Yr Arolwg o Dref Caerfyrddin 2004 
Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd yr hyn a ddeallir
ar hyn o bryd am ddatblygiad hanesyddol Caerfyrddin a chafodd ei ariannu
ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Cadw. Amcan cyffredinol y prosiect
oedd i gynnig fframwaith ar gyfer datblygiad cynaladwy o fewn amgylchedd
hanesyddol y dref ac yn arbennig i gynorthwyo i ddiogelu tystiolaeth archaeolegol
lle does yna ddim a all gymryd ei le.
Cwblhawyd arolwg cychwynnol gan Terry a Heather James
yn ystod 2003/2004. Bellach mae’r prosiect wedi llunio datganiad
manwl o ffurf ffisegol y dref ers y Rhufeiniaid, yn dangos sut mae archaeoleg
wedi cynorthwyo i ni wella ein dealltwriaeth ohoni.
Ymgynghorwyd ag amrediad o ffynonellau/cronfeydd data
er mwyn casglu gwybodaeth ar ddatblygiad hanesyddol Caerfyrddin, y safleoedd
archaeolegol a strwythurau hanesyddol a leolir o fewn i’r ffiniau,
lleoliadau statudol ac anstatudol, ac ardaloedd o ddatblygiad arfaethedig.
O bwysigrwydd mawr oedd y ffynonellau cartograffeg megis
mapiau hanesyddol Speed 1610, Lewis 1786, Wood 1834 a’r Arolwg Ordnans.
Cafodd y rhain eu digido lle bo’r angen a chafwyd amrywiaeth o wybodaeth.
Wnaeth hyn gynnwys ffyrdd, ffiniau caeau a phlotiau, eiddo masnachol,
eglwysi a chapeli, eiddo diwydiannol, ardaloedd o aneddleoedd domestig,
ac ati. Cafodd adeiladau rhestredig a Chofebion Hynafol Rhestredig eu
digido ynghyd â chofnodion HER, lle roedd yna ddigon o wybodaeth
ar gael am yr ardaloedd.
O ganlyniad i’r astudiaeth mae gan Gaerfyrddin
well cronfa ddata HER. Mae hyn wedi cynnwys atgyfnerthu’r modd presennol
o asesu data HER, gan ddilysu a gwella’r 680 o gofnodion oedd eisoes
yn bodoli. Yn ogystal â hyn mae 153 o gofnodion eraill wedi’u
creu. Mae haenau GIS ar wahân hefyd wedi’u creu er mwyn cofnodi
gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol
gan gynnwys camau o anheddu hanesyddol; topograffeg hanesyddol (ffurf
cynlluniau, patrymau strydoedd, ac ati), lleoliadau statudol ac anstatudol;
ardaloedd o gymeriad hanesyddol trefol ac argymhellion o ran canllawiau
cynllunio. Mae 54 o ardaloedd o gymeriad hanesyddol wedi’u diffinio
a’u disgrifio yn cynnig manylion brosesau hanes a datblygiad sydd
wedi digwydd mewn mannau penodol o’r dref yn ogystal â darparu
syniad o’r dystiolaeth uwchlaw neu islaw lefel y ddaear sy’n
bodoli heddiw.
Trwy law 'Ardaloedd o Gymeriad Hanesyddol Trefol', mae
Ardaloedd sydd angen Cyngor Cynllunio wedi’u diffinio. Bwriad rhain
yw iddynt gael eu defnyddio’n feunyddiol gan swyddogion cynllunio
er mwyn darparu gwybodaeth a chefnogaeth, yn arbennig mewn trafodaethau
ynglyn â cheisiadau cyn cynllunio a datblygwyr posib.

Ardaloedd o Gymeriad Hanesyddol Trefol o fewn amddiffynfeydd
Rhufeinig y dref.

Map o ddatblygiad trefol yng Nghaerfyrddin
Cyswllt y Prosiect : Louise
Austin
|