
CRAIG-Y-FINTAN
CYFEIRNOD GRID: SN 709576
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 182.9
Cefndir Hanesyddol
Erbyn hyn mae planhigfa o goedwigoedd yn gwahanu’r
llain hon o ucheldir a’r lleiniau mwy o faint o rostir agored ymhellach
i’r dwyrain ac i’r de. Nid yw hanes yr ardal yn hysbys, ond
mae’n debyg yr ystyrid mai tir agored y Goron ydoedd am ran helaeth
o’r gorffennol diweddar. Yn ei hanfod mae’n dal i fod yn agored,
er iddi gael eu rhannu’n gaeau mawr. Nid oes unrhyw aneddiadau.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain hirsgwar o rostir sy’n codi o
246m ar ei chwr gogleddol i 485m lle y mae ar ei huchaf. Nodweddir ei
chwr gogleddol gan lethr dyffryn creigiog serth yn wynebu’r gogledd,
sy’n codi at lwyfandir tonnog o dir pori garw, rhostir a dyddodion
mawn. Arferai’r llain hon o rostir fod yn rhan o ardal eang o dir
agored, ond erbyn hyn mae planhigfa o goedwigoedd yn gwahanu’r llain
hon o ucheldir a’r rhostir agored i’r dwyrain ac i’r
de, ac o ganlyniad mae wedi colli rhywfaint o’i chydlyniad a’i
chyfanrwydd. Heddiw mae’r ardal yn dal i weithredu fel ffridd. Ceir
rhai waliau sych yn rhannu’r ardal, ond erbyn hyn mae’r rhain
at ei gilydd wedi’u hesgeuluso ac mae ffensys gwifrau wedi’u
hychwanegu atynt. Ymddengys fod y waliau yn gwahanu’r tir agored
a’r tir amgaeëdig i’r gorllewin yn wreiddiol, a’u
bod yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr iawn.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mwynglawdd
metel bach, a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae i’r ardal ffiniau pendant a cheir llawr dyffryn
i’r gogledd, planhigfa o goedwigoedd i’r dwyrain ac i’r
de, a thir amgaeëdig i’r gorllewin.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |