
BANC LLECHWEDD-DDU
CYFEIRNOD GRID: SN 702850
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 131.7
Cefndir Hanesyddol
Roedd yr ardal hon yn rhan o faenor Y Dywarchen a oedd
yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty trosglwyddwyd y
tir i’r Goron, ac yn y pen draw aeth yn rhan o ystad Gogerddan.
Ardal o dir agored ydyw ar hyn o bryd, ac mewn cyfnodau hanesyddol bu
bob amser yn rhostir agored. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn dros esgair greigiog
uchel sy’n codi i 430m lle y mae ar ei huchaf ac sy’n disgyn
i 200m ar ei llethrau gogleddol. Mae’n cynnwys tir pori garw a rhai
pocedi o dir pori wedi’i wella. Ceir carneddau modern sy’n
gysylltiedig â gweithgarwch clirio caeau ar dir a gafodd ei wella’n
ddiweddar. Yn hanesyddol mae’n dir agored, er bod ffensys gwifrau
yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr iawn. Nid oes unrhyw aneddiadau.
Mae cyfres o ffrydiau, a arferai wasanaethu mwyngloddiau metel, yn rhedeg
ar draws llethrau gogleddol yr ardal hon (Tucker 1976).
Ar wahân i’r ffrydiau a grybwyllwyd uchod,
mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys anheddiad
anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir coedwigoedd
i’r dwyrain ac i’r de, tir is a arferai fod yn amgaeëdig
i’r gorllewin, a dyffryn Llawr-y-cwm-bach i’r gogledd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |