 |
Llanegwad – cloddio safle diwydiannol o’r canol
oesoedd

Datguddio Llanegwad y Canol Oesoedd
Datguddiodd cloddio rhwng yr Eglwys a’r castell canoloesol yn Llanegwad,
Sir Gaerfyrddin, yn 2007, ran o gae â ffos o’i amgylch yn
cynnwys cyfres o bydewau, cloddiau a thyllau postio. Ynghyd â gweddillion
leinin odyn a llawer o olosg, mae’r rhain yn dangos defnydd diwydiannol
yn ystod rhyw fath o reoli dwr a barcio posibl. Cloddiwyd hefyd olion
adeilad coed. Y tu allan i’r arglawdd mae olion aelwyd a swm mawr
o sorod haearn yn awgrymu gweithgarwch diwydiannol ehangach. Mae’r
crochenwaith yn awgrymu dyddiad canoloesol, yn ei anterth o bosibl yn
y 13eg a’r 14eg ganrif o ran gweithgarwch diwydiannol. Fodd bynnag,
mae darganfod crochenwaith Rhufeinig-Frythonig a llawer o olion callestr
yn awgrymu hanes hwy i’r safle. Ariannwyd y cloddio gan Davies Richards
Llandeilo cyn y gwaith datblygu.

Cyswllt: Phil
Poucher
|