
GROGWYNION a GWAITHGOCH
CYFEIRNOD GRID: SN 703720
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 112.1
Cefndir Hanesyddol
Ymddengys fod rhan ddeheuol yr ardal hon yn nyffryn
Afon Ystwyth wedi’i chynnwys yn nherfynau’r gogleddol maenor
Mefenydd a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur (Williams 1990, 57). Roedd y faenor
hon ymhlith y tir a gaffaelwyd gan ystad Trawscoed o’r abaty ar
ôl ei ddiddymu. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed
ganrif ei bod yn rhan o Ystad Trawscoed yn ystod y cyfnod hwn (LlGC Gweithredoedd
Trawscoed 5, Cyfres IV, Cyf 1; 49), er i ystad Gogerddan gaffael un fferm
(LlGC Gogerddan 54, 55).
Mae elfennau hanesyddol amlwg yn yr ardal hon yn cynnwys
olion dau fwynglawdd plwm: sef Groggwynion a Gwaithgoch. Mae Grogwynion
yn fwynglawdd hynafol, a bu’n destun achos cyfreithiol yn y 1740au.
Roedd ystad Gogerddan yn berchen ar fferm Pengrogwynion ac ystad Trawscoed
ar y tir o’i hamgylch. Roedd Trawscoed wedi gwneud prydlesi mwynau
newydd i Fentrau Mwyngloddiau Lloegr ym 1742, prydles a heriwyd gan ystad
Gogerddan (Morgan 1997, 219). Y prif gyfnod gweithio ym mwynglawdd Grogwyion
oedd o’r 1790au, a chafwyd cyfnod arbennig o ffyniannus yn y 1880au
(Bick 1974, 17-18). Caeodd Gwaithgoch dros ganrif yn ôl, er i gynllun
o eiddo’r Llywodraeth i ailweithio tomenni ysbwriel mwynglawdd Frongoch
gael ei sefydlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo’r ysbwriel
i weithfeydd wedi’u hadeiladu ar lannau Afon Ystwyth gan ddefnyddio
rhaffordd awyr. Caeodd y gweithfeydd hyn yn y 1920au.
Yn yr ardal hon ceir sawl o fferm ar lethr is y dyffryn
sy’n wynebu’r gogledd. Dengys tystiolaeth ddogfennol eu bod
yn dyddio o ganol y 18fed ganrif o leiaf (Morgan 1997, 219), ac mae’n
debyg eu bod yn llawer hyn na hynny. Dengys map degwm Llanafan dyddiedig
1845 y ffermydd hyn a’u systemau caeau cysylltiedig.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Afon Ystwyth yn yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
hon yn llifo trwy ddyffryn creigiog â llethrau serth iawn. Mae llawr
y dyffryn tua 80m o uchder, ond mae’r llethrau yn codi i dros 350m.
Llawr y dyffryn, y llethrau gogleddol isaf a rhan o’r llethrau gogleddol
uchaf, yw’r unig rannau o’r dyffryn nad ydynt wedi’u
gorchuddio â choedwigoedd ac felly maent wedi’u cynnwys yn
yr ardal hon. Mae llawr y dyffryn yn cynnwys tir garw agored a brwyn a
dyddodion mawnaidd. Oherwydd bod y dyffryn yn gul a’i fod yn llawn
dwr mae’n debyg na chafodd y gorlifdir hwn ei amgáu na’i
ffermio ar raddfa ddwys erioed, a bod y defnydd a wnaed ohono at ddibenion
amaethyddol yn y gorffennol yn debyg i’r defnydd a wneir ohono heddiw;
sef fel tir pori garw tymhorol.
Lleolir dwy fferm â systemau caeau cysylltiedig
o gaeau bach ar y llethrau gogleddol is. Rhennir y caeau pori hyn gan
gloddiau isel ac arnynt wrthychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr
gwael, ni allant gadw stoc ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu atynt.
Nid yw’r ffermydd yn gweithio mwyach. Mae’r tai wedi’u
hadeiladu o gerrig, sydd wedi’u rendro â sment neu wedi’u
gadael yn foel, ac maent yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth
yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif – sef simneiau yn nhalcennau’r
ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall
i’r drws ac un uwch ei ben. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu
o gerrig yn fach, ac mae rhai ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag
ef. Ceir teils llechi a theils coch ar y tai. Nid oes unrhyw adeiladau
fferm sylweddol. Ym mhen gorllewinol pellaf llawr y dyffryn ceir melin
lifio weithredol.
Mae’r llethrau gogleddol, serth, di-goed wedi’u
gorchuddio â sgri o domenni ysbwriel. Mae’r tomenni ysbwriel
yn tresmasu ar draws llawr y dyffryn ym mhen dwyreiniol y dyffryn. Mae
pwll olwyn a siafftiau yn perthyn i fwynglawdd Grogwynion i’w gweld
ar yr wyneb. Wrth droed y llethr sy’n wynebu’r gogledd ceir
olion enfawr melin fathru a melin naddu Gwaithgoch sydd wedi’u hadeiladu
o gerrig. Mae’r rhain yn dyddio o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r
degawd canlynol. Mae’r holl archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon
yn cynnwys olion y diwydiant cloddio metel neu weithfeydd diwydiannol
eraill a dim byd arall.
Mae i’r ardal gymeriad hon ffiniau pendant iawn
ar bob ochr. I’r dwyrain mae Afon Ystwyth yn ymddangos o geunant
gul, goediog. Mae llethrau serth yn diffinio’r ardal i’r gogledd
ac i’r de, ac i’r gorllewin mae’r dyffryn yn ymagor
ar dir amgaeëdig.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |