Dyddiadur Cloddio Gorllewin
Eingl 2006

Arolwg Geoffisigol Gorllewin Eingl |
Cloddiad Gorllewin Eingl, Dyddiadur
Cloddio Sir Benfro 2006
Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod yn ymwybodol o fygythiad erydiad arfordirol
ar safleoedd archaeolegol ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae’r
safleoedd hyn yn cynnwys nifer o fynwentydd â beddau
cist sy’n dyddio o ddechrau’r canol oesoedd (rhwng
AD 400 a 1100). Eleni unwaith eto byddwn yn gwneud gwaith
cloddio ar raddfa fechan ym Mae Gorllewin Eingl rhwng Gorffennaf
17eg a 28ain. Bydd yn cael ei wneud trwy gymorth gan Cadw,
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a PLANED, gyda
chymorth gan fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Trwy gynnal arolwg
geoffisegol cyn i’r gwaith cloddio ddechrau mae nifer
o nodweddion sydd â photensial o ran bod o ddiddordeb
archaeolegol wedi’u dynodi.
Mae yna hyd at bedwar grwp o gladdedigaethau
ym Mae Gorllewin Eingl. Nid yw’n sicr a ydynt yn cynrychioli
ardaloedd gwahanol o fewn mynwent unigol, neu a ydynt yn fynwentydd
bach nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio. Cafodd y gyntaf
ei chydnabod yn 1997 pan ddynodwyd hyd at bedwar bedd o fewn
wyneb y clogwyn oedd yn cael ei erydu. Mae rhai eraill wedi’u
dynodi gan gerddwyr a wardeniaid y Parc Cenedlaethol a dynodwyd
un grwp o fewn amgaead yn ystod cloddiad 2005.
Cafwyd hyd i ddyddiadau radiocarbon AD 720-740
a AD 760-960 oddi wrth weddillion ysgerbwd yn ystod cloddiad
2005. Mae dod o hyd i ddilyniant o ran dyddiadau i gladdedigaethau
fel hyn, mynwentydd a chapeli yn holl bwysig er mwyn deall
datblygiad mynwentydd yng ngorllewin Cymru ac ym Mhrydain
hefyd.
Bydd y wybodaeth a geir o’r cloddiad
yn fodd o greu cynlluniau rheoli ar gyfer y safle, er mwyn
osgoi difrod damweiniol, ac er mwyn ceisio ei gadw mor effeithiol
â phosib.
|
|
Diwrnod
1 – Gorffennaf 17eg
Wnaeth yr arolwg geoffisegol a wnaed
cyn i’r cloddio ddechrau ddangos nifer fawr o
achosion a llefydd o weithgarwch archaeolegol posib.
Roeddem yn awyddus i gael gweld beth oedd y rhain, felly
agorwyd pum ffos mewn mannau allweddol ar draws y safle.
Nid yw dau o’r mannau hyn wrth ymyl amgaead y
fynwent, sydd efallai yn – neu efallai nad yw’n
– cynrychioli anheddu domestig. Mae dau arall
yn croesi’r ffosydd ffiniol a gwelwyd hyn gan
yr arolygon gardiometrig a gwrthedd, ac mae’r
olaf o mewn y fynwent ei hunan. Rydym yn gobeithio ateb
pob math o gwestiynau o ran dilyniant y digwyddiadau
yma yng Ngorllewin Eingl.
|
|
|
Diwrnod 2 –
Gorffennaf 18fed
Er gwaetha’r tywydd poeth rydym
wedi bod yn gweithio’n galed. Hyd yn hyn, mae’r
ddwy ffos yn ne’r cae heb ddatgelu unrhyw nodweddion
archaeolegol, a’r gobaith yw y byddwn yn gallu
eu cau cyn bo hir. Serch hynny, mae ffos 15, ar draws
y ddau amgaead wedi bod yn dipyn o ryfeddod! Gallwn
weld yn glir fod yna ffos fawr wedi’i thorri i
mewn i’r creigwely, a thynnwyd sylw at hyn gan
y geoffiseg. Hyd yn oed yn well byth, rydym yn meddwl
ein bod yn gallu gweld ffos arall, yn torri ar ei draws.
Os felly y mae yna dyma’r amgaead o amgylch y
claddedigaethau y gallwn eu gweld wedi’u herydu
o wyneb y clogwyn.
|
|

Myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn glanhau ffos 13

Dechrau cloddio ffos 15
|
Diwrnod
3 - Gorffennaf 19eg
Roedd gennym obeithion mawr y byddai
ffos 15 nid yn unig yn cynnwys ffos fawr naddedig mewn
craig yn amgylchynu’r ardal gyfan o amgylch y
fynwent, ond hefyd tystiolaeth o ail amgaead. Mae’r
arolwg gwrthedd yn awgrymu efallai fod yna glawdd neu
ffos o amgylch y claddedigaethau yng ngwyneb y clogwyn,
ond bellach mae’n ymddangos mai daearegol yn hytrach
nac archaeolegol yw’r nodwedd a gafwyd yma. Mae’r
ddaeareg ym Mae Gorllewin Eingl yn gymhleth iawn –
mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig oherwydd
ei daeareg – ac felly mae dehongli canlyniadau’r
geoffiseg yn anodd iawn. Fodd bynnag, mae gennym un
ffos fawr iawn yr ydym yn bwriadu ei chloddio dros y
dyddiau sydd i ddod.
|
|
Dilyn ymylon y ffos mewn ymgais i ddod o hyd i’r
gwaelod
|
Diwrnod
4 - Gorffennaf 20fed
Yn ffos 13, o fewn y fynwent ei hunan,
rydym wedi bod yn ceisio datrys y berthynas rhwng y
claddedigaethau a’r clawdd amgylchynol o garreg.
Bellach ffurf y clawdd yn dod yn fwy dealladwy hefyd;
mae’n ymddangos ei fod yn cynnwys craidd o bridd
gyda charreg ar y wyneb y naill ochr iddo. Cyn gynted
ag y byddwn wedi tynnu ffotograffau a chynllunio’r
ffos gyfan, byddwn yn dechrau tynnu rhai o’r strwythurau
yn rhydd. Yn y cyfamser, yn ffos 15, rydym wedi parhau
i gloddio’r ffos yn y gobaith y byddwn yn dod
o hyd i dystiolaeth er mwyn gallu dyddio.
|
|

Cynllunio a chofnodi ffos 13
|
Diwrnod
5 - Gorffennaf 21ain
Diwrnod poeth arall, ac mae’r
ffos yn mynd yn ddyfnach o hyd … Mae ffos 13 bellach
wedi’i chynllunio ac mae’r ffotograffau
wedi’u tynnu, ac rydym wedi dechrau archwilio
strwythur y clawdd o garreg. Mae ffos 1 hefyd wedi achosi
tipyn o syndod i ni. Y llynedd wnaeth y ffos hon ddim
cadarnhau unrhyw beth, gan ddangos rhywfaint o dystiolaeth
o weithgaredd ond heb fod mor ddealladwy â hynny.
Cafodd ei hailagor eleni, a heddiw, ym mhen gorllewinol
y ffos, daethpwyd o hyd i grafwr bodiog fflint hyfryd
iawn. Mae’n dyddio o’r Oes Efydd yn fwy
na thebyg.
Roedd y gwaith yn parhau yn y ffos
ar ddiwedd y dydd. Gyda’i siâp V, y dyfnder
ac ochrau naddedig mewn craig, mae’n debygol iawn
ei bod yn dyddio o’r Oes Haearn. Yr hyn sydd ei
angen nawr yw unrhyw fath o dystiolaeth dyddio.
|
|

Ffos 1 – yng ngeiriau un o’r myfyrwyr
‘mae fel symud sment’
|
Diwrnod
6 - Gorffennaf 22ain
Diwrnod haws heddiw – mae yn
ddydd Sadwrn wedi’r cyfan!
Treuliwyd y dydd yn cofnodi’r
ffosydd, a glanhau ffos 1. Mae rhan fwyaf o’r
ffosydd gwag bellach wedi’u cofnodi a gellir eu
cau. Mae’n ymddangos fod yna dystiolaeth o ryw
fath o weithgaredd cynhanesyddol ym mhen gorllewinol
ffos 1 – mae yna rywfaint o olosg a thyllau pyst
posib – ond mae’r ddaear mor rhyfeddol o
sych fel ei bod yn anodd gweld unrhyw beth.
|
|
Y cistfedd gyda’r cerrig gwarddrws yn gyfan,
dros y bedd, gyda’r cerrig wedi’u tynnu
oddi yno

Yn olaf! Gwaelod ffos 15… fe ddylai’r
pridd gwlyb olygu fod y dystiolaeth amgylcheddol wedi’i
chadw’n dda.

Marion Page yn cynllunio yn Ffos 13 gyda traeth
Gorllewin Eingl yn y cefndir


Richard Jones yn egluro'r archaeoleg i rhai o'r
ymwelwyr i'r safle, sef Dave, Ben a Rhiannon White
o Luton a Richard a Rhys Johns o Benfro.
|
Diwrnod
8 - Gorffennaf 24ain
Wedi treulio’r dydd Sul ar y
traeth, mae pawb yn ôl yn y gwaith. Mae’r
nodweddion ‘cynhanesyddol’ yn ffos 1 wedi
bod yn siomedig – bellach rydym o’r farn
eu bod i gyd yn naturiol, ac wedi penderfynu cau ffos
1 a chanolbwyntio ar ffos 13, sy’n cynnwys mynwent,
a ffos 15. Mae’r ffos yn 15 wedi bod yn mynd yn
ddyfnach a dyfnach – ond o’r diwedd rydym
wedi dod o hyd i’r gwaelod! Mae hwn yn nodwedd
anferthol sy’n naddedig mewn craig ac mae’n
ymddangos yn debygol ei fod yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol
(Oes Haearn yn fwy na thebyg) ond yn anffodus nid oes
gennym unrhyw dystiolaeth dyddio ynddo. Mae tystiolaeth
o ail-ddefnyddio amgaeadau cynhanesyddol wedi’i
ganfod mewn safleoedd eraill, ac felly mae hwn yn ddatblygiad
cyffrous.
Yn ffos 13, mae’r clawdd o amgylch
amgaead y fynwent wedi’i adeiladu’n dda
iawn ac mae’n glawdd sylweddol. Er mwyn ei dynnu
yn rhydd, yn gyntaf mae’n rhaid cloddio claddfa
sydd y tu fewn iddo, a gweld a yw’r gladdfa wedi’i
thorri i mewn i’r clawdd. Mae’n ymddangos
fod yna gerrig yn leinio’r bedd, ond mae’r
gist yn eithaf gwahanol i’r lleill yr ydym wedi’u
gweld hyd yn hyn, wedi’i leinio gan lawer o gerrig
bychain yn hytrach nag ychydig o rai mawr.
|
|
Cliciwch
yma is is-lwytho Adroddiad Cyfamserol Gorllewin Eingl Hydref 2006
mewn ffurf Adobe Acrobat.
Saesneg yn unig. (1.3Mb - yn agored mewn ffenestr newydd)
|