
PANT-Y-HAIDD
CYFEIRNOD GRID: SN 697726
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 205.7
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon, fodd bynnag,
oherwydd ei chymeriad ucheldirol a’i llethrau serth mae’n
debyg bod yr ardal wedi cynnwys rhostir agored neu dir pori garw am ran
helaeth o’r gorffennol. Roedd yn rhan o ystad Trawscoed erbyn y
18fed ganrif, ac mae map o’r ystad dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed
Cyf 1, 47) yn ei dangos fel tir agored. Dangosir patrwm tebyg ar y map
degwm (map degwm a dyraniad Llanafan, 1845), ond erbyn diwedd y 19eg ganrif
roedd yr ardal wedi’i rhannu’n gaeau mawr iawn. Mae’r
ardal gyfan wedi’i phlannu â choedwigoedd erbyn hyn. Dechreuwyd
plannu coed ar y llethrau serth ar dir a brynwyd gan ystad Trawscoed yn
y 1930au (Edlin 1959, 13), a pharhaodd y gwaith ar ôl yr Ail Ryfel
Byd ar dir uwch.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys rhan o lethr serth
iawn dyffryn Afon Ystwyth sy’n wynebu’r gogledd. Mae llethrau
is y dyffryn yn disgyn i 100m, mae’r ardal yn codi i dros 340m lle
y mae ar ei huchaf. Ar wahân i gilfach fach sy’n cynnwys anheddiad,
mae’r ardal gyfan wedi’i phlannu â choed. Mae ty sydd
wedi goroesi yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg, ond
mae wedi’i foderneiddio gryn dipyn. Cyn cael ei phlannu â
choed ymddengys fod yr ardal yn cynnwys tir agored, er ei bod wedi’i
rhannu’n gaeau mawr yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.
Mae bryngaer Cefn Blewog sy’n dyddio o’r
Oes Haearn yn darparu elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd hon. Mae
cloddwaith y safle pwysig hwn bellach wedi’u lleoli yn ddwfn mewn
coedwig. Yr unig olion pwysig eraill yw rhai’r diwydiannau cloddio
metel sy’n dyddio o’r 19eg ganrif gan mwyaf.
Mae hon yn ardal o goedwigoedd ac iddi ffiniau pendant.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |