 |

MYNYDD MARCH
CYFERINOD GRID: SN 719832
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 741.4
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai rhan ddeheuol yr ardal
hon o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir, tra gorweddai
rhan o’r tir yng ngogledd yr ardal o fewn Maenor y Dywarchen a oedd
yn eiddo i Ystrad Fflur (Williams 1990, 41, 57). Ar ôl i’r
abaty gael ei ddiddymu ymddengys i’r maenorau gael eu rhannu rhwng
nifer o ystadau cynnar, a daeth y rhan fwyaf o’r tir i feddiant
ystad Gogerddan. Fodd bynnag, mae’n debyg i gymeriad ucheldirol,
agored yr ardal hon sicrhau i’r Goron ei hawlio, nes i ystad Gogerddan
gymryd meddiant ohono yn y 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif. Dengys
mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gogerddan
68, 70; Cyf 37, 37, 57, 60, 64, 66) yr ardal hon fel rhostir neu ffridd
agored, er y dangosir dau fwthyn anghysbell - Lluest Trafle - i’r
gogledd o Gwmsymlog a dangosir dau fwthyn anghysbell arall i’r gorllewin.
Nid yw statws yr aneddiadau hyn yn glir; mae’n bosibl bod yr enw
lluest yn nodi anheddu hynafol ond efallai tymhorol yn wreiddiol, ond
mae’n ddigon posibl eu bod i gyd yn fythynnod sgwatwyr yn dyddio
o’r 18fed ganrif. Yn y 19eg ganrif amgaewyd rhannau o gyrion gorllewinol
is yr ardal hon a’u rhannu’n gaeau mawr iawn, ond mae’n
debyg i’r cymeriad agored cyffredinol gael ei gadw. Cofnodwyd rhywfaint
o goetir collddail ar lethrau serth uwchlaw Nantyrarian yn y 19eg ganrif,
a buwyd yn cloddio am fetel yma, er bod gweithgarwch cloddio wedi’i
ganoli ar y dyffrynnoedd islaw gan mwyaf. Roedd Level Newydd yn weithrediad
bach a weithiwyd yng nghanol y 19eg ganrif, a lleolir cyfleusterau yn
gysylltiedig â mwynglawdd Bwlch Cwmerfyn o fewn yr ardal hon (Bick
1983, 44). Adeiladwyd cronfeydd dwr hefyd i wasanaethu’r mwyngloddiau
ar lefelau is. Trosglwyddwyd yr ardal gyfan i’r Comisiwn Coedwigaeth
a’u plannu â choed conifer. Gwnaed y gwaith plannu cynharaf
o fewn y lleiniau hyn o goetir ac ar lethrau serth yn rhan ogleddol yr
ardal. Yn ddiweddarach, yn ystod y 1960au, plannwyd coedwigoedd ar dir
uwch.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Gorchuddir yr ardal gyfan gan goedwigoedd a blannwyd.
Mae’n cynnwys ucheldir tonnog, ac weithiau creigiog, sy’n
codi i dros 390m lle y mae ar ei uchaf, ond sy’n disgyn i lai na
250m yn ei ben gorllewinol, ar lethrau is dyffrynnoedd. Ar gyfartaledd
mae rhwng 300 a 400m o uchder. Cyn cael ei phlannu â choed cynhwysai
bron y cyfan o’r ardal hon rostir agored, ond dengys ffynonellau
map fod nifer o fythynnod i’w cael o fewn yr ardal, weithiau ag
un neu ddau gae bach cyfagos. Mae o leiaf un bwthyn wedi goroesi - strwythur
deulawr o gerrig wedi’u rendro yn yr arddull frodorol nodweddiadol
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir tomenni a siafftiau, olion y diwydiant
cloddio am fetel, yn rhan ddeheuol yr ardal hon, i’r de o Gwmerfyn.
Mae dwy gronfa ddwr a adeiladwyd i wasanaethu’r diwydiant cloddio
am fetel - sef Llyn Pendam a Llyn Blaenmelindwr - yn elfennau dramatig
yn y dirwedd hanesyddol o fewn yr amgylchedd coediog hwn.
Yn ogystal â’r niferoedd mawr o olion cloddio
yn y cofnod archeolegol, mae aneddiadau anghyfannedd yn awgrymu ardal
weddol boblog tan y 19eg ganrif. Darperir dyfnder amser i’r dirwedd
gan gaer yn dyddio o’r Oes Haearn a nifer o feini hirion yn dyddio
o’r Oes Efydd, gan gynnwys pâr cerrig.
Mae i’r ardal goediog hon ffiniau pendant. I’r
dwyrain, i’r gogledd, i’r de ac yn ffinio â rhan o’r
ochr orllewinol ceir rhostir uchel, agored, a rhywfaint o dir wedi’i
wella yn cyffinio â rhan o’r ochr ddwyreiniol. Yn cyffinio
â llawer o’r ffin orllewinol ceir tir amgaeëdig a chyfannedd
is.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |