 |
Pen y Castell Mawr, Sir Benfro
Caerau pentir arfordir Sir Benfro yw rhai o henebion cynhanesyddol mwyaf
trawiadol Cymru. Maent yn dioddef erydiad parhaol, mae rhai wedi diflannu’n
llwyr i’r môr ac mae’r rhan fwyaf wedi lleihau o ran maint. Yn dilyn arolwg
yn 1994, a gyllidwyd gan Cadw, o’r holl gaerau arfordirol, targedwyd dwy
i’w cloddio: Porth-y- Rhaw ger T~ Ddewi a Great Castle Head, Dale. Archwiliwyd
Porth-y- Rhaw yn 1997-98 a Great Castle Head yn 1999. Mae cloddiau a ffosydd
amddiffynnol Great Castle Head yn parhau mewn cyflwr gweddol ond o ganlyniad
i dirlithriad enfawr gostyngodd wyneb y tir ar yr ochr ddeheuol nifer
o fetrau ac felly mae dehongli’r gwrthgloddiau’n anodd iawn. O fewn yr
amddiffynfeydd dim ond rhan fechan o’r lle a fuasai ar gael ar gyfer adeiladu
tai sydd ar ôl bellach. Mae’r cloddio’n canolbwyntio ar y rhan fewnol
sydd ar ôl gyda ymchwiliad cyfyngedig yn unig o’r system amddiffyn. Oherwydd
mai lle bychan sydd ar gael i’w gloddio nid oedd yn bosibl adnabod tai
crwn nac adeileddau eraill, ond dengys nifer y tyllau pyst, y cwteri,
a’r pyllau, y bu anheddiad dwys a hirhoedlog o bosib ar y safle. Yn gyffredin
â chloddfeydd eraill ar gaerau Oes Haearn yn ne-orllewin Cymru, dim ond
ychydig o arteffactau a ddarganfuwyd: cwpl o deilchion crochenwaith cynhanesyddol,
darn o grochenwaith Rhufeinig a 80 darn o grochenwaith 12fed a 13eg AD
a gynhyrchwyd yn Ham Green, Briste. Cysylltwyd y gwrthrychau olaf hyn
ag ailfodelu’r amddiffynfeydd yn y Cyfnod Canoloesol. Dengys dyddiadau
radiocarbon fod y gaer wedi ei chodi yn ystod dechrau i ganol y milflwydd
cyntaf CC. Mae adroddiad a fydd yn cynnwys nifer o gyfraniadau gan arbenigwyr
yn cael ei lunio ar hyn o bryd.
Cyswllt Prosiect: Ken Murphy
Crane P 2002 Iron Age promontory fort to Medieval Castle?
Excavations at Great Castle Head, Dale, Pembrokeshire, 1999, Archaeolgia
Cambrensis 148, 86-145
Cafodd y prosiect gymorth grant gan Cadw: Welsh Historic Monuments
|