Ffermydd a amddiffynnwyd o’r Oes Haearn yn ne Ceredigion
a gogledd Sir Benfro 
Cyflwyniad
Mae oddeutu 55 o glostiroedd hirsgwar sydd wedi’u
hamddiffyn ag iddynt olion cnydau wedi’u darganfod yn ystod yr 20
mlynedd diwethaf ar dir amaeth cyfoethog de Ceredigion drwy luniau o’r
awyr. Mae llawer o’r safleoedd hyn sydd wedi’u darganfod yn
ddiweddar yn hirsgwar, sy’n codi cwestiynau ynghylch eu tarddiad
a’u swyddogaeth. Mae’r holl safleoedd hyn ar dir sydd wedi’i
drin yn sylweddol ac o ganlyniad ofnir bod difrod aredig wedi’i
wneud i fath arbennig o safle archaeolegol heb nodweddion. Nodau’r
prosiect yw asesu pwysigrwydd archaeolegol y safleoedd hyn, gwerthuso
pa mor agored ydynt i niwed, llunio strategaethau cofrestru/rheoli, a
gwella’r CHA.

Arolwg gradiomedreg o glostir Blaensaith. Mae’r
ffosydd amddiffynol lleidiog a’r llethr sydd wedi’i aredig
yn glir iawn ynghyd â dau dy crwn. Mae gan y ty i’r de fynedfa
sy’n wynebu’r gorllewin ac ymddengys bod y ty gogleddol wedi’i
gwblhau mewn o leiaf dwy ran. Mae nodweddion mewnol eraill yn bresennol,
gan gynnwys tai crynion posibl eraill.
Haf 2004
Yn ystod haf 2004, wnaeth yr Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth
gydag Adran Archaeoleg Prifysgol Efrog, gynnal arolwg magnetomedr a thopograffeg
ar wyth o amgaeadau hirsgwâr. Wnaeth y gwaith hwn gadarnhau mai
dim ond weithiau y ceir unrhyw dystiolaeth ar y wyneb o amgaeadau hirsgwâr,
a lle y mae’n bresennol dim ond rhyw ychydig a geir. Serch hynny,
mae’r magnetomedr yn dangos bod archaeoleg pwysig yn debygol o oroesi
o dan wyneb y tir yn ogystal â’r ffosydd a nodir gan gnydau
a gofnodir mewn ffotograffau o’r awyr. Yn arbennig dynodwyd rhigolau
cylchol, sydd yn fwy na thebyg yn dynodi olion o dai crwn, aelwydydd,
tyllau pyst a rhaniadau mewnol yr amgaeadau. Mae’r dystiolaeth hon
yn debyg i’r hyn a geir wrth gloddio ar safleoedd o aneddiadau amddiffynnol
o’r Oes Haearn.
Ar ddechrau 2005 gwnaed arolwg gwrthedd ar dri o’r
safleoedd a arolygwyd yr haf blaenorol. Er gwaethaf tywydd da/cyflwr tir
da ar gyfer gwneud arolwg gwrthedd, roedd y canlyniadau’n wael,
gan ddynodi nad yw hyn yn dechneg addas ar gyfer y math hwn o safle.
Adroddiad
ar Glostiroedd Hirsgwar 2004 yn llawn mewn ffurf PDF yn Saesneg - 3.5Mb
(yn agored mewn ffenestr newydd)

Magnetomedr Penbwliad yn dangos ffos yr amgaead, olion o glawdd, rhaniad
mewnol ac o bosib tai crwn
Ebrill - Medi 2005
Yn ystod haf 2005, gwnaed arolwg o bump o amgaeadau sydd
â marciau cnydau arnynt a chloddiwyd un yn rhannol (Troedyrhiw).
Eleni penderfynwyd gwneud arolwg o siapau eraill o amgaeadau, nid dim
ond rhai hirsgwâr. Cafwyd canlyniadau da o dri o’r arolygon
geoffisegol hyn (gan ddatgelu tystiolaeth nad oedd yn amlwg o’r
ffotograffau awyr), ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ychwanegol o un arolwg,
ac roedd y canlyniadau o’r safle terfynol yn wael. Cafwyd y canlyniadau
gorau yn Ffynnonwen, lle canfuwyd tai crwn o fewn amgaead cylchol mewnol
a nodweddion eraill mewn amgaead allanol mawr eliptaidd.

Arolwg geoffisegol yn Nantycroy gyda Ynys Aberteifi
yn y cefndir

Plot geoffisegol o ddata crai yn Nhy Gwyn sy’n
dangos amgaead mewnol hirsgwâr na wyddwyd amdano o fewn amgaead
lloc.
Cafwyd canlyniadau gwych o ganlyniad i’r cloddiad
yn Nhroedyrhiw. Canolbwyntiwyd y gwaith ar y fynedfa i’r amgaead
a rhan fechan o’r tu fewn ychydig y tu fewn i’r fynedfa. Union
o dan yr uwchbridd tenau roedd yna greigwely o siâl caled. Does
yna ddim dyddodiad llawr, haenau cwrs, wynebau ffordd na haenau tebyg
wedi goroesi, ond fe gloddiwyd amrywiaeth o byllau, tyllau pyst a rhigolau.
Ni lwyddwyd i ddynodi unrhyw strwythurau, ond mae’r hyn sydd wedi’i
ganfod ar y safle yn awgrymu’n gryf bod olion o adeiladau wedi goroesi
rhywle arall o fewn i’r amgaead.
Roedd y ffosydd sydd naill ochr i’r fynedfa bron yn 3m o ddyfnder
ac yn siâp V. Roedd yna rywfaint o grochenwaith yn y llenwadau uchaf.
Darganfuwyd mwy na 200 o ddarnau o grochenwaith ar y safle. Mae’r
rhan fwyaf ohono yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid gan ymdebygu i’w
harddull, ond mae’n debyg fod rhai darnau o bosib yn ‘grochenwaith
brodorol’, o’r Oes Haearn o bosib, ond yn fwy tebygol o fod
yn Frythonig-Rufeinig. Darganfuwyd ceiniog, o bosib yn Fespasaidd, yn
y lefelau uchaf un o’r ffosydd. Cymerwyd samplau o ran fwyaf ohonynt
ar gyfer gwneud dadansoddiad palaeoeamgylcheddol. Bydd adroddiad byr am
y cloddiad yn cael ei lunio eleni, gan wneud y gwaith dadansoddi yn dilyn
y cloddio yn ystod y flwyddyn nesaf.
Clostiroedd Hirsgwar
Ceredigion Adroddiad Geoffiseg 2005 mewn ffurf PDF yn Saesneg- 4 Mb (yn
agored mewn ffenestr newydd)
Cloddiad
Yn Nhroedyrhiw 2005 mewn ffurf PDF yn Saesneg - 2.5Mb (yn agored mewn
ffenestr newydd)
Dyddiadur Cloddio 2005
Tiroedd amgaeëdig cyn hanes yn Ne Ceredigion

Golygfa banoramig o gloddiad Troedyrhiw
Haf 2006 – Arolwg a chloddiad (Fynnonwen)
Yn ystod haf 2006, mewn partneriaeth ag Adran Archaeoleg
Prifysgol Efrog, gwnaed arolwg o chwe amgaead oedd ag olion cnydau arnynt,
ac roedd un o’r amgaeadau a arolygwyd yn 2005 wedi’i gloddio’n
rhannol.
O ganlyniad i arolwg geoffisegol yn Berry Farm darganfuwyd
ffos amddiffynnol y gaer bentir hon a rhaniadau mawr yn y tu fewn, ond
ychydig oedd yno o ran manylion yn y tu fewn. Ym Mhenpedwast, darganfuwyd
ffosydd amgaead hirsgwâr, mynedfa a thy crwn yn y canol. Roedd y
canlyniadau yn Nhre-cefn Isaf yr un mor dda, gyda ffos amgaead hanner
crwn, mynedfa, ty crwn a nodweddion mewnol eraill i’w gweld ar y
plot geoffisegol. Amgaead hanner crwn oedd Cwm-howni gyda ffosydd mewnol
ac allanol, gydag anghysonderau mawr oddi fewn i’r amgaead. Arolygwyd
rhan o amgaead Troedyrhiw yn 2004, a chafodd ei gloddio yn 2005. Yn 2006,
cwblhawyd y gwaith o arolygu’r amgaead gan ddatgelu gweddill yr
amgaead hirsgwâr hwn ac o bosib llwybr allanol gyda ffosydd. Yn
olaf, cafodd y safle cyfan yn Ffynnonwen, ei arolygu’n rhannol yn
2005 a’i gloddio yn 2006, a chafwyd canlyniadau gwych o ganlyniad
i’r gwaith arolygu.
Yn yr arolwg geoffisegol o Ffynnonwen dynodwyd fod yna
fynedfa yn yr ochr ogleddol (fel a wnaed yn y ffotograffau awyr) a hefyd
o leiaf pedwar ty crwn mewnol. Y bwriad yn Nhroedyrhiw yn 2005 oedd i
gloddio pen y ffosydd wrth y fynedfa a hefyd rhan o’r tu fewn. Mae
hyn wedi profi i fod yn llwyddiannus yn Nhroedyrhiw oherwydd daethpwyd
o hyd i ran fwyaf o’r arteffactau yn rhan uchaf yr haenau yn y ffosydd.
Hefyd darganfuwyd nifer o byllau a thyllau pyst y tu fewn. Gwnaed rhywbeth
tebyg yn Ffynnonwen wrth i’r uwchbridd yn y ffosydd wrth y fynedfa
gael ei dynnu oddi yno gan beiriant a hefyd rhan o’r tu fewn, ac
o ganlyniad i hyn datgelwyd o leiaf un ty crwn cyflawn.
Roedd yn amlwg ar unwaith nad oedd y fynedfa lle’r
oedd y ffotograffau awyr a’r arolwg geoffisegol wedi dynodi. Roedd
yna ffos, ond dim ond rhyw 10cm-20cm i mewn i’r creigwely caled
iawn sy’n nodweddiadol o’r rhan hon o’r safle yr oedd
yr adeiladwyr wedi llwyddo mynd. Serch hynny, trwy dorri trwy’r
ffos ar ochr orllewinol yr amgaead lle’r oedd y creigwely yn fwy
darniog datgelwyd ffos serth siâp V oedd yn 4m o led a 2.2m o ddyfnder.
Daeth dau o’r darganfyddiadau o rannau uchaf yr haenau yn y ffos
hon : darn o slag a throellen cogail wedi’i wneud o ddarn o grochenwaith
Rhufeinig Dyffryn Hafren wedi’i ail-ddefnyddio. Doedd ffos yr amgaead
mawr hirgrwn ddim mor sylweddol, 4m o led a 1m o ddyfnder, gyda siâp
V agored iddo.
Yn y tu fewn darganfuwyd cyfres o adeiladau a strwythurau
sy’n nodweddiadol o anheddiad o ddiwedd yr Oes Haearn. Diffiniwyd
y ty crwn oedd wedi’i gloddio’n llwyr gan rigol ddraenio lydan
yn amgylchynu llinell fur ddychmygol ar gyfer ty 8.3m mewn diamedr. Mae
tystiolaeth o’r tyllau pyst yn y fynedfa sy’n wynebu’r
dwyrain yn dynodi ei fod wedi’i adeiladu deirgwaith o leiaf. Mae
rhigol ddraenio a llinell fur sy’n rhan o ail dy crwn yn 6.2m mewn
diamedr ac yn gorwedd ar ochr de ddwyrain y cloddiad. Ceir arcau o dair
rhigol, sy’n dynodi o leiaf tri cham o’r ty crwn efallai 10m
diamedr yn gorwedd ar ochr ddeheuol y cloddiad. Ceir strwythur pedwar
postyn yn gorwedd yn y man agored rhwng y tai, a strwythur chwe phostyn
sy’n dyddio o cyn neu ar ôl y ty crwn sydd wedi’i gloddio’n
llwyr. Yr argraff gyffredinol a geir yma yw lle mewnol sydd wedi cael
llawer iawn o ddefnydd, a feddiannwyd o bosib dros gyfnod o sawl cenhedlaeth.
O ganlyniad i’r cloddiad a’r arolwg geoffisegol
o’r safle cyfan a gwblhawyd yn 2006, datgelwyd tystiolaeth fod y
safle wedi’i feddiannu cyn i’r amgaead crwn gael ei adeiladu.
Roedd yna ffos balisâd oedd yn crymu yn dyddio o gyfnod cynt na
ffos yr amgaead a’r ty crwn sydd wedi’i gloddio’n llwyr.
Mae’r arolwg geoffisegol yn awgrymu fod y nodwedd hon yn ffurfio
amgaead crwn. Darganfuwyd y darn lleiaf o lain gwydr yn y ffos. Roedd
yr amgaead â phalisâd yn gorwedd yn agos at ganol yr amgaead
hirgrwn mawr ac yn ei ganol roedd yna dy crwn. O ganlyniad i arolwg 2006
darganfuwyd amgaead hirsgwâr bychain, gyda thy crwn a hynny wrth
ochr ddeheuol yr amgaead hirgrwn allanol.
Mae samplau palaeoamgylcheddol wedi’u hanfon at
A Caseldine, Prifysgol Cymru Llambed er mwyn gwneud gwaith dadansoddi
cychwynnol.
Clostiroedd
Hirsgwar De Ceredigion a Gogledd Penfro Adroddiad Geoffiseg 2006 mewn
ffurf PDF yn Saesneg - 6Mb
(yn agor mewn ffenestr newydd)
Aneddiad
amddiffynnol Oes Haearn, Ffynnonwen 2006 Adroddiad dros-dro yn Saesneg
- 2.88Mb
(yn agor mewn ffenest newydd)
Dyddiadur
Cloddio Ffynnonwen 2006

Geoffiseg Ffynnonwen. Arolwg geoffisegol o Ffynnonwen yn 2005 a 2006
wedi’u cyfuno. Mae sgwariau’r arolwg yn 20m sgwâr.

Ffynnonwen yn dangos gwaith cloddio ar y ddau dy crwn
Haf 2007
Yn ystod haf 2007 cynhaliwyd arolwg geoffisegol mewn
pum safle. Roedd nodi caeau amddiffynnol yn fwy problematig yn 2007 na
mewn blynyddoedd blaenorol oherwydd nifer o ffactorau. Yn gyntaf, mae
llawer o safleoedd wedi cael arolwg. Yn ail, mae’r haf anarferol
o wlyb yn golygu nad oedd llawer o ffermwyr wedi torri’u silwair
ac, yn drydydd, tyfir maint cynyddol o rawn yng ngorllewin Cymru. O ganlyniad
i hyn roedd y ddau safle cyntaf i dderbyn arolwg yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin.
Cynhaliwyd dau arolwg ar wahân yn Eglwys Llangan, y cyntaf i’r
gogledd o’r eglwys yn y cae lle safai carreg argraffedig Santes
Cana o’r canol oesoedd cynnar gynt, a’r ail i’r de,
sef safle cae crwn cymhleth wedi’i nodi gan gnydau. Datguddiodd
y ddau arolwg archaeoleg sylweddol o dan y tir. Dangosodd arolwg ym Mhlas-y-Parc
gae hirgrwn wedi’i ddynodi gan gnydau, ac felly hefyd yr arolwg
yn Nhreferedd Uchaf - gyda’r safle olaf hefyd yn meddu ar strwythurau
mewnol posibl. Dangoswyd rhan o gae cymhleth yn Ffynnon Llygoden, yn ogystal
â rhan o gae petryal bach, a allai fod yn fynwent o’r canol
oesoedd cynnar neu’n deml. Ataliwyd yr arolwg ar y safle hwn gan
gyfyngiadau yn sgil achosion o haint y traed a’r genau. Roedd yr
arolwg olaf felly ar dir anamaethyddol yng Nghastell Nyfer. Roedd y canlyniadau
yma’n siomedig.
Dewiswyd caer benrhyn yn Berry Hill, Trefdraeth ar gyfer
cloddio. Cliriwyd pridd o amgylch y fynedfa, gan ddatguddio prif derfynau’r
ffosydd, lle tybiedig y porth, rhannau o’r cloddiau amddiffynnol
a rhan o ddarn mewnol y gaer yn union oddi mewn i’r fynedfa. Roedd
terfyn gogleddol y gaer wedi’i dorri o’r graig ac mewn ffurf
V, rhyw 2m o ddyfnder. Roedd terfyn y de’n ddyfnach. Fodd bynnag,
nid oedd wedi’i gwblhau ac ar ôl plymio i ddyfnder o 3m ger
y terfyn aeth yn fas yn fuan iawn.
Goroesodd ychydig gentimetrau isaf y lan ar ochr ogleddol
y fynedfa; ond roedd mynedfa’r de wedi diflannu. Roedd y porth yn
strwythur syml, un cam, yn cynnwys pâr o brif dyllau post gyda phâr
po dyllau post yn ôl tuag i mewn, Torrodd un o’r prif dyllau
post drwy ffos palisâd sylweddol - hon oedd yr unig dystiolaeth
o fwy nag un cam defnyddio. Ni chafwyd unrhyw wrthrychau i’w dadansoddi,
mond cafwyd nifer o ddisgiau tyllog siâl o amrywiol faint ymhlith
yr hyn a lenwai’r cloddiau.
Mae natur y clawdd amddiffynnol, prinder y gwrthrychau
(yn enwedig diffyg darganfyddiadau o’r Cyfnod Rhufeinig), absenoldeb
tai a strwythurau eraill a mynedfa un cam syml gyda’i gilydd yn
awgrymu caer heb ei gorffen na’i defnyddio lawer. Gallai dadansoddiad
ar ôl cloddio helpu i egluro hyn.

Arolwg geoffisegol Treferedd Uchaf

Cloddio Berry Hill yn edrych i’r gorllewin tua Bae Trefdraeth
a Phen Dinas
Dyddiadur
Cloddio Berry 2007 - Saesneg yn unig
Adroddiad Berry
Hill mewn ffurf Adobe Acrobat yn Saesneg - yn agored mewn ffenestr newydd
Arolwg
Geoffisegol Clostiroedd Hirsgwar 2007 mewn ffurf Adobe Acrobat - yn agored
mewn ffenestr newydd
Cyswllt y Prosiect: Ken
Murphy
|