Arolwg o Barc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 2003
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw prif berchennog Parc Dinefwr, sydd ar ymyl tref Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. O fewn y parc hwn ceir Plas Newton, plasty o’r 17eg i’r 19eg ganrif, parc o’r 18fed a 19eg ganrif, adfeilion Castell Dinefwr, dwy dref ganoloesol sydd bellach yn anghyfanedd a chaer Rufeinig sydd newydd ei darganfod. Er mwyn llunio cynllun rheoli a chadwraeth ar gyfer yr eiddo hyn, comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ymgymryd ag arolwg topograffig o 34 erw y parc ceirw. Dyma’r rhan hynaf o’r parc, ac yno gwelir goed derw hynafol, a amcangyfrifir i fod yn rhyw 700 i 800 mlwydd oed, coetir a blannwyd yn y 18fed ganrif, teithiau cerdded a llefydd i aros i fwynhau’r golygfeydd ysblenydd. Rhagwelir y bydd rhagor o waith arolygu yn cael ei wneud yn 2004-05. Murphy K and Wilson H 2003 Dinefwr Park Survey, Dyfed Archaeological Trust report No. 2003/42 Cyswllt prosiect: Ken Murphy
|