 |

NANT-Y-MOCH
CYFEIRNOD GRID: SN756855
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 952.2
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon,
fodd bynnag, am ei bod yn cynnwys tir agored byddai’r Goron wedi
hawlio llawer ohoni. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, cofnodir tir ar y llethrau
isaf a llawr y dyffryn fel ffermydd ar fapiau o ystadau Gogerddan a Nanteos.
Nid yw’n hysbys pryd y sefydlwyd y ffermydd, gallant fod yn hen
iawn, neu gallant ddyddio o gyfnodau mwy diweddar; o ganlyniad i dresmasu
ar dir agored. Ni wyddom sut y daethant i feddiant ystadau Gogerddan a
Nanteos ychwaith. Dengys y mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC R.M. C21; LlGC Cyf 45, 24; LlGC Cyf
37, 37) ffermydd ucheldirol nodweddiadol - sef Camddwr Mawr, Camddwr Bach,
Maesnant, Nant Llyn, Nant Caerhedyn a Nant Hirnant. Ffermydd anghysbell
yw’r rhain a chanddynt un neu ddau gae bach gerllaw wedi’u
gosod mewn lleiniau helaeth o ffridd agored. Yn ystod y 19eg ganrif rhannwyd
ffridd ar y llethrau is yn gaeau mawr. Ym 1865, sefydlwyd eglwys gan y
Methodistiaid Calfinaidd ym Mlaenrheidol i wasanaethu’r gymuned,
ond roedd yn gymharol fyrhoedlog am iddo gael ei foddi ym 1964 o dan ddyfroedd
cronfa ddwr Nant-y-Moch. Mae cronfa ddwr Nant-y-Moch yn rhan o gynllun
hydrodrydanol Rheidol, ac mae ei dyfroedd a’i hargae, ynghyd â
rhai cronfa ddwr Dinas yn is i lawr y dyffryn, yn ffurfio elfen ddramatig
yn y dirwedd.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd
Mae’r ardal hon yn cynnwys rhan o ddyffryn uchaf
Afon Rheidol. Mae’r afon yn disgyn trwy’r ardal hon mewn cyfres
o raeadrau o uchafbwynt o 400m yn ei phen gogleddol i lawr i 240m yn ei
phen deheuol. Torrwyd ar draws llif yr afon gan ddwy gronfa ddwr a adeiladwyd
ar gyfer cynllun hydrodrydanol Rheidol ym 1964. Mae’r uchaf o’r
ddwy, sy’n fwy o faint hefyd, yn cynnwys cronfa ddwr helaeth Nant-y-Moch,
mae’r isaf - sef Dinas – yn dal llai o ddwr. Mae’r ddwy
gronfa ddwr yn elfennau dramatig a phwysig o’r dirwedd hanesyddol.
Gerllaw Dinas ceir adeiladau a meysydd parcio’r cynllun hydrodrydanol.
Mae’r dirwedd hon o weithgarwch cynhyrchu ynni wedi’i harosod
ar dirwedd amaethyddol o ffermydd mynydd. Mae’r ffermydd wedi’u
gwasgaru’n eang ac maent wedi’u hadeiladu yn draddodiadol
o gerrig wedi’u rendro â sment o dan doeau llechi. Fel arfer
mae gan y ffermdai ddau lawr, maent yn fach ac yn dyddio o’r cyfnod
rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent yn yr arddull frodorol Sioraidd
nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt
canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws
ac un uwch ei ben. Ailadeiladwyd un neu ddau o’r tai yn gyfan gwbl
neu fe’u moderneiddiwyd yn helaeth. Ceir un neu ddwy res o adeiladau
allan fferm wedi’u hadeiladu o gerrig, gyda rhai ohonynt ynghlwm
wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef, ar y mwyafrif o ffermydd, yn ogystal
ag adeiladau amaethyddol modern o faint canolig. Ceir ffermydd a bythynnod
anghyfannedd hefyd. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau mawr wedi’u
rhannu gan gloddiau a chloddiau caregog ac ambell wal sych. Ar lefelau
is ceir gwrychoedd wedi’u hesgeuluso ar rai o’r cloddiau,
ond mae’r mwyafrif o’r ffiniau bellach yn ddiangen, a rhennir
y caeau gan ffensys gwifren. Tir pori garw yw’r prif ddefnydd a
wneir o’r tir, a cheir tir pori wedi’i wella gerllaw ffermydd
ac ar rai llerthau gweddol serth. Gorchuddir y rhan fwyaf o’r llethrau
esmwyth neu’r tir gwastad gan dir brwynog, mawnaidd. Tirwedd ddi-goed
ydyw yn y bôn.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
gyfoethog ac yn amrywiol. Mae olion niferus aneddiadau anghyfannedd yn
awgrymu tirwedd fwy poblog drwodd i’r 19eg ganrif. Yn aml mae mân
nodweddion amaethyddol gan gynnwys carneddau clirio a waliau neu gloddiau
terfyn yn gysylltiedig â’r aneddiadau hyn. Mae olion mwyngloddiau
metel hefyd yn gyffredin, yn arbennig ar y ffin ogleddol. Mae crugiau/carneddau
yn dyddio o’r Oes Efydd a llawer o safleoedd eraill - a geir yn
aml mewn grwpiau-, meini hirion posibl a darganfyddiadau yn dyddio o’r
cyfnod cynhanes yn arwydd o dirwedd gyfannedd 3000-4000 o flynyddoedd
yn ôl, ond yr unig dystiolaeth uniongyrchol o anheddu yw dau dwmpath
llosg neu ddwy aelwyd.
Ar wahân i’r de lle y mae’r ardal hon
yn cyffinio â thir mwy cyfannedd, is Ponterwyd, ceir coedwigoedd
modern neu ucheldir agored o bobtu i’r ardal hon. Nid yw’r
ffin rhwng yr ardal hon ac ucheldir agored yn glir, ac mae’n debyg
ei bod yn newid yn barhaol wrth i derfynau tir pori wedi’i wella
gael eu gwthio’n uwch i fyny’r llethrau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |