
MAEN ARTHUR
CYFEIRNOD GRID: SN 734730
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 104.2
Cefndir Hanesyddol
Nid oedd Maen Arthur yn un o faenorau Abaty Ystrad Fflur
ac mae ei hanes cynnar yn anhysbys. Erbyn yr 16eg ganrif cyfeirid ato
fel ‘demên hynafol’ neu ‘drefgordd’ (Macve
1998, 62). Ym 1586, fe’i prynwyd gan Morris ap Richard o Drawscoed.
Mae chwedl a adroddwyd gan Morgan (1977, 34-35) yn dweud i Morris dwyllo’r
merched a oedd yn berchen ar Faen Arthur i’w roi iddo. Mae prydles
ddyddiedig 1654 yn ymwneud â Maen Arthur yn cofnodi bod gwartheg
a defaid yn cael eu cadw a bod cnydau yn cael eu tyfu. Cofnodir melin
yd a melin dwcio ym Maen Arthur o 1566, ac ym 1608 yn ogystal â’r
felin yd nodir melin doddi (Macve 1998, 62-65). Nid oes unrhyw sôn
am y felin yd ar ôl 1762; erbyn 1760 roedd ystad Trawscoed wedi
penderfynu cau melinau llai o faint a chanolbwyntio gweithgarwch malu
yn y Wenallt. Lleolir ffatri wlân yn dyddio o’r 19eg ganrif
ar gyrion yr ardal hon ym Mhontrhydygroes.
Dengys mapiau degwm (Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn)
batrwm caeau ac anheddu tebyg i’r un a welir heddiw, er bod rhai
aneddiadau wedi’u colli.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal dirwedd fach hon ar lannau Nant Cell,
nant fach sy’n disgyn yn serth ac sy’n llifo i’r de
ac i’r de-ddwyrain. Mae glannau cwrs isaf y nant yn dra choediog,
ond ar lefelau uwch mae’r ardal yn cynnwys llethrau esmwyth o dir
pori wedi’i wella, er y ceir darnau o dir pori mwy garw a dyddodion
mawn mewn pantiau. Mae llawr y dyffryn ym mhen de-ddwyreiniol pellaf yr
ardal yn gorwedd ar uchder o 130m; mae llethrau uwch yn codi i uchder
o 230m. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig wedi’u
gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Rhennir
y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn
cyflwr gweddol dda, ond maent yn dueddol o fod wedi tyfu’n wyllt
ac mewn rhai achosion maent wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifrau
wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. Lleolir olion
dau fwynglawdd metel bach o fewn yr ardal dirwedd hon.
Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol
ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y
toeau. Mae’n debyg bod y ffermdai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif,
ond fel arfer maent wedi’u moderneiddio. Mae gan ffermydd gwpl o
resi o adeiladau allan cerrig ac adeiladau amaethyddol modern helaeth.
Ceir ychydig o dai modern yn yr ardal hon yn ogystal â New Row,
sef rhes o fythynnod gweithwyr pâr yn yr arddull frodorol yn dyddio
o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, y mae’r mwyafrif
ohonynt wedi’u moderneiddio.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn amrywio. Mae
darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser
i’r dirwedd, ond mae’r mwyafrif o’r safleoedd a gofnodwyd
yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol ac maent yn cynnwys melinau,
olion gweithgarwch cloddio am fetel a safleoedd capeli.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. Ceir coedwigoedd
a choetir i’r de ac i’r dwyrain, tra ceir tir uwch yn cynnwys
caeau mawr i’r gorllewin ac i’r gogledd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |