Dyddiadur Cloddio Crug
Brownslade, Sir Benfro 2006

Lleolir Crug ‘Brownslade’ ar Ystâd
Hyfforddiant Milwrol y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastell martin
yn ne orllewin Sir Benfro. Tomen gladdu ydyw y credir ei bod yn
dyddio o ddiwedd y cyfnod Neothilig neu ddechrau’r Oes Efydd.
Serch hynny, mae gwaith archwilio gan hynafiaethwyr ddiwedd y 19eg
ganrif wedi dynodi claddedigaeth ganolog sydd wedi awgrymu ei fod
yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig-Brythonig. Mae rhagor o gladdedigaethau
wedi’u dynodi yn ac o amgylch y grug ac mae’n ymddangos
bod rhai o’r rhain yn gistiau gyda cherrig. Mae hyn yn awgrymu
fod y twmpath crug wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer mynwent Gristnogol
o’r oesoedd canol cynnar.
Mae’r ardal o amgylch y grug wedi’i
difrodi’n ddifrifol gan foch daear ac mae sawl asgwrn dynol
wedi dod i’r wyneb. Hyd yn hyn mae cyfanswm o 104 o ddarnau
o asgwrn sy’n cynrychioli o leiaf chwe unigolyn wedi’u
harchwilio. Mae tri dyddiad radiocarbon ar gyfer y darnau hyn o
esgyrn yn dynodi dyddiadau o rhwng AD 450 a AD 960.
Mae’n amlwg fod y safle yn wynebu bygythiad
sylweddol oddi wrth y moch daear hyn. Mae penderfyniad bellach wedi’i
wneud gan yr Ystâdau Amddiffyn, mewn trafodaeth gyda Archaeolegydd
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Cadw,
i ail-leoli’r moch daear, gosod ffens yn ei le i atal moch
daear rhag difrodi’r fan hon a chychwyn ar gloddiad llawn
o’r mannau hynny sydd wedi’u heffeithio waethaf.
Cynhelir y cloddiad hwn yn ystod mis Awst 2006
a bydd yn cael ei ariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd yn
cael ei arwain gan archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gyda chymorth
gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a myfyrwyr o Brifysgol
Caerdydd.
|
Diwrnod 1 –
Dydd Llun Gorffennaf 31
Cyn dechrau ar y gwaith cloddio cafodd set newydd ei
greu i’r moch daear a hefyd daeth y broses hir
o’u hannog i symud i mewn i’w cartref newydd
i ben.
Treuliwyd diwrnod cyntaf y cloddio
yn gosod ffiniau’r ffos gan ddechrau ar y gwaith
o glirio’r llystyfiant tra’n ceisio osgoi’r
cawodydd. Mae’r ffos yn mesur 30m wrth 20m ac
mae’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r
set moch daear gan gynnwys lle oedd y moch daear yn
cael mynediad iddo lle darganfuwyd yr esgyrn dynol.
Cyn i ni allu cloddio, bu’n rhaid i’r tîm
sy’n chwilio a diffodd bomiau archwilio’r
safle rhag ofn fod yna fomiau oedd heb eu ffrwydro!
|
|
|
Diwrnod 2 –
Dydd Mawrth Awst 1
Penderfynwyd i ddechrau trwy agor cyfres
o ffosydd profi 2m o led er mwyn profi cymeriad yr haeniad
ac i weld faint o ddifrod mae’r moch daear wedi’i
wneud. Yn ymyl dwyreiniol y ffos dadorchuddiwyd wal
o gerrig yn mynd o’r gogledd i’r de ac yng
nghanol y ffos yn y gogledd darganfuwyd yr olion cyntaf
o esgyrn dynol – penglog a sawl asgwrn hir a gafodd
eu haflonyddu oherwydd twrio’r moch daear.
|
|
|
Diwrnod 3 –
Dydd Mercher Awst 2
Darganfuwyd rhagor o feddau dynol yn
cynnwys cist fechan o gerrig. Serch hynny, mae’n
ymddangos eu bod wedi’u difrodi’n eithaf
gwael gan y moch daear. Mae un o’r ffosydd profi
yn dangos rhwydwaith o dwnelau a siambrau sydd wedi’u
creu gan y moch daear ac o ganlyniad mae’r nodweddion
archaeolegol a waliau cerrig wedi dymchwel.
|
|
|
Diwrnod 4 –
Dydd Iau Awst 3
Bellach rydym wedi dechrau symud yr
haenau uchaf o’r uwchbridd a’r tir sydd
wedi’i ddifrodi gan y moch daear trwy ddefnyddio
peiriant er mwyn gweld yr olion sydd yn y beddau oddi
tano.
|
|
|