
ESGAIR FRAITH
CYFEIRNOD GRID: SN 755908
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1540
Cefndir Hanesyddol
Gorweddai’r llain fawr iawn hon o gyn-ucheldir
agored o fewn Cwmwd Geneu’r glyn, y mae’n debyg yr ystyrid
mai tir y Goron ydoedd hyd yn eithaf diweddar. Dengys tystiolaeth map
fod yr ardal i gyd bron yn agored, er bod rhai aneddiadau wedi’u
cofnodi. O fewn ffiniau’r ardal hon neu’n agos atynt ceir
nifer o fwyngloddiau metel pwysig: Henfwlch, Camdwrbach, Eaglebrook, Esgair
Hir ac Esgair Fraith (Bick 1988). Mae’r ddwy olaf yn hen iawn ac
yn gyfoethog, ac fe’u hadwaenwyd fel y Potosi Cymreig (Palmer 1983).
Yn Esgair Hir yr heriodd Syr Carberry Pryse ym 1689 fonopoli’r Goron
ar gloddio am arian ac aur. Agorodd ei fuddugoliaeth y diwydiant cloddio
i gyfalaf newydd, gan arwain at fwyngloddiau newydd a hyrwyddodd ddatblygu
lefelydd a fodolai eisoes. Parhawyd i weithio’r mwyngloddiau hyn
a oedd yn rhai plwm a chopr yn bennaf o’r 17eg ganrif drwodd i ddechrau’r
19eg ganrif. Ar wahân i weithgarwch cloddio am fetel, parhaodd yr
ardal hon i fod yn un anghysbell nas defnyddid ddigon nes i’r tir
gael ei drosglwyddo i’r Comisiwn Coedwigaeth a phlanhigfeydd o goed
coniffer gael eu plannu yn y 1960au.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal ucheldirol greigiog hon, sy’n
codi i uchder o dros 490m, wedi’i gorchuddio â phlanhigfeydd
o goed coniffer a chanddynt ymyl caled. O fewn y coedwigoedd ceir olion
gwasgaredig y diwydiant cloddio metel gan gynnwys tomenni, siafftiau a
phyllau olwynion ac adeiladau, er bod y mwyafrif o strwythurau pwysig
y ddau brif fwynglawdd, sef Esgair Hir ac Esgair Fraith, wedi’u
lleoli y tu allan i’r coedwigoedd. Cyn cael ei phlannu roedd y rhan
fwyaf o’r ardal hon yn rhostir agored; erbyn hyn y planhigfeydd,
y lonydd, y ffyrdd a nodweddion coedwigol eraill yw’r elfennau tirwedd
hanesyddol mwyaf cyffredin ac amlycaf yn yr ardal hon.
Ar wahân i nifer fawr o olion yn gysylltiedig â
chloddio am fetel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys cytiau
hir anghyfannedd ac aneddiadau anghyfannedd eraill. Mae’r rhain
yn dangos bod pobl yn byw yn yr ardal, er bod y boblogaeth honno’n
denau, cyn y 19 ganrif. Ceir olion amaethyddol – corlannau ac ati
– yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol hefyd. Mae crug
crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi rhywfaint o ddyfnder amser
i’r dirwedd.
Ar wahân i nifer fawr o olion yn gysylltiedig â
chloddio am fetel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys cytiau
hir anghyfannedd ac aneddiadau anghyfannedd eraill. Mae’r rhain
yn dangos bod pobl yn byw yn yr ardal, er bod y boblogaeth honno’n
denau, cyn y 19 ganrif. Ceir olion amaethyddol – corlannau ac ati
– yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol hefyd. Mae crug
crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi rhywfaint o ddyfnder amser
i’r dirwedd.
I raddau helaeth ni ddiffiniwyd ac ni ddisgrifiwyd yr
ardaloedd tirwedd hanesyddol sy’n ffinio â’r uned hon
eto. Fodd bynnag, mae rhostir agored yn ffinio â’r ardal hon
i’r dwyrain a chronfa ddðr Nant-y-moch i’r de-ddwyrain.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |