Cyflwyniad
Mae cymuned Maenclochog wedi mynegi diddordeb mawr mewn hanes
ei haneddiad ac yn arbennig ‘safle’r castell’.
Er bod cymaint o syniadau a straeon, mae’r cwestiynau
“Beth oedd yno?” a “Phryd?” yn parhau
heb atebion.
Mae ymchwil dogfennol wedi dangos y gallai’r
ardal o dan sylw fod yn safle castell Canoloesol wedi’i
gofnodi, y lleoliad posibl o loc amddiffynnol o Oes yr Haearn
a’r safle hysbys o Ffald y Faenor wedi’i dyddio
o leiaf o’r 18fed ganrif (Arolwg Castell Maenclochog,
Medi 2006, Jenny Hall a Paul Sambrook (Trysor), comisiynwyd
gan Cymdeithas Clochog).
Yn bresennol, defnyddir y safle fel maes
parcio cymunedol ac, yn sgil hynny, does dim llawer i’w
weld ar lefel wyneb y tir. Er hynny, i’r dde-orllewin
mae teras bychan tu allan i’r clawdd sy’n awgrymu
y gallai fod olion o ffos amddiffynnol allanol ac, i’r
de, brigiad craig sydd efallai yn weddillion mwnt castell.
Y Cloddiad
Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol
Arfordir Penfro a PLANED, yn gweithio gydag aelodau Maenclochog
a chymunedau agos i ddatblygu a gwneud cloddiad archeolegol
o safle’r castell dros bythefnos (Medi 19eg - 30ain).
Hefyd bydd y dilyniant, y dadansoddiad ar ôl y cloddiad
a’r adroddiad yn cynnwys aelodau’r gymuned.
Bydd y cloddiad hwn yn galluogi’r gymuned
leol i gymryd rhan yn weithredol mewn ennill gwell ddealltwriaeth
o hanes eu cymuned. Ynghyd â’i arwyddocâd
hanesyddol mawr fel rhan o ddatblygiad Maenclochog, mae’r
safle wedi cael ei adnabod fe un pwysig i welliannau arfaethedig
y pentref. Bydd yr wybodaeth a enillir yn helpu’r gymuned
i wneud penderfyniadau ar oruchwyliaeth ddyfodol y safle.
Bydd hefyd yn helpu nhw i ddarparu gwybodaeth am y pentref
ar gyfer trigolion, ymwelwyr a thwristiaid.
Mae PLANED yn cefnogi’r cloddiad cymunedol
hwn fel rhan o brosiect treftadaeth trawswladol sydd yn cael
ei ariannu gan yr UE gyda’r nod o hyrwyddo cymunedau
i ddathlu eu treftadaeth a diwylliant.
|