14-15 Stryd yr Eglwys, Arberth 2006 
Ymgymerwyd â rhaglen gofnodi fer yn dilyn cloddio’r
ffosydd sy’n sylfeini ar gyfer ty/stiwdio newydd yn 14 a 15 Stryd
yr Eglwys, Arberth, o fewn ardal y dref ganoloesol. Darparwyd arian gan
gronfa cyfwng Cadw.
Daethpwyd ar draws rhan o bwll neu lwybr unionlin. Er
efallai fod gan y nodwedd hon wreiddiau sy’n dyddio’n ôl
i’r cyfnod canoloesol, mae’n fwy tebygol ei bod yn dyddio’n
ddiweddarach na hyn. Ni ddaethpwyd o hyd i nodweddion archaeolegol arwyddocaol
eraill.

14 a 15 Stryd yr Eglwys, y tu blaen cyn iddo gael ei ddatblygu
Cyswllt y Prosiect: P Crane
|