Arolygon Trefi Aberteifi a Thregaron 2006-2007Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag arolygu Aberteifi a Thregaron er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ddatblygiad hanesyddol y trefi. Bydd yr arolygon yn galluogi i’r materion archaeolegol gael eu rhannu mewn modd dealladwy a haeddiannol o fewn gwahanol ardaloedd o’r trefi. Trwy fapio’r llefydd cyfarwydd a modelu’r ardaloedd hynny lle mae yna wybodaeth anuniongyrchol, bydd yr astudiaethau yn cynnig sail ar gyfer adnabod anghenion archaeolegol penodol ar gyfer datblygiadau yn y trefi. Mae’r astudiaethau’n cynnwys llunio rhannau mapio ar gyfer Gwybodaeth i Fapiau GIS gyda data dehongliadol ynghlwm wrth hwnnw a chyngor ar gadwraeth a fydd ar gael i’w ddefnyddio’n uniongyrchol o fewn cyfyngiadau mapio’r Cyngor Sir.
Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, mae’r gwaith wedi canolbwyntio’n benodol ar Gastell Aberteifi. Cynlluniwyd y gwaith hwn yn benodol er mwyn hwyluso dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y castell a thref Aberteifi yn ddaearyddol, ac o ran topograffeg, hanes ac archaeoleg. Mae Cyngor Ceredigion yn cynorthwyo’r prosiect trwy gymorth grant ac mae’n cael ei ddefnyddio er mwyn hwyluso gwaith o greu Cynllun Cadwraeth i’r castell.
Hyd yn hyn mae’r gwaith wedi cynnwys: Gwella strwythur y gronfa ddata HER – er mwyn gwneud lle ar gyfer y wybodaeth ychwanegol ar gyfer Castell Aberteifi (ee Manylion pensaernïol, Data botanegol yr ardd hanesyddol a data ecolegol) - Gwella HER – Dilysu a diweddaru cofnodion sydd eisoes yn bodoli a chreu cofnodion newydd sy’n ymwneud â’r castell a’i amgylcheddau. Mapio GIS - Llunio adroddiad cychwynnol ar Gastell Aberteifi – mae hyn wedi cynnwys gorolwg hanesyddol, disgrifiad o ymyriad archaeolegol blaenorol ac adnoddau archaeolegol a wyddir amdanynt a disgrifiadau manwl o 29 o elfennau o gymeriad unigryw megis adeiladau a gerddi. Mae drafft wedi’i gyflwyno i Gyngor Ceredigion ac mae unrhyw sylwadau yn cael eu cynnwys ynddo ar hyn o bryd.
Cysylltiadau’r Prosiect: Louise
Austin a Nikki Cook |