
HEN GAER
CYFEIRNOD GRID: SN 640846
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 282.7
Cefndir Hanesyddol
Gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor y Dywarchen
a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur yn y Cyfnod Canoloesol, a chynhwysai o
bosibl safle crocbren (Williams 1990, 57). Yn y Cyfnod ôl-Ganoloesol
daeth yr ardal i feddiant ystad annibynnol Fferm Gwrt ac ystad Gogerddan.
Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif fod yr ardal yn
cynnwys naill ai dir agored, tir amgaeëdig wedi’i rannu’n
gaeau o faint canolig neu blanhigfa. Perthynai’r blanhigfa i ystad
Gogerddan, ac fe’i hailblannwyd â choed coniffer gan y Comisiwn
Coedwigaeth. Erbyn y 1840au roedd yr ardal gyfan wedi’i hamgáu.
Yr argraff gyffredinol a geir o fapiau ystad yw un o dirwedd a oedd yn
agored tan ganol y 18fed ganrif, hyd yn oed ar lefelau is o 50m. Mae’n
debyg bod un fferm/bwthyn - Ty’n y cwm - yn dyddio o’r cyfnod
ôl-Ganoloesol.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws pen gorllewinol
esgair gron sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin.
Mae copa’r esgair yn codi i uchder o 160m, mae’r llethrau
yn disgyn i tua 50m. Gorchuddir yr ardal gyfan â system gaeau reolaidd
o gaeau o faint canolig. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd.
At ei gilydd mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da, er bod ffensys
gwifrau wedi’u hychwanegu atynt fel arfer. Tir pori wedi’i
wella yw elfen amlycaf y dirwedd a cheir planhigfa o goed coniffer wedi’i
hisblannu ar blanhigfa hyn o goed collddail yn y pen gorllewinol, a phlanhigfeydd
o goed coniffer a choed collddail yn y pen dwyreiniol.
Prin yw’r safleoedd yn y cofnod archeolegol ar
gyfer yr ardal hon, ond mae’r rhai sy’n hysbys yn darparu
llawer o ddyfnder amser i’r dirwedd. Bryngaer sylweddol yn dyddio
o’r Oes Haearn, sef Hen Gaer, a leolir ar gopa’r esgair, yw’r
safle amlycaf. Mae safleoedd eraill yn cynnwys: darganfyddiadau Rhufeinig,
crug crwn a chryg llosg yn dyddio o’r Oes Efydd; mae’n debyg
bod yr olaf yn nodi anheddiad, ac enw lle sy’n awgrymu twmpath clustog
neu wningar yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol neu o gyfnod diweddarach.
I’r gorllewin, i’r de ac i’r gogledd
mae tir amgaeëdig a chyfannedd mwy hynafol, is yn darparu ffin bendant
â’r ardal hon. I’r dwyrain mae’r ardal yn debyg
yn hanesyddol i’r ardal hon, ond mae ffiniau’r caeau wedi
cael eu hesgeuluso’n fwy ac mae golwg y tir i’r dwyrain bellach
yn eithaf gwahanol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |