Cartref > Prosiectau >

Parc Treftadaeth Stepaside, Sir Benfro

Ar hyn o bryd gwneir gwaith cadwraeth ar olion anferth gwaith haearn a phwll glo o’r 19eg ganrif gan Gyngor Sir Benfro.

Cyn y gwaith cadwraeth, gwneir gwaith cofnodi manwl gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gan gynnwys cynhyrchu lluniau o bob carreg o’r adeiladau pwysicaf.

Hyd yn hyn, cofnodwyd odynau calchynnu, ty injan a wal gynnal i’r ffwrnais chwyth. Ar hyn o bryd, gwneir gwaith ar waliau cynnal yr odynau calchynnu.

Ariannir y gwaith cadwraeth gan Gyngor Datblygu Cymru a Cadw: Welsh Historic Monuments; W S Atkins yw’r peirianwyr ymgynghorol a Taylor Woodrow Constructions Ltd yw’r prif gytundebwyr.

Cyswllt prosiect : Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]