyfryn
ceir gwybodaeth a lluniau a ddarparwyd gan bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Cymru, Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bwriedir ei gyhoeddi yn 2002 a chaiff ei ddosbarthu'n helaeth, yn enwedig
ymhlith y gymuned amaethyddol a chyrff perthnasol.
Ebrill 2001 - Mawrth 2002

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth waith maes ac ymchwil ben desg am bedair
blynedd olynol rhwng 1996 a 2001 gan ymweld â chyfanswm o ryw 900 o Aneddiadau
Gwledig Anghyfannedd a'u hasesu. Wedi dweud hynny, fe gyfyngwyd yr arolwg
hwnnw i 23 o fannau arolygu penodol ledled y tair sir. I weld faint o
safleoedd tebyg a oedd i'w cael yng ngweddill y rhanbarth, fe ganolbwyntiodd
y gwaith yn 2001/02 ar arolwg pen desg o'r holl safleoedd posibl a gofrestrwyd
ar yr CHA ranbarthol. Cydnabuwyd yn arbennig bod llawer o safleoedd posibl
o'r fath wedi'u cofnodi yn yr CHA o dan ddisgrifiadau camarweiniol neu
amhriodol o fathau o safle. Adolygwyd cyfanswm o fwy na 8000 o gofnodion.
Gan fod y gwaith arolygu cynharach yn ne-orllewin Cymru wedi defnyddio
diffiniad eang o'r term 'Anheddiad Gwledig Anghyfannedd', yr oedd yr 817
o safleoedd yr ymwelwyd â hwy a'u hasesu yn cynnwys safleoedd anghyfannedd
a gawsai eu cofnodi fel 'Bwthyn', 'Fferm' ac adeiladweithiau ategol megis
'Lloches' a 'Lloches Suddedig'. Ond yng ngham nesaf y project hwn, bu
defnyddio diffiniad culach sy'n canolbwyntio'n unig ar y mathau o safleoedd
a ddisgrifiwyd fel 'Cwt Hir', 'Ty Hir', 'Llwyfan (an-niwydiannol)' ac
'Anheddiad Gwledig Anghyfannedd (Cymhlyg)' yn fodd i'w cymharu'n fanylach
â'r mathau o safleoedd yr ymwelwyd â hwy ac a aseswyd gan Ymddiriedolaethau
Archaeolegol eraill Cymru. Erbyn diwedd y broses honno, fe nodwyd cyfanswm
o 1085 o safleoedd o dan y disgrifiadau isod o fathau o safle:
Anheddiad Gwledig Anghyfannedd (Cymhlyg)* 276
Cwt Hir 462
Ty Hir 96
Llwyfan (an-niwydiannol) 251
(*Fe'i diffinnir fel grwp neu gymhlyg o nodweddion cysylltiedig-ag-anheddu,
a'r rheiny'n aml wedi'u cysylltu ag adeiladweithiau ategol)
O'r pedwar math penodol hwn o safle, fe ymwelwyd â 417 o safleoedd eisoes
fel rhan o Broject yr Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd rhwng 1996 a 2001.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae staff yr Ymddiriedolaeth wedi ymweld
â 109 yn rhagor o safleoedd wrth wneud gwaith arolygu arall. Teimlir bod
gan y staff ddigon o wybodaeth, a bod digon o wybodaeth yn bod, am y safleoedd
hynny fel nad oes angen gwneud ymweliad maes arall â hwy. Mae modd ychwanegu'n
gyflym at y cofnodion ar gyfer y grwp hwn o 109 o safleoedd i gydymffurfio
â safonau Project yr Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd fel ymarfer pen desg.
Cynigiwyd y dylid, yn sgil yr ymarfer pen desg, ymweld â gweddill y
559 o safleoedd i gwblhau'r arolwg o ardaloedd yr Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd
yn ne-orllewin Cymru. Y bwriad oedd estyn yr arolwg hwn dros gyfnod o
2 flynedd. Bydd yr ymweliadau hynny'n sicrhau bod gwybodaeth fanwl-gywir
ar gael am eu nodweddion ac am gyd-destun y dirwedd o'u hamgylch, ac yn
fodd i asesu natur unrhyw fygythiadau tebygol.
Ebrill 2002 – Mawrth 2003
Yn yr arolwg o’r cofnodion ar gyfer Aneddiadau Gwledig Anghyfanedd
yn 2001/2002 dynodwyd 559 o safleoedd fel rhai a oedd angen rhagor o waith
asesu. Cychwynnwyd ar raglen dwy flynedd i edrych ar y safleoedd hyn yn
2002/2003. Nodwyd cyfanswm o 348 o safleoedd i’w hasesu yn ystod
y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys rhagor o waith ymchwil ar 109 o safleoedd
nad oedd angen ymweld â nhw, ac ymweliadau maes i 239 o safleoedd
yng Ngheredigion a Gogledd Sir Benfro. Mae newidiadau i strwythur y gronfa
ddata y CHA o ganlyniad i brosiect asesu 2001-2002 yn golygu bod yr ymweliadau
hyn yn gallu cofnodi gwybodaeth am nodweddion a chyd-destun dirweddol
y safleoedd a ymwelwyd â hwy yn gywir, yn ogystal ag asesu bygythiadau
gan wneud argymhellion i’w diogelu lle’n briodol.
Cwt hir ar y gweundir agored ar ucheldiroedd Pumlumon gyda chronfa
ddwr Nantymoch a Phumlumon yn y pellter. Efallai mai hafotai canoloesol
yw’r safleoedd anheddu anghysbell hyn ar y tir comin agored gan
fod eu lleoliad yn wahanol iawn i luestau ôl-ganoloesol y fro, sydd
fel arfer yn cael eu canfod mewn lleoliadau cysgodol yn y cymoedd.
Nid oedd yn bosibl asesu 64 o’r 348 safle a archwiliwyd yn ystod
y flwyddyn, naill ai oherwydd eu bod yn anhygyrch neu oherwydd eu bod
yn amhosib dod o hyd i’r safleoedd. Diystyrwyd 45 safle arall gan
nad oeddynt wedi profi i fod yn anheddiadau anghyfanedd. Felly 239 o safleoedd
a gafodd eu hail-asesu yn llwyddiannus trwy ymweliadau safle neu waith
dadansoddi penfwrdd. Roedd y gwaith o wella’r cofnod CHA ar gyfer
y safleoedd hyn olygu casglu gwybodaeth mewn perthynas â nodweddion
y dirwedd, cyflwr y safle a bygythiadau posibl, yn y gobaith o wella ein
dealltwriaeth o’r safleoedd a hefyd i gynorthwyo gyda’r gwaith
o’u rheoli yn y dyfodol.
Rhaid rhoi ystyriaeth lawn i batrymau dosbarthiad y safleoedd hyn cyn
cwblhau’r prosiect. Serch hynny, mae’n ymddangos fod yna ddwysedd
o ran safleoedd yr ydym yn gwybod amdanynt mewn ardaloedd mynyddig, ar
hyd y ffin arfordirol a hefyd yn ardal Castell Martin yn ne Sir Benfro
sy’n nodweddiadol o’r ffocws sydd wedi bod ar brosiectau gwaith
maes penodol a wnaed dros y 25 mlynedd diwethaf.
Sambrook P 2003 Deserted Rural Settlements 2002-3, Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Rhif
2003/43
Ebrill – Medi 2003
Mae’r asesiadau maes ar y 316 safle sydd ar ôl i’w
hastudio, yn ne Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, yn mynd yn ei flaen. Mae’n
cynrychioli’r rhan olaf ym mhrosiect Aneddiadau Gwledig Anghyfanedd
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
. Ers diwedd Medi 2003 mae pob safle mynyddig wedi derbyn ymweliad,
sy’n cyfrif am oddeutu 70% o’r prosiect gwaith maes am eleni.
Mae'r gwaith o wella’r gronfa ddata ac archifo ffotograffau hefyd
wedi'i wneud ar gyfer y rhan fwyaf o’r safleoedd a ymwelwyd â
hwy.

Amlinelliad o gwt hir yng Nghwmpedol, uwchben Dyffryn Aman yn
Sir Gaerfyrddin. Mae hen ddogfennau, sy’n dyddio i'r 14eg ganrif,
yn enwi Cwmpedol fel hafod i gastell Carreg Cennen. Efallai bod y grwp
bychain o gytiau hirion a leolir ar hyd terasau naturiol sy'n edrych dros
ddyffryn Aman, i ochr orllewinol Cwmpedol, yn cynrychioli olion archaeolegol
yr hafotai canoloesol oedd yn gysylltiedig â'r castell.
Cyswllt prosiect: Ken Murphy
|