 |
Parc Neuadd, Caerfyrddin 2001
Gwnaed
gwerthusiad archaeolegol ar dir rhwng Parc Neuadd a Heol y Prior yng Nghaerfyrddin
ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2001. Cloddiwyd dwy ffos brawf. Cofnodwyd
pydew, ac ynddo lestr llwyd Brythonig-Rufeinig, yn un ohonynt. Yn y llestr
yr oedd gweddillion amlosgiad a rhimyn potel fach o wydr. Awgrymai'r pydew
claddu hwn, ynghyd â sawl nodwedd arall, fod mynwent Rufeinig rhwng tref
Rufeinig Moridunum i'r gorllewin a'r amffitheatr i'r dwyrain. Byddai'r
fynwent wedi bod ar ochr ogleddol y brif ffordd o'r dwyrain at y dref
Rufeinig. Gweddillion yr amlosgiad yw'r prawf cyntaf o gladdu yng Nghaerfyrddin
yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Cafodd sawl nodwedd linellol arall, o'r cyfnod
canoloesol hwyr neu ôl-ganoloesol o bosibl, hefyd eu cofnodi yn y ffosydd
prawf. Gorwedd cryn ddyddodion o bridd aredig ôl-ganoloesol a gorlwyth
modern dros ben yr amrywiol nodweddion. Yr oedd y dyddodion hynny hyd
at 1.3m o ddyfnder.
Cyswllt prosiect : Pete Crane
|