
Andy Greef yn marcio’r cloddiad yn Ffynnonwen

Lloyd Bosworth a Richard Jemicz yn trafod yr
arolwg geoffisegol yn Berry
|
Diwrnod 1 16eg Gorffennaf
Roedd y diwrnod cyntaf yn golygu
cael trefn ar bethau – cludo offer i’r
safle a marcio’r ffosydd ar gyfer y gwaith cloddio
y diwrnod canlynol. Mae’r safle yn gorwedd yn
agos at gopa bryn ac mae yna olygfeydd godidog oddi
yno, gellir gweld Mynyddoedd y Preseli i’r de,
Môr Iwerddon i’r gorllewin, ac Eryri i’r
gogledd.
Mae arolwg geoffisegol ar ddetholiad
o amgaeadau o’r Oes Haearn yn cael ei wneud.
Dewiswyd caer bentir i mewn i’r tir yn Berry
ger Trefdraeth yn Sir Benfro fel y safle cyntaf eleni.
Cafodd rhywfaint o waith arolygu ei wneud ar y safle
yn 2005, ond cafodd ei gadael oherwydd i’r offer
fethu.
|
|

Tynnu’r uwchbridd yn Ffynnonwen
|
Diwrnod 2 17eg Gorffennaf
Tynnwyd tua 70% o’r uwchbridd
o amgaead Ffynnonwen gan beiriant. Y bwriad oedd cloddio
rhan fechan o du fewn yr amgaead mewnol a’r
fynedfa sy’n mynd trwodd i’r amgaead mewnol.
Mae ffotograffau awyr ac arolwg geoffisegol a wnaed
yn 2005 wedi dynodi bod y fynedfa yn gorwedd naill
ai ar yr ochr ogleddol neu ddeheuol. Gwelwyd fod hyn
yn anghywir. Felly mae’n rhaid bod y fynedfa
yn gorwedd o dan glawdd ar yr ochr ddwyreiniol ac
nid yw ar gael i’w gloddio.
Parhawyd â’r gwaith ar arolwg geoffisegol
Berry.
|
|

Gwaith glanhau cychwynnol yn amgaead Ffynnonwen

Hubert Wilson a Rosie Bishop yn gosod y grid
ar safle Ffynnonwen

Plot geoffisegol Berry. Arolwg geoffisegol Berry
lle mae’r plot wedi’i gwblhau
|
Diwrnod 3 18fed
Gorffennaf
Cwblhawyd y gwaith o dynnu’r
uwchbridd a dechreuwyd ar y gwaith o lanhau’r
safle. Roedd y tywydd yn boeth a sych iawn. Gan mai
creigwely maluriedig sy’n ffurfio’r ddaeareg
oddi tano gwelwyd mai brwsio caled gan ddefnyddio
brwshes iard oedd y modd mwyaf effeithiol o lanhau.
Ar unwaith bron daeth rhigolau un ty crwn o leiaf
i’r golwg gan gynnwys rhigolau eraill, pyllau
a thyllau pyst.
Mae’r arolwg sydd wedi’i
gwblhau ar safle Berry yn dangos amgaead y ffos gyda
mynedfa ynghyd â ffosydd mewnol llai o faint.
|
|

Harley Brunson a Tom Morgan yn dechrau ar gloddio
ffos fewnol yr amgaead, ochr ogleddol

Lloyd Bosworth a Chaz Randle gyda’r offer
geoffisegol yn Ffynnonwen
|
Diwrnod 4 19eg Gorffennaf
Cwblhawyd y gwaith o lanhau’r
safle, gan gadarnhau fod yna dy crwn. Mae’r
pridd yn sych iawn ac felly roedd yn anodd iawn gweld
y pyllau bach a’r tyllau pyst. Felly dechreuwyd
ar y gwaith cloddio ar y prif rannau o’r ffosydd,
gyda rhannau wedi’u torri trwy ffos fewnol yr
amgaead a ffos allanol yr amgaead ar yr ochr orllewinol.
Hefyd dechreuwyd trwy dorri trwy’r ffos fewnol
ar ochr ogleddol yr amgaead mewnol lle byddai mynedfa
yn debygol o fod yn ôl ffotograffau awyr a’r
arolwg geoffisegol. Wrth lanhau gwelwyd fod yna ffos
yma, ond union wrth ddechrau cloddio darganfuwyd creigwely
ychydig islaw’r wyneb, gan ddynodi o bosib fod
y fynedfa yma mewn gwirionedd. Bydd y gwaith cloddio
yn parhau yn y fan hon.
Arolwg geoffisegol yn y cae wrth
ymyl y cloddiad yn Ffynnonwen gyda’r bwriad
o archwilio’r amgaead cyfan.
|
|
|
Diwrnod 5 –
20fed Gorffennaf
Parhau wnaeth y gwaith cloddio ar
y rhannau o ffosydd, gyda’r gwaith yn mynd yn
dda. Mae ymddangos nad yw ffos yr amgaead allanol
mor ddwfn â’r disgwyl, efallai tua 1m
o ddyfnder. Parhau wnaeth y gwaith ar yr arolwg geoffisegol
yn Ffynnonwen.
|
|

Richard Jemicz, David Knight a Miranda Horan
yn cloddio’r ffos allanol.

Leslie Bowers a Charles Whyte yn y ffos fas ar yr
ochr ogleddol yn dangos creigwely ychydig o dan
yr wyneb.

Lloyd Bosworth, Andrew Kurtzman a Mya Robinson yn
lawr lwytho data o’r arolwg geoffisegol ar
gyfrifiadur clun.
|
Diwrnod 6 –
21ain Gorffennaf
Cyrhaeddwyd gwaelod y ffos allanol
gan ddangos ei bod wir tua 1m o ddyfnder a siâp
V i’r ochrau. Does dim wedi’i ddarganfod
ynddi. Serch hynny, mae’n ymddangos fod y ffos
fewnol yn ddyfnach. Ar ochr ogleddol yr amgaead mae’r
hyn a ystyriwyd i fod o bosib yn fynedfa bellach yn
ymddangos i fod yn ffos fas iawn wedi’i thorri
i mewn i’r creigwely caled. Mae’n ymddangos
fod y graig yn y fan honno mor galed nad oedd hi’n
bosib i’r adeiladwyr gwreiddiol dorri trwyddi.
Parhau wnaeth y gwaith ar y geoffiseg.
|
|

Tom Morgan gyda’r troellen cogail o’r
ffos fewnol.

Andrew Kurtzman yn y ffos allanol.
|
Diwrnod 7 – 23ain Gorffennaf
Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio
rhigol o amgylch y ty crwn sydd yng nghanol y safle.
Darganfuwyd arteffact cyntaf y tymor ym mhridd uchaf
y ffos fewnol ar yr ochr ddwyreiniol – troellen
cogail wedi ei wneud o ddarn o grochenwaith Rhufeinig
o Ddyffryn Hafren wedi’i ail-ddefnyddio. Parhawyd
â’r cloddio ar y rhannau eraill o’r
ffos a gwnaed cynnydd ar yr arolwg geoffisegol.
|
|

Andy Greef gyda’r microlithig o’r
rhigol o amgylch y ty crwn.

Cloddio’r rhigol o amgylch y ty crwn.

Yr arolwg geoffisegol o Ffynnonwen sy’n datblygu.
|
Diwrnod 8 – 24ain Gorffennaf
Darganfuwyd microlithig Mesolithig
fflint – pen saeth bychan – yn ystod y
gwaith o gloddio’r rhigol o amgylch y ty crwn.
Cafodd y gwaith cloddio yn y ffos allanol ei gwblhau
fwy neu lai, gyda’r gwaith glanhau yn cael ei
wneud yn barod ar gyfer tynnu ffotograffau. Mae’r
ffos fas ar ymyl gogleddol yr amgaead mewn cyflwr
tebyg. Mae’r tywydd yn dwym ac yn sych o hyd,
heb unrhyw argoel o law. Y gobaith yw y bydd rhywfaint
o gymylau fydd yn caniatáu i ni dynnu ffotograffau.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol.
|

Golygfa banoramig o Ffynnonwen.
|

Meg Chaby yn cofnodi rhan o’r ffos allanol.

Y twll postyn cyntaf ar y safle yn cael ei gloddio
gan Harley Brunson.
|
Diwrnod 9 – 25ain Gorffennaf
Dechreuwyd ar y gwaith o dynnu ffotograffau
a chofnodi’r ffos allanol. Parhau wnaeth y gwaith
cloddio ar rigol y ty crwn, gyda ffurf crwn y rhigol
yn dechrau dod i’r amlwg. Mae’r tywydd
sych twym yn parhau i rwystro’r broses o adnabod
y tyllau pyst bychain, pyllau a rhigolau, ond dechreuwyd
ar y gwaith o gloddio’r nodweddion mwy o faint.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol
ar safle Ffynnonwen.
|
|

Richard Jemicz yn darlunio rhan o’r ffos
allanol.

Cloddio a chofnodi’r rhigol o amgylch y ty
crwn.
|
Diwrnod 10 – 26ain Gorffennaf
Does dim sôn hyd yn hyn o
waelod y ffos fewnol ar ochr ddwyreiniol yr amgaead.
Mae wedi’i gloddio i lawr i tua 1.5m o ddyfnder
ac mae ymylon y ffos fwy neu lai yn fertigol. Am resymau
diogelwch bydd yn rhaid lledu rhan o’r ffos.
Darganfuwyd darn o slag yn rhigol y ty crwn. Parhau
wnaeth y gwaith cofnodi ar y ffos allanol.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol, gyda’r
arolwg yn dechrau yn y cae lle mae’r cloddiad
yn cael ei gynnal.
|
|

Mya Robinson yn lledaenu’r ffos fewnol.

Golygfa gyffredinol o’r safle yn dangos y
rhigol o amgylch y ty crwn.
Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead a’r
tai crwn y tu allan i’r ffos hirgrwn allanol.
|
Diwrnod 11
– 27ain Gorffennaf
Dechreuwyd ar y gwaith o ledu’r
ffos fewnol ar ochr ddwyreiniol yr amgaead, a mwy
neu lai ar unwaith daeth darn o slag i’r golwg,
sy’n dangos bod haearn wedi’i smeltio
ar y safle. Cloddiwyd llawer iawn o rigol y ty crwn
a pharhau wnaeth y gwaith o gofnodi’r rhannau.
Dechreuwyd cloddio’r hyn sy’n ymddangos
i fod yn balisâd. Mae’r ffos hon yn hyn
na’r ty crwn a ffos y brif amgaead.
Mae’r arolwg geoffisegol wedi
datgelu tai crwn y tu allan i’r amgaead allanol,
mae un ohonynt yn gorwedd o fewn amgaead hirsgwâr
bychan.
|
|

Glanhau’r safle lle lleolir y ty crwn
oherwydd fe ddisgwylir glaw.
|
Diwrnod 12 –
28ain Gorffennaf
Parhau y mae’r tywydd twym
a sych, ond mae’r rhagolygon tywydd yn addo
glaw ar gyfer y penwythnos. Felly treuliwyd rhywfaint
o amser yn glanhau’r safle yn barod ar gyfer
y glaw gyda’r gobaith y byddai’n haws
adnabod y pyllau, tyllau pyst a rhigolau pan fyddai’r
tywydd yn wlyb. Parhau wnaeth y gwaith cloddio ar
nodweddion eraill. Mae rhan o’r ffos fewnol
ar ochr ddwyreiniol yr amgaead wedi’i wneud
yn ddyfnach am resymau diogelwch – aed lawr
i ddyfnder o tua 1.5m ond doedd dim sôn o gyrraedd
gwaelod y ffos.
Cwblhawyd yr arolwg geoffisegol ar
Ffynnonwen. Y syndod oedd anecs bychan gyda thy crwn
y tu allan i’r amgaead hirgrwn mawr.
|

Yr arolwg o Ffynnonwen wedi’i gwblhau yn cynnwys
data o arolwg 2005
|

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gydag
olion o’r ail dy crwn i’w gweld yn y
blaen.

Eva Suarez yn cloddio’r ffos amddiffynnol.

Ian Pegler yn dysgu’r grefft o ddewinio am
ddwr i Adam Jenkins
|
Diwrnod 13
– 30ain Gorffennaf
Methu wnaeth y glaw trwm a chael
unrhyw effaith gan nad oedd hi’n fwy posib gweld
y nodweddion archaeolegol na phan oedd hi’n
sych, ac erbyn canol bore roedd y safle’n hollol
sych unwaith eto oherwydd y cyfuniad o haul a gwynt.
Serch hynny roedd yna ail dy crwn yn amlwg yn y pridd
gwlyb yn gynnar yn y bore. Cloddiwyd llinell grom
sef wal y prif dy crwn o fewn y rhigol ddraenio. Parhawyd
gyda’r gwaith o wneud y ffos fewnol yn fwy dwfn
ac unwaith eto doedd dim golwg o’r gwaelod.
Wnaeth Ian Pegler o Gymdeithas Dewinio
am Ddwr Prydain dynnu sylw at ffosydd claddedig posib
a nodweddion archaeolegol posib y tu allan i’r
amgaead hirgrwn mawr.
O ganlyniad i arolwg geoffisegol
yn amgaead Penpedwast, ger Castell Henllys yn Sir
Benfro darganfuwyd ffosydd amddiffynnol yn amgáu
ty crwn. Bydd yr arolwg yn parhau ar y safle hwn wedi
ychydig o ddiwrnodau o wyliau.

Plot Penpedwast fel ag y mae ar hyn o bryd.
|
|

Cysgodi rhag glaw’r bore.

Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead yn safle
Tre-cefn Isaf yn ymddangos.
|
Diwrnod 14
– 31ain Gorffennaf
Gohiriwyd gwaith y bore oherwydd
y cawodydd trwm. Erbyn diwedd y bore roedd hi’n
bwrw’n gyson ac erbyn dechrau’r prynhawn
rhoddwyd y gorau i’r gwaith am y dydd, ond nid
cyn darganfod gwaelod y ffos fewnol. O ganlyniad i
waith geoffisegol cychwynnol ar safle newydd –
Tre-cefn Isaf yn agos at gloddiad y llynedd yn Nhroedyrhiw
– datgelwyd dechrau amgaead.
|
|

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gyda’r
ail dy crwn i’w weld yn y blaen.

Terry Bourland yn cloddio twll postyn yn yr hyn
sydd o bosib yn ysgubor.

Mya Robinson yn glanhau’r ffos amddiffynnol
fewnol.

Graham French a Piers Collins yn mesur y safle yng
Nhre-cefn Isaf. Gwelir y cloddiad yn Ffynnonwen
ar yr wybren i’r dde o’r offer.
|
Diwrnod
15 – 1af Awst
Roedd yna drydydd ty crwn yn weladwy
o ganlyniad i’r glaw trwm y diwrnod cynt, i’w
weld gan dri o ffosydd sydd fwy neu lai yn grwn, sydd
o bosib yn dynodi tri chyfnod adeiladu. O ganlyniad
i gloddio wal yr ail dy crwn datgelwyd lleoliad y
tyllau bach o fewn ffos grom fas. Y tu allan i’r
ty crwn, mae’r pedwar o dyllau-pyst mawr sydd
wedi’u trefnu’n siâp sgwâr
tua 2.5m ar wahân fwy na thebyg yn olion o ysgubor
lle oedd y llawr wedi’i godi neu ryw adeilad
arall ar gyfer cadw pethau. Gwnaed y gwaith o lanhau
rhannau o’r ffos fewnol fawr yn barod ar gyfer
tynnu ffotograffau ac arlunio.
Wnaeth arolwg geoffisegol o Tre-cefn
Isaf ddatgelu amgaead is-hirsgwâr sydd tua 40m
ar draws gyda thy crwn mewnol a thyllau pyst ar gyfer
strwythur pedwar postyn posib.
Yr arolwg geoffisegol o Tre-cefn Isaf wedi’i
orffen
|
|

Y rhan o’r ffos amddiffynnol fewnol wedi’i
chwblhau gyda Mya Robinson.

Andrew Kurtzman yn cloddio’r rhigol ar ochr
ogleddol y safle.

Cloddio’r ail dy crwn.
|
Diwrnod
16 – 2il Awst
Cwblhawyd y gwaith terfynol o lanhau’r
ffos fewnol a dechreuwyd ei gofnodi. Parhawyd â’r
gwaith o gloddio’r ail dy crwn. Parhawyd hefyd
a chofnodi’r rhigol ar ochr ogleddol y safle.
Mae’r farn ar y rhigol hon yn newid yn ddyddiol
– mae’n bosib y gallai fod yn ddraen neu
yn sail i ffos ar gyfer palisâd. Bydd y gwaith
cloddio dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf yn datrys
y broblem.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol ar safle Troed
y Rhiw. Cloddiwyd y safle hwn yn 2005. Mae wedi’i
rannu’n ddau hanner gan lôn a dim ond
y cae lle wnaed y gwaith cloddio sydd wedi’i
arolygu. Eleni mae’r cae yr ochr arall i’w
arolygu.
|
|

Cloddio’r hyn sydd o bosib yn ffos balisâd.

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad ar waith

Oli Wilson gyda’i sbectol i’w ddiogelu
rhag y gwynt a’r llwch a wnaed yn arbennig
ganddo
|
Diwrnod
17 – 3ydd Awst
Roedd hwn yn ddiwrnod o atgyfnerthu,
trwy ddarlunio rhannau o’r ffos fewnol, parhau
gyda chloddio’r tai crwn a’r ffos balisâd
bosib. Am y pedwerydd diwrnod yn olynol wnaeth y gwynt
cryf wneud gwaith yn anodd, yn enwedig gyda’r
llwch sych dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf.
Arolwg 2006 o Droed y Rhiw wedi’i gwblhau.
|
|

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad yn parhau
yn dangos y ty crwn cyntaf ac ail a’r adeilad
pedwar postyn ar ochr chwith y ffotograff.

Yr arolwg geoffisegol o Penpedwast wedi’i
gwblhau. Mae pob un o sgwariau’r arolwg yn
20m wrth 20m. Mae’n ymddangos fod yr adeiladwyr
wedi gwneud camgymeriad ar y rhan uchaf ar y dde;
yn cloddio ffos oedd yn rhy hir. Dylid nodi hefyd
fod yna dy crwn unigol.

Canlyniadau’r arolwg geoffisegol yn Nhroed
y Rhiw yn ymddangos ynghyd â’r rheini
yn 2006. Ffordd yw’r darn gwag sydd yn mynd
i lawr y canol.
|
Diwrnod
18 – 4ydd Awst
Parhawyd â’r gwaith o
gloddio’r ail dy crwn, gyda’r ffos ddraenio
a llinell y wal fwy neu lai wedi’i gwblhau.
O ganlyniad i waith archwilio ar ochr ogledd ddwyreiniol
y safle darganfuwyd grw^p o byllau a thyllau pyst.
Bydd gwaith ar y rhain yn parhau dros yr ychydig ddiwrnodau
nesaf, ond mae’r canlyniadau cychwynnol yn nodi
bod o leiaf rhai o’r nodweddion hyn yn dyddio’n
gynharach na’r tai crwn a’r brif ffos
fewnol.
Dychwelodd y syrfewyr geoffisegol
i Penpedwast gan gwblhau’r arolwg.
|
|

Ken Murphy yn tynnu sylw at nodweddion o ddiddordeb
yn y ffos fewnol i grwp o ymwelwyr.

Rhan o amgaead Penpedwast yn cael ei fesur ar gydraniad
uchel (sgwariau yn 10m x 10m) yn dangos manylion
o’r ty crwn canolog a strwythurau eraill.
|
Diwrnod
19 – 6ed Awst
Wnaeth erthygl fer yn y papur newydd
lleol a phosteri a rhoddwyd mewn siopau ddenu mwy
na 200 o bobl i ddiwrnod cloddio agored. Rhoddwyd
teithiau tywysiedig a chafwyd arddangosfa ar bosteri
er mwyn cynnig mwy o wybodaeth. Diolch byth wnaeth
hi gadw’n sych, o leiaf tan ddiwedd y dydd,
er roedd yn wyntog. Parhau wnaeth y cloddio ar yr
ail dy crwn ac ar byllau eraill a thyllau pyst.
Gan fod rhai o’r staff yn brysur
gyda’r diwrnod agored, cymerwyd y cyfle i arolygu
rhan o amgaead Penpedwast a arolygwyd cynt er mwyn
dod i well penderfyniad, gyda thrawsteithiau o 0.5m
yn hytrach na’r 1 m arferol. Gwelir y canlyniadau
yma.
|
|

Sue Middleton a Mya Robinson yn cloddio mwy o fur
ffos y ty crwn cyntaf a ddaeth i’r golwg oherwydd
y glaw.

Rhan o’r ffos yn dangos clogfaen fawr o gwarts
a gloddiwyd gan Andy Greef.

Golygfa gyffredinol o’r safle.

|
Diwrnod
20 – 7fed Awst
O ganlyniad i’r glaw mân
dros nos datgelwyd pyllau, tyllau pyst a rhigolau
na welwyd ers y glaw wythnos yn ôl, yn ogystal
â rhai newydd, a chymerwyd y cyfle i wneud cynllun
o’r rhain fel modd o baratoi ar gyfer y cloddiad.
Erbyn canol bore roedd y safle wedi sychu yn yr haul
a gwyntoedd cryf, a diflannu wnaeth y pyllau, tyllau
pyst a rhigolau. Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio’r
rhain, trwy gymorth y cynllun. Wnaeth rhan fer trwy’r
brif ffos fewnol ar yr ochr ddwyreiniol ddatgelu clogfaen
fawr o gwarts, sydd mae’n bosib wedi dymchwel
o wrthglawdd o glawdd ar ymyl mewnol y ffos (roedd
y clawdd wedi mynd yn llwyr).
Wnaeth arolwg geoffisegol ar safle
newydd, Cwmhowni, ddatgelu amgaead afreolaidd ei siâp
gyda darnau mwdlyd a allai o bosib fod yn dai crwn.
|
|

Nigel Martin a Natalie yn cloddio’r ffos
balisâd ar ochr ogleddol y safle.

Y cloddiad cychwynnol o’r trydydd dy crwn.

Y plot terfynol yn amgaead Cwnhowni.
|
Diwrnod
21 – 8fed Awst
Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio
rhigolau’r trydydd dy crwn. Roedd yn bosib gweld
tri rhigol yn cynrychioli tri cham y gwaith adeiladu.
Mewn mannau eraill ar y safle daeth y gwaith cloddio
terfynol a chofnodi’r pyllau a thyllau pyst
i ben fwy neu lai gan baratoi ar gyfer tynnu ffotograffau
ar y diwrnod olaf.
Cwblhawyd yr arolwg geoffisegol yng
Nghwmhowni.
|
|

Y rhigolau draenio yn ymddangos yn y trydydd
dy crwn.

Ffotograff o’r grwp ar ddiwedd y cloddiad
|
Diwrnod
22 – 9fed Awst
Diwrnod olaf y cloddiad. Cloddiwyd
rhannau o rigolau’r trydydd dy crwn.
Roedd y rhain yn fas iawn, dim ond
ychydig gentimedrau i mewn i’r creigwely, ac
mae’n ymddangos eu bod yno er diben draenio
yn hytrach nag ar gyfer diben strwythurol. Cymerwyd
y ffotograffau olaf o’r safle.
|

Golygfa banoramig o’r safle gyda’r cloddio
wedi’i gwblhau.
|

Ail-lanw’r safle.

Golygfa o’r parti ar ddiwedd y cloddiad.

Clirio’r gwersyll a pharatoi i fynd adref.
|
Diwrnod
23-24 10fed-12fed Awst
Dechreuwyd ar y gwaith o ail-lanw’r
safle ar ddiwrnodau 22 a 23. Cafwyd parti ar noson
diwrnod 23, ac ar ddydd Sadwrn 24ain Awst, diwrnod
24, wnaeth pawb adael y gwersyll a chychwyn ar eu
siwrneion pell ac agos adref.
|
|